Skip page header and navigation

Tudalen Hafan | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Dewiswch Eich Stori

Students sat on steps outside Alex

Ynglŷn â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Dewch â’ch egni prif gymeriad i PCYDDS. Dewch yn arwr eich stori eich hun, gan greu’r profiad prifysgol rydych wedi bod ei eisiau erioed. Gyda dewis o chwe lleoliad campws a channoedd o gyrsiau yn barod i ysbrydoli, mae’n bryd dal gafael yn eich dyfodol â’ch dwy law.

Gyda ni, byddwch yn cael profiad mwy personol – dosbarthiadau bach a darlithoedd diddorol, gyda digon o ymglymiad myfyrwyr, gan ganiatáu trafodaeth a gwell dealltwriaeth o’ch pwnc. Byddwch yn dysgu gan bobl broffesiynol a fydd yn dysgu popeth sydd angen i chi ei wybod – y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â’r byd fel myfyriwr graddedig hynod gyflogadwy.

More to Explore

one student walking across a field with views of a lake and trees

Darganfyddwch Ein Campysau

Ewch allan o’r ystafell ddosbarth. Pen i lawr yn y llyfrgell. Trafodwch syniadau newydd. Darganfyddwch straeon o’r gorffennol. Mwynhewch fwrlwm bywyd y ddinas. Anadlwch awyr y môr. Mae gan bob un o’n prif gampysau ei naws unigryw ei hun, sy’n rhoi’r lleoliad delfrydol i chi ddechrau eich taith.

Ffeithiau a Ffigurau

Students sat outside on Carmarthen Campus

Dechreuwch Eich Antur

Byddwch yn ymgolli mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfa ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol wrth i chi fynd yn eich blaen. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, byddwn yn eich helpu i gychwyn yn llwyddiannus gyda’ch nodau yn gadarn yn y golwg. 

Gyda graddau mewn celf a dylunio, peirianneg, cyfrifiadura, y dyniaethau, addysg, busnes, rheolaeth, iechyd a chwaraeon, mae gennym gannoedd o opsiynau i ddewis ohonynt. 

Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded ar lwybr

Teithio Gwyrdd

Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.

Newyddion Diweddaraf

Digwyddiadau i Ddod