![Alumni at a reunion event](https://www.uwtsd.ac.uk/sites/default/files/styles/page_header/public/2023-11/alumni-events-and-reunions-header.jpg?h=77039d24&itok=xelNnYgG)
Digwyddiadau ac Aduniadau
Digwyddiadau ac Aduniadau
Cyn belled â’ch bod wedi cofrestru ar gyfer e-gylchlythyrau ac wedi diweddaru eich manylion, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiadau rydym wedi’u cynllunio, yn cynnwys aduniadau, digwyddiadau rhwydweithio neu hyfforddi proffesiynol, ffeiriau gyrfaoedd a mwy. Mae croeso cynnes yn eich disgwyl chi bob amser ar y campws lle roeddech chi’n astudio.
Digwyddiadau ac Aduniadau i Gyn-fyfyrwyr
Digwyddiadau ac Aduniadau i Gyn-fyfyrwyr
Dewch i gwrdd â’ch cyd-fyfyrwyr yn ein haduniadau a chael budd o ymuno â’n digwyddiadau amrywiol.
Methu gweld digwyddiad i chi? Mae cyfleoedd newydd ar y gorwel - efallai bydd digwyddiad y byddech chi wrth eich bodd yn dod iddo neu gymryd rhan ynddo.
Peidiwch â cholli cyfle. Cysylltwch er mwyn i ni allu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
![Torf y seremoni raddio y tu allan i adeilad PCYDDS](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-12/alumni-reunion-spot.jpg?h=bc816b12&itok=C57tR2Bx)
Am gynllunio aduniad?
Aduniad yw’r ffordd berffaith o ailgysylltu a hel atgofion â chyn-fyfyrwyr eich dosbarth gynt, a hyd yn oed wneud cysylltiadau newydd.
Yn ogystal â chynnal aduniadau ar gampysau, rydym ni hefyd yn falch o’ch cefnogi os byddwch chi eisiau trefnu eich aduniad eich hun. Gall y Brifysgol ddarparu cymorth gan estyn allan at gyn-fyfyrwyr eich cyfnod drwy e-byst a hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol, ac efallai gallem ni gynnig ffotograffiaeth broffesiynol ar gyfer y digwyddiad.
Mae gennym ni becynnau aduniad gwych ar gampysau Caerfyrddin a Llambed sy’n cynnwys lleoliad, bwyd a llety.
Os hoffech chi gael cymorth i drefnu eich digwyddiad ac os ydych chi eisiau derbyn pecyn aduniad, cysylltwch ag alumni@uwtsd.ac.uk.