![A large canvas yurt in a small field; the yurt has a metal chimney; there is a seating area outside with logs and picnic benches; river meadows and the Towy itself are visible in the background.](https://www.uwtsd.ac.uk/sites/default/files/styles/page_header/public/2024-02/cynefin-green-health-hub-exterior-ph.jpg?h=77039d24&itok=2cMQh_2k)
Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin
Cyflwyniad
Mae Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin yn cynnal digwyddiadau therapiwtig mewn lleoliadau awyr agored naturiol. Wedi’i sefydlu yn 2022 yn agos i dref Caerfyrddin, mae’r Hwb yn cynnig canolfan ar gyfer ystod o weithgareddau, gan gynnwys; teithiau cerdded synhwyraidd, teithiau cerdded iechyd, gwneud tanau, gwau helygen fyw, tendio i’r ardd gymunedol a mwy!
Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i gynnal gweithgareddau sy’n hyrwyddo llesiant, bondio cymdeithasol, a gwybodaeth am y byd naturiol.
Beth sydd Ymlaen
Rydym yn cynnig amserlen o weithgareddau rheolaidd yn ogystal â rhai digwyddiadau arbennig. Dewch nôl yn rheolaidd i weld beth sydd ymlaen y mis yma.
Mae’r holl weithgareddau’n rhad ac am ddim oni ddywedir fel arall.
Sesiynau Coed Lleol -11am i 2pm
Cefnogwch eich llesiant trwy dreulio amser yn Yr Hwb Iechyd Gwyrdd gyda Choed Lleol / Small Woods Wales. Dewch i gwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, treulio amser mewn natur a chael seibiant. Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, ac mae croeso i bawb.
Dyddiad | Pwy ddylai ddod? | Gweithgareddau |
---|---|---|
Dydd Mercher 26 Medi – 31 Hydref yn gynhwysol | Oedolion | Dathlu’r Haf |
Dydd Iau 20 Mehefin | Oedolion | Gwylltgrefft, rheffynwaith naturiol a gwehyddu |
24 Mehefin 2024 | Oedolion | Jac y neidiwr Tynnu a Dysgu! |
Dydd Sadwrn 27 Gorffenaf | Oedolion | Tyfu llysiau, cysylltu â natur ac ymwybbyddiaeth ofalgar |
Dydd Sadwrn 24 Awst | Oedolion a theuluoedd | Gwehyddu helyg |
Dydd Iau 26 Medi – 31 Hydref yn gynhwysol | Oedolion | Dathlu’r Hydref |
Dydd Sadwrn 28 Medi | Oedolion a theuluoedd | Printio leino a phrintio/cerfio coed wedi’i ysbrydoli gan natur |
Dydd Sadwrn 26 Hydref | Oedolion a theuluoedd | Canu wedi’i ysbrydoli gan natur |
Dydd Iau 21 Tachwedd | Oedolion | Coginio ar dân gwersyll a fforio yn y gaeaf |
Dydd Iau 12 Rhagfyr | Oedolion | Gwylltgrefft ac adrodd straeon |
Cynefin
![Pobl mewn cae gaeafol yn archwilio cyfarpar cerfio pren wedi’i osod ar fwrdd picnic; mae iwrt i’w weld yn y cefndir.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2024-01/cynefin-green-hub-launch-4.jpg?h=b2182f48&itok=c_pbjYxS)
Teithiau Cerdded Pwrpasol
Teithiau Cerdded Synhwyraidd
![A group of young people pause during a walk down a woodland path.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2024-01/carousel-green-health-hub-3.jpg?h=b2182f48&itok=7LweYXcN)
Rydym yn cynnig teithiau cerdded Synhwyraidd. Rydym wedi’u creu gyda phobl ag anableddau, gofalwyr, ac ymarferwyr proffesiynol anabledd mewn golwg, er bod croeso i bawb ymuno ag un. Ar y teithiau cerdded hyn gallwch archwilio’r byd o’ch cwmpas trwy olwg, arogl, sŵn a chyffwrdd.
Teithiau Cerdded Iechyd Wythnosol
![Silwetau du myfyrwyr yr ysgol haf yn sefyll ar ochr mynydd wrth i’r haul fachlud tu ôl iddynt.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2024-01/watching-the-sunset-870x580.jpg?h=2d235432&itok=3e1YPO7G)
Ymunwch â ni ar ein teithiau cerdded iechyd wythnosol, bob dydd Mawrth am 10.30am.
Lleoliad
Mae’r Hwb wedi’i lleoli llai na dwy filltir o ganol Caerfyrddin. Wedi’i lleoli mewn cae yng nghanol coetir a thir fferm ac yn edrych dros yr Afon Tywi, mae ein lleoliad tawel yn ddelfrydol i archwilio’r awyr agored, dysgu sgiliau ymarferol, neu eistedd wrth y llosgwr pren gyda’r nos.
Dim ond trwy drefnu gydag Andrew Williams ymlaen llaw y ceir mynediad i’r safle.
Teithio
-
Mae lle parcio ar gael ar y safle.
Mewn car, mae’r Hwb bum munud o Gaerfyrddin, neu un awr o Abertawe gan ddilyn yr M4 a’r A48.
-
Mae gwasanaethau bws 226 a 227 Caerfyrddin yn stopio ar Heol Llansteffan, taith fer ar droed o’r Hwb. Nid ydynt yn rhedeg ar ddyddiau Sul.
-
Ar hyn o bryd rydym yn datblygu gwelliannau i’n mynediad i bobl anabl.
-
Gallwch gerdded i’r Hwb o Gaerfyrddin mewn tua 30 munud ar hyd llwybr troed sy’n dilyn yr Afon Tywi.
Oriel
Cysylltwch â ni
![""](https://www.uwtsd.ac.uk/sites/default/files/styles/page_header/public/2024-01/demo-white-header.jpg?h=77039d24&itok=ICG-dY_v)
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni os hoffech wybod rhagor am waith partneriaeth gyda’r Hwb Iechyd Gwyrdd neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hyn a gynigwn.
![Logo dwyieithog monocrom â draig wen a’r geiriau Cefnogwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin.](/sites/default/files/styles/logo_sm/public/2024-01/logo-sir-gar-carmarthenshire-cyngor-council-square-black.png?itok=sIbbclXK)