Hafan YDDS  -  Y Brifysgol  -   Campysau, Canolfannau a Lleoliadau  -  Campysau Abertawe

Campws Abertawe



Y DDINAS YW EICH CAMPWS

Matrics Arloesi | Yn agor Mai 2024

Matrics Arloesi, adeilad ac eco-system newydd o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar arloesi digidol, yng nghanol Ardal Arloesi SA1 Abertawe.


Y Gorau O Ddau Fyd

Y ddinas fel eich campws? Yma. Egni cyffrous myfyrwyr? Yma. Teimlwch awel y môr a mwynhewch naws y ddinas wrth i chi astudio a chymdeithasu yn Abertawe. Byddwch o fewn pellter cerdded i’r darn pum milltir o draeth tywodlyd syfrdanol - a’r holl dafarndai, bwytai a bywyd nos gorau sydd gan Abertawe i’w cynnig.

Gwnewch Ef Yn Eiddo I Chi’ch Hun

Mae Abertawe’n ddigon mawr i roi’r lle sydd ei angen arnoch i dyfu, ond yn ddigon bach i wneud i chi deimlo fel eich bod yn perthyn. Yma, y ddinas yw eich campws, ac rydych yn siŵr o ddod o hyd i’ch math chi o bobl. O fywyd nos bywiog i amrywiaeth o weithgareddau awyr agored, byddwch yn dod yn rhan annatod o gymuned groesawgar, lle byddwch chi’n cwrdd â chymeriadau anhygoel ar hyd y ffordd.

Beth Fyddwch Chi’n Ei Astudio

Dewiswch ddechrau’r gwaith ag amcanion gyrfa yn gadarn yn y golwg. Gwnewch donnau mewn busnes. Mynegwch eich hun mewn Celf a Dylunio. Archwiliwch syniadau a datblygiadau arloesol newydd sbon gyda phynciau STEM. Grymuswch y genhedlaeth nesaf drwy addysgu. Mae Abertawe’n adnabyddus am ein rhaglenni arloesol sy’n cael eu harwain gan y diwydiant ac sy’n cael eu llywio gan yrfaoedd sy’n eich rhoi chi ar flaen y gad.

Cyrsiau  Dewch i Ymweld  Gwneud Cais Nawr  Ddim yn siŵr? 

Tri Phrif Gampws 

Mae gennym dri phrif gampws yng nghanol Abertawe:

Large image of IQ

Mae datblygiad Campws Glannau SA1 ac Ardal Arloesi Abertawe PCYDDS, yn ardal forol y ddinas, wrth ymyl y marina a darn pum milltir o draeth tywodlyd.

Y prif adeilad, yr IQ, yw lle byddwch chi’n datblygu syniadau ffres ac yn darganfod dyfeisiadau newydd gyda STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), gyda mynediad at offer arbenigol ar gyfer eich astudiaethau a’ch prosiectau. Mae’r IQ hefyd yn gartref i raglenni addysg ac addysg athrawon PCYDDS yn Abertawe. Ac mae ein llyfrgell newydd hynod fodern, Y Fforwm, gyda’i golygfeydd syfrdanol o’r ddinas a’r môr, ychydig gamau i ffwrdd.

SA1 Glannau Abertawe

Image of ALEX building at night

Meddwl am radd greadigol? Mae adeiladau Dinefwr a Heol Alexandra PCYDDS, sydd wrth galon ardal gelf y ddinas a ger oriel gelf ryngwladol Glynn Vivan, yn gartref i Goleg Celf Abertawe.

Gallwch astudio ystod eang o gyrsiau celf a dylunio arobryn yma yn ein gweithdai a’n gofodau stiwdio hardd. A phan fyddwch yn eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i arddangos eich gwaith yn ein sioe radd flynyddol ledled y ddinas – digwyddiad diwylliannol poblogaidd yn y ddinas a thu hwnt.

Coleg Celf Abertawe

Image of SBC building on clear day

Eisiau gwneud eich ffordd ym myd busnes neu wasanaeth cyhoeddus? Ar Gampws Busnes Abertawe (SBC) PCYDDS, sydd wedi’i leoli’n gyfleus ger yr orsaf drenau, gallwch ymgolli yn ein graddau busnes arloesol.

Byddwch yn dysgu oddi wrth weithwyr proffesiynol ac academyddion sydd â phrofiad o ddiwydiant – ac yn datblygu’r sgiliau amlbwrpas sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn busnes a rheolaeth, gwasanaethau cyhoeddus, iechyd, neu fel entrepreneur. Hefyd, mae llety myfyrwyr gerllaw, sy’n golygu y gallwch fynd o’ch llety i’ch darlithoedd mewn eiliadau.

Campws Busnes Abertawe

Lleoliad Canol y Ddinas

Byw a dysgu yng nghanol dinas lewyrchus ar lan y môr yn PCYDDS Abertawe. Mae lleoliadau’r brifysgol yn cynnwys rhai o adeiladau hanesyddol harddaf y ddinas ochr yn ochr â rhai o’i hychwanegiadau modern mwyaf newydd.

Byddwch bob amser o fewn cyrraedd hawdd i gyrchfannau’r ddinas ar gyfer siopa, adloniant, diwylliant a bywyd nos, a chyfleusterau chwaraeon. Ac os ydych chi am fynd allan o’r ddinas, ewch i ddarganfod y Mwmbwls – ardal fywiog a hardd yn llawn bariau a bwytai, gyda phier a chastell – a phenrhyn godidog Gŵyr, ychydig filltiroedd i fyny’r ffordd o ganol y ddinas.