Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi cymeradwyo Cynlluniau Ffioedd a Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gan ei chaniatáu i osod ffioedd dysgu am ei chyrsiau israddedig ar gyfer ymgeiswyr llawn amser o’r DU/UE.

Mae'r ffioedd hyn yn caniatáu i’r Brifysgol barhau i ddarparu profiad prifysgol o’r safon uchaf ar gyfer myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd ac i ddarparu cyllid ar gