Skip page header and navigation

Dr Nicholas Campion BA, MA, PhD

Llun a Chyflwyniad

Mae Dr Nick Campion yn edrych tuag at y camera.

Prif Ddarlithydd, Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau, ac Athro Cysylltiol mewn Cosmoleg a Diwylliant

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

Ffôn: +44 (0) 1570 424985 
E-bost: n.campion@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Rwy’n gyfarwyddwr Canolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant, yr unig Ganolfan academaidd yn y byd i ddelio â pherthnasoedd diwylliannol â’r awyr a’r cosmos. Rwy’n gyfrifol am symud gweithgareddau ymchwil ac addysgu’r Ganolfan yn eu blaenau, trwy oruchwylio myfyrwyr PhD, noddi prosiectau ymchwil, trefnu cynadleddau a digwyddiadau eraill, a chyhoeddi ymchwil trwy’r cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid, Culture and Cosmos, a Gwasg Canolfan Sophia. Rwy’n Gyfarwyddwr Rhaglen ar yr MA mewn Seryddiaeth a Sêr-ddewiniaeth Ddiwylliannol ac yn gyfarwyddwr yr Athrofa Cytgord, yn gweithio gyda Dr Jane Davidson ac INSPIRE, a staff ledled y Brifysgol. 

Mae fy nghyfrifoldebau o ran pwyllgorau yn y Brifysgol yn cynnwys y canlynol:

  • 2008–13. Gweithgor Dysgu Rhithwir (VLE)/Moodle 
  • 2010–11. Gweithgor Darpariaeth Dysgu Hyblyg ac O Bell.
  • 2009–10. Pwyllgor Graddau Ymchwil
  • 2009–12. Pwyllgor Rhyngwladol
  • 2012–2016. Cadeirydd, Pwyllgor Ôl-raddedigion a Addysgir, Yr Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg
  • 2014–2016. Pwyllgor Ôl-raddedigion a Addysgir Cyfadran y Dyniaethau a’r Celfyddydau Perfformio; Gweithgor Graddau Meistr Dysgu Ar-lein ac Integredig.

Diddordebau Academaidd

Rwy’n hanesydd ag arbenigedd mewn anthropoleg. Hanes o Goleg y Breninesau, Caergrawnt oedd fy BA; roedd fy MA mewn Astudiaethau De-ddwyrain Asia (gwleidyddiaeth, hanes a chysylltiadau rhyngwladol) o’r Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd, Llundain; ac Astudio Crefyddau oedd fy PhD, ym Mhrifysgol Bath Spa.

Mae fy mhrif ddiddordeb yn ymwneud â sut mae byd-olygon, neu gosmoleg, yn cael eu llunio, yn enwedig o ran sut rydym yn strwythuro hanes ac yn gweld ystyr yn yr awyr. Rydw i wedi ysgrifennu’n helaeth ar hanes sêr-ddewiniaeth a syniadau hudol ac esoterig eraill, ac ar ddylanwad seryddiaeth ar ddiwylliant, a disgyblaeth newydd Seryddiaeth Ddiwylliannol.

Mae fy mhrosiectau presennol yn cynnwys ystyried archwilio, moeseg a mythau’r gofod. Rydw i hefyd yn ysgrifennu ar iwtopiaeth a chredoau milflwyddol ac yn cynnal diddordeb mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol cyfoes.   

Rydw i hefyd ar Bwyllgor Addysg y Gymdeithas Ewropeaidd Seryddiaeth mewn Diwylliant (SEAC), a Phwyllgor Gweithredol Rhyngwladol Ysbrydoliaeth Ffenomena Seryddol (INSAP).

Meysydd Ymchwil

Yn Gyfarwyddwr ar Ganolfan Sophia, rwy’n gyfrifol am ystod o brosiectau ymchwil. Gweler ein Tudalennau Ymchwil Canolfan Sophia am ragor o wybodaeth ar y rhain.

Mae fy niddordebau ymchwil fy hun yn cynnwys natur cred, hanes a diwylliant cyfoes sêr-ddewiniaeth a seryddiaeth, hud, credoau ac arferion paganaidd a’r Oes Newydd, a sut mae hanes yn cael ei ddyfeisio a’i strwythuro gan syniadau milflwyddol, apocalyptaidd, aur ac iwtopaidd. Archwiliwyd yr olaf yn fy llyfrau, The Great Year (Penguin 1994) a The New Age in the Modern West: Counter-Culture, Utopia and Prophecy from the late Eighteenth Century to the Present Day (Llundain: Bloomsbury 2015). Rwy’n mynd ar drywydd themâu amrywiol, megis y 1960au yn Oes Aur, a goresgyniad Irac yn 2003 fel ymgais i greu iwtopia. Mae fy anerchiad a draddodwyd yn lansiad y Brifysgol ar gyfer y llyfr ar gael ar-lein fel ‘Utopia, the End of History and the Invasion of Iraq’.

Rwy’n ymwneud yn arbennig â’r arfer o briodoli ystyr i’r awyr, dehongliad mytholegol cosmoleg fel systemau ystyr, a’u canlyniadau a’u cymwysiadau gwleidyddol a chrefyddol. Arweiniodd fy ngwaith ar hanes sêr-ddewiniaeth at fy History of Western Astrology (Bloomsbury), Cyfrol 1 ar yr Henfyd a Chyfrol 2 ar y Bydoedd Canoloesol a Modern, ac mae fy astudiaeth gymdeithasegol o sêr-ddewiniaeth fodern yn y DU ac UDA wedi’i gyhoeddi o dan y teitl Astrology and Popular Religion in the Modern West: Prophecy, Cosmology and the New Age Movement (Farnham: Ashgate; Llundain: Routledge, 2015). Cyhoeddwyd erthygl fer ar brif thema’r llyfr, ‘How many people actually believe in astrology?’, yn The Conversation, 28 Ebrill 2017.

Mae gen i ddiddordeb mewn nodweddion ideolegol a mytholegol teithio ac archwilio’r gofod  heddiw, yn enwedig eu perthynas â thraddodiadau hynafol yr esgyniad i’r sêr. Un cyhoeddiad diweddar oedd ‘The Moral Philosophy of Space Travel: A Historical Review’, yn Jai Galliot (gol.), Commercial Space Exploration: Ethics, Policy, Governance (Abingdon: Ashgate), tt. 9-22. Rydw i ar Bwyllgor Gweithredol Rhyngwladol y cynadleddau ar Ysbrydoliaeth Ffenomena Seryddol, yr ydw i wedi cyd-drefnu tair cynhadledd ar ei gyfer yn Rhydychen (2003), Caerfaddon (2010) a Llundain (2015). Roeddwn ar y Pwyllgor Trefnu Gwyddonol neu’n gyd-Gadeirydd cynadleddau’r Gymdeithas Ewropeaidd Seryddiaeth mewn Diwylliant yn 2014, 2015 a 2016.

Astudiaeth o gosmoleg Glasurol yw fy mhrosiect llyfr presennol (i’w gyhoeddi yn 2018/19 gan Ashgate fel Cosmos and Purpose: Cosmology in the Classical World). Fi hefyd yw Golygydd Cyffredinol chwe chyfrol y Cultural History of the Universe (Bloomsbury, i ddod yn 2020), gyda Richard Dunn, Uwch Guradur ar gyfer Hanes Gwyddoniaeth yn Amgueddfeydd Brenhinol Greenwich. 

Rydw i hefyd yn ymwneud â chydweithwyr ar hyrwyddo ymchwil i Archaeoseryddiaeth, astudiaeth aliniadau, cyfeiriadaeth a symboliaeth seryddol yn yr amgylchedd adeiledig. Yn arbennig, rydym yn datblygu cysyniad y ‘nenlun’ (skyscape) fel trydedd elfen trindod amgylcheddol sy’n cynnwys ‘tirluniau’ a ‘morluniau’.   

Yn gyffredinol, mae fy null yn amlddisgyblaethol o fewn cyd-destun y Dyniaethau, a chyn ymuno â Phrifysgol Llambed yn 2007, roeddwn yn Uwch Ddarlithydd mewn Hanes ac yn addysgu yn yr adran Astudio Crefyddau ym Mhrifysgol Bath Spa.

Rydym hefyd yn pwysleisio effaith – lledaenu syniadau trwy gynadleddau a chyhoeddi, yn enwedig trwy ein cynadleddau, Gwasg Canolfan Sophia, y cyfnodolyn Culture and Cosmos, a’r cyfnodolyn i fyfyrwyr ôl-raddedig, Spica.

Gwaith Goruchwylio PhD Presennol

Laura Andrikopoulos, ‘The Psychologisation of Astrology in the Twentieth Century’.

Liz Henty ‘Does archaeoastronomy have a role in the study of British prehistory? An examination of archaeoastronomy’s history and its place in the academy’.

Garry Phillipson ‘Astrology and Truth’.

Anthony Thorley, ‘The Landscape Zodiac Phenomenon: an enquiry into its origins and conceptual characteristics as sacred geography’.

Petra du Preez Spaun: ‘The Afrikaner and the Sky: an investigation into the views held by South Africa’s Afrikaans-speaking people – of the sky, the heavens and astrology: during the apartheid era (1948 to 1994) and in the post-apartheid era (after 1994).’

Pamela Armstrong: ‘A diachronic study of monumentality and cosmology in mid-Holocene southern England and Wales’.

Mara Steenhuisen: ‘Orbs in the Skyscape: An Exploration of Spiritual Experiences with Anomalous Light Phenomena in Digital Culture’.

Gwaith goruchwylio PhD diweddar wedi’i gwblhau

2016: Frances Clynes: ‘An Examination of the Impact of the Internet on Modern Western Astrology’, PhD, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

2015: Glenford Bishop, ‘The Origins of the English Folk Play’. Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

2015: Tamzin Powell (MPhil), ‘Between the Severn and the Wye. A Contemporary Reflexive Ethnography of Rural Pagans’. Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

2015: Will Rathouse, ‘Contested Heritage: Examining relations between contemporary Pagan groups and the archaeological and heritage professions’. Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

2015: David Fisher, ‘Employing 3-Dimensional Computer Simulation to examine the Archaeoastronomy of Scottish Megalithic Sites: the implication of plate tectonics and isostasis’. Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

2013. Bernadette Brady, ‘Theories of Fate among Present Day Astrologers’. Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

2006. Anne Ferlat (MPhil), ‘Pagan Movements in Russia: Postmodern Invention or Return to Tradition? A Comparison with Western Pagan Movement’. Prifysgol Bath Spa

PhDs a Arholwyd

Mario Zammit, ‘A Philosophical Contributions of Kaivalya (Self-realisation) Influential Streams of Contemporary Jyotosa (Indian Astrology) on the Yogasūtras of Patañjali’ Prifysgol Valetta 2016. 

Luc de Backer, ‘Reasoned ‘Conversions’? An Analysis of the Processes by which Western individuals enter the International Society of Krishna Consciousness and assimilate its values and practices’, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, 2016.

David McConville, ‘On the Evolution of the Heavenly Spheres: An Enactive Approach to Cosmography’, Prifysgol Plymouth, 2014.

Martin Wells, ‘The Star of Bethlehem’, Prifysgol Cymru, Llambed, 2009.

Philippa, ‘Popular Culture and Modern Astrology’, Prifysgol Sydney 2009.

Andrew Vladimirou (Prifysgol Birmingham), ‘Michael Psellos and Byzantine Astrology in the Eleventh Century’, Prifysgol Birmingham, 2005.

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

Rwy’n Gyfarwyddwr a Golygydd Gyfarwyddwr ar Wasg Canolfan Sophia, sef gwasg academaidd a sefydlwyd dan raglen busnesau deillio Prifysgol Cymru. Mae’r wasg yn cyhoeddi gwaith academaidd yn y maes pwnc y mae Canolfan Sophia yn ei drafod – cosmoleg, seryddiaeth a sêr-ddewiniaeth mewn diwylliant.

Bellach mae’r Wasg yn cyhoeddi Culture and Cosmos, y cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid ar hanes sêr-ddewiniaeth a seryddiaeth ddiwylliannol, yr oeddwn yn gyhoeddwr arno ers ei sefydlu yn 1997.

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Llyfrau

Papurau, Erthyglau, Erthyglau Gwyddoniaduron a Phenodau mewn Llyfrau

  • 2017: ‘The Importance of Cosmology in Culture: Contexts and Consequences’, yn Abraao Jesse Capistrano de Souza (gol.),  Cosmology, InTech Open.
  • 2016 ‘Astronomy and Culture in the Eighteenth Century: Isaac Newton’s Influence on the Enlightenment and Politics’, yn Jean Paul Hernandez, Cesar Gonzalez Garcia . Giulio Magli, Davide Nadali,  Andrea Polcaro a Lorenzo Verderame (gol), Astronomy in Past and Present CulturesMediterranean Archaeology & Archaeometry, .Cyfrol 16 rhif 4 2016), tt. 497–502
  • 2016: ‘Introduction: Discoursing with the Heavens’ yn Nicholas Campion (gol.), Heavenly Discourses, (Llambed: Sophia Centre Press, 2016), tt. xiv–xxviii,
  • 2016: ‘Archaeoastronomy and Calendar Cities’ yn Daniel Brown (gol.), Modern Archaeoastronomy: From Material Culture to Cosmology, , Journal of Physics: Conference Series, Cyfrol 865, 2016, tt. 1–7.
  • 2016, ‘Introduction: Discoursing with the Heavens’ yn Nicholas Campion (gol.), Heavenly Discourses, (Llambed: Sophia Centre Press, 2016), tt. xiv–xxviii.
  • 2015: ‘The Moral Philosophy of Space Travel: A Historical Review’, yn Jai Galliot (gol.), Commercial Space Exploration: Ethics, Policy, Governance (Abingdon: Ashgate), tt. 9–22
  • 2015: ‘Religion, Archaeology and Modern Calendar Buildings: A study of Avon Tyrrell House in England’, Journal for the Academic Study of Religion, Special Issue: Religion, Archaeology and Folklore, Volume 28.2 (2015), tt. 176–90.
  • 2015: ‘Astronomy, Community and Modern Calendar Buildings’, yn Inspiration of Astronomical Phenomena VIII: City of Stars, golygwyd gan B. P. Abbott (San Francisco: Astronomical Society of the Pacific), Astronomical Society of the Pacific Conference Series, cyfrol 501, tt. 97–102
  • 2015: ‘Definitions of Astrology in the Classical World’, yn (gyda F. Pimenta, N. Ribeiro, F. Silva, A. Joaquinito a L. Tirapicos), Stars and Stones: Voyages in Archaeoastronomy and Cultural Astronomy – a Meeting of Different Worlds (Rhydychen: British Archaeology Reports), tt 84–89.
  • 2015: ‘Babylonian Astrology’ yn Helaine Selin (gol.), The Encyclopaedia of the History of Science, Technology, and Medicine in Non-Western Cultures, Heidelberg, Springer-Verlag, 2015.
  • 2015: (gyda Ronnie Gale Dreyer) ‘Indian Astrology’, yn David Kim (gol.), Modern History of Asian Religions, Leiden: Brill.
  • 2015: ‘Cosmos and Cosmology’, yn Robert Segal a Kocku von Stukrad (gol), Vocabulary for the Study of Religion (Leiden: Brill), tt. 359–64.
  • 2014: ‘The legacy of classical cosmology in the Renaissance: William Shakespeare and astronomy’, Mediterranean Archaeology & Archaeometry, Cyfrol 14, rhif 3, gol., Kim Malville, Xenophon Moussas a Michael Rappenglück.
  • 2014: ‘Astronomy and the State: time, space, power and the foundation of Baghdad’, yn Michael Rappenglűck, Barbara Rappenglück a Nicholas Campion (gol.) Astronomy and Power (Caergrawnt: British Archaeology Reports), tt. 233–9.
  • 2014: Campion, Nicholas, ‘Astrology as Cultural Astronomy’, Handbook of Archaeoastronomy and Ethnoastronomy (gol. Clive Ruggles) (Heidelberg, Springer-Verlag).
  • 2014: ‘Astrology’ in Christopher Partridge (gol.) Routledge Handbook of the Occult (Llundan: Routledge).
  • 2014: ‘John Whiteside Parsons’ yn Christopher Partridge (gol.) Routledge Handbook of the Occult (Llundain: Routledge), tt. 320–3.
  • 2014: ‘Astrology’, Encyclopaedia of Sciences and Religionsyn Nina P. Azari (gol), Springer Dordrecht.
  • 2013: ‘The 2012 Phenomenon in Context: Millenarianism, New Age and Cultural Astronomy’, yn Ivan Šprac a Peter Pehani (gol.), Ancient Cosmologies and Modern Prophets, (Lubljana: Anthropological Notebooks year XIX, supplement, 2013), tt. 15–31.
  • 2013: ‘Augustine and Astronomy’ yn Kim Pafenroth (gol.), Augustine and Science, Augustine in Conversation, Tradition and Innovation, (Lanham, MD: Lexington Books), tt. 83–97.
  • 2012: ‘More on the Transmission of the Babylonian Zodiac to Greece’, ARAM Periodical, Cyfrol 24 rhif 2, tt. 193–201.
  • 2012: ‘Thomas Aquinas, ‘Augustine’, ‘Cicero’, ‘Kiddinu’, ‘Naburiannu’, Biographical Encyclopaedia of Astronomers, gol. Thomas Hockey, Virginia Trimble, Thomas R. Williams, (Efrog Newydd: Springer).
  • 2011: ‘Enchantment and the Awe of the Heavens’, yn Enrico Maria Corsini (gol.), The Inspiration of Astronomical Phenomena VI, Astronomical Society of the Pacific Conference Series Cyf. 441, tt. 415–22.
  • 2011: ‘The 2012 Mayan Calendar Prophecies in the Context of the Western Millenarian Tradition’, yn Clive Ruggles (gol.), Archaeoastronomy and Ethnoastronomy: Building Bridges Between Cultures, Trafodion Synposiwm yr Undeb Seryddiaeth Ryngwladol 278, (9fed Symposiwm Rhyngwladol “Rhydychen” ar Archaeoseryddiaeth), Lima, Peru, 4–14 Ionawr 2011, (Camrgrawnt: Cambridge University Press), tt. 249–54.
  • 2011: ‘Astronomy and Political Theory’, yn David Valls-Gabaud ac Alec Boksenberg (gol.), The Role of Astronomy in Society and Culture, Symposiwm yr Undeb Seryddol Ryngwladol 260, UNESCO, Paris, 19–23 January 2008, (Caergrawnt: Cambridge University Press), tt. 595–602.
  • 2011: ‘Masters Level Education in Archaeoastronomy at the University of Wales Trinity Saint David’ (gyda J. McKim Malville), yn Clive Ruggles (gol.), Archaeoastronomy and Ethnoastronomy: Building Bridges Between Cultures, Trafodion Symposiwm yr Undeb Seryddol Ryngwladol 278, (9fed Symposiwm Rhyngwladol “Rhydychen” ar Archaeoseryddiaeth) Lima, Peru, 4–14 January 2011, (Caergrawnt: Cambridge University Press), tt. 357–63.
  • 2011: ‘Was there an Egyptian Revolution in Ptolemaic Astronomy?: Stars, Soul and Cosmology’, Journal of Cosmology, Cyfrol. 13, (2011), tt. 4174–86.
  • 2011: ‘Astronomy and the Soul’, yn Anna-Teresa Tymieniecka ac Atilla Grandpierre (gol.), Astronomy and Civilisation in the New Enlightenment, Analecta Husserliana, The Yearbook of Phenomenological Research, Cyfrol. CVII, (Heidelberg: Springer, 2011), tt. 249–257.
  • 2010: ‘Astronomy and Psyche in the Classical World: Plato, Aristotle, Zeno, Ptolemy’Journal of Cosmology, Cyf. 9 (2010), tt. 2179–86.
  • 2010: ‘A Review of Academic Literature on Astrology: 1. The Ancient World’,Alternative Spirituality and Religion Review, Cyf. 1 rhif 2 (2010).
  • 2010: ‘Astrology’, yn Nina P. Azari (gol.) Encyclopaedia of Sciences and Religions, (Dordrecht: Springer).
  • 2009: ‘The Antikythera Mechanism: An Archaeoastronomical Artefact in its Literary and Religious Context’, yn José Alberto Rubiño-Martín, Juan Antonio Belmonte, Francisco Prada ac Anxton Alberdi, (gol.), Cosmologies Across Cultures, (Provo, Utah: Astronomical Society of the Pacific), tt. 160–5. 
  • 2009: ‘L’Etat cosmique: astronomie at théory politique’, Planétariums, L’Associations des Planétariums de langue française, Mai 2009, tt. 33–4.
  • 2008: (with Jarita Holbrook), ‘Cultural Astronomy: A Conversation about Degree Programs & Research Questions from Both Sides of the Pond’, Spark: The American Astronomical Society Education Newsletter, tt. 9–11.
  • 2008: ‘Horoscopes as Popular Culture’, yn Bob Franklin (gol.), Pulling Newspapers Apart: Analysing Print Journalism, (Rhydychen: Routledge), tt. 253–61.
  • 2008: ‘Teaching Cultural Astronomy: On the Development and Evolution of the Syllabus at Bath Spa University and the University of Wales, Lampeter’, yn Jarita Holbrook, Rodney Medupe and Johnson Urama (gol.), African Cultural Astronomy: Current Archaeoastronomy and Ethnoastronomy Research in Africa, (Amsterdam: Springer Verlag, Astrophysics and Space Science Proceedings, 2008), tt. 109–119.
  • 2007: ‘Babylonian Astrology’, Encyclopaedia of Non-Western Science: Natural Sciences, Technology and Medicine, (Berlin: Springer Verlag).
  • 2007: ‘Astrology’ yn The Encyclopaedia of Hinduism, gol. Denise Cush, Cahterine Robinson a Lynn Foulston, (Llundain: Routledge).
  • 2007: ‘Aquinas, Thomas’, ‘Augustine’, ‘Cicero’, ‘Kiddinu’, ‘Naburiannu’, Biographical Encyclopaedia of Astronomers, gol. Thomas Hockey, Virginia Trimble, Thomas R. Williams, (Efrog Newydd: Springer), Cyf. 1, tt. 53, 69–70, 235–6, 633, Cyf. 2, t. 819.
  • 2006: ‘Astrology’ yn Encyclopaedia of Witchcraft: the Western Tradition, gol. Richard Golden, San Diego: ABC.CLIO, Cyf. 1, tt. 64–5. 
  • 2005: ‘The Possible Survival of Babylonian Astrology in the Fifth Century BCE: a discussion of historical sources’, yn H. K. von Stuckrad, G. Oestmann a D. Rutkin (gol.), Horoscopes and Public Spheres: Essays on the History of Astrology, (Berlin ac Efrog Newydd: Walter de Gruyter, 2005), tt. 69–92. 
  • 2005: ””Thousand is a perfect number…” quoth Aelfric of Cerne: Millenarianism and the foundation of Sherbourne Abbey’, Proceedings of the conference to commemorate the thousandth anniversary of Sherbourne Abbey, Prifysgol Bournemouth, School of Conservation Sciences, Papur Achlysurol 8, Katherine Barker, David A. Hinton ac Alan Hunt, (gol.), (Bournemouth: Oxbow Books), tt. 33–39.
  • ISBN 1-84217-175-5
  • 2005: ‘The Sun is God’ yn The Inspiration of Astronomical Phenomena, Trafodion Pedwaredd Gynhadledd ar Ysbrydolaeth Phenomen Seryddol, Magdalen College, Rhydychen, 3–9 Awst 2003, (Bryste: Cinnabar Books), tt. 45-56.
  • 2004: ‘Introduction: Cultural Astronomy’, yn Campion, Nicholas, Patrick Curry a Michael York (gol.) Astrology and the Academy, papurau cynhadledd gyntaf The Sophia Centre, Bath Spa University College, 13–14 Mehefin 2003, (Bryste: Cinnabar Books, 2004), tt. xv–xxx.

Gwybodaeth Bellach

Rwy’n darlithio ac yn siarad am natur cred, hud, iwtopiaeth, oes aur a chredoau milflwyddol, a chosmoleg, gan bwysleisio ymgysylltiad â’r cyhoedd.

2017: Roeddwn i’n westai gyda Sharlene Spitteri, Esta Charkam a Kate Bottley ar Saturday Live, BBC Radio 4, ar 13 Mai 2017, yn sôn am hanner canmlwyddiant Haf Cariad.

2015: Roeddwn yn gyd-gadeirydd ar yr wythfed gynhadledd ar Ysbrydoliaeth Ffenomena Seryddol, yng Ngholeg Gresham, Llundain.

2013: Roeddwn mewn sgwrs â’r artist Kapwani Kawanga ar ei ffilm Afrogalactica a’i gwaith ar y cerddor Sun Ra, yn yr Arts Caralyst yn Llundain.

2012: Cefais fy nghyfweld ar Broffwydoliaethau 2012 ar gyfer y rhaglen ddogfen ‘Maya Apocalypse’ (Time Line Films/Sianel 4).

2011: Trefnais y gynhadledd ‘Heavenly Discourses’ ym Mhrifysgol Bryste, gyda Darrelyn Gunzburg, er mwyn dathlu hanner canmlwyddiant y daith gyntaf gan ddynion i’r gofod.

2008: Roeddwn i’n ddarlithydd gwadd ar hud yn rhan o ‘Martian Museum of Terrestrial Art’ Oriel Gelf y Barbican yn Llundain.

2007: Siaradais yng nghyfres darlithoedd Prifysgol Rhydychen ar ‘Paper Moon’.

2007: Cefais fy nghyfweld gan y bardd Ian McMillan ar gyfer BBC Radio 4.

2007: Fe roddais gyfweliad i’r fforiwr a’r anthropolegydd Bruce Parry, cyflwynydd rhaglen BBC2 ‘Tribe’, ar gyfer Siop Lyfrau Stanford ym Mhrifysgol Bryste.

2006: Cyflwynais sgwrs oriel yn Oriel Arnolfini Bryste ar arddangosfa unigol Mark Titchner, lle’r oedd gosodiadau hybrid yr artist yn hyrwyddo ei archwiliad i systemau cred, ac y cafodd ei roi o’i herwydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Turner 2006.

2006: Fe’m cyfwelwyd gan Bel Moonery ar gyfer cyfres BBC Radio 4. ‘Devout Sceptics’.

Mae gwaith blaenorol ar y cyfryngau yn cynnwys:

  • 1999: ‘Apocalypse’, Pioneer Films (Sianel 4, History Channel)
  • 1997: ‘Twinkle Twinkle’, (Hanes astroleg mewn cyd-destun crefyddol), Everyman (BBC 2 UK).
  • 1997: ‘Astrology in the Third Reich’, (History Channel).
  • 1997. ‘Do You Believe in Astrology?’, (Sianel 5 UK).
  • 1996: ‘Astrology’, York Films (Discovery Channel).
  • 1996: ‘Astrology’, Café Productions (History Channel).
  • 1991: Tair rhaglen yng nghyfres Granada TV ‘This Morning’ ar seryddiaeth a’r Oes Newydd.
  • 1990: ‘TV Dante’, cyfarwyddwyd gan Peter Greenaway (Channel 4 UK).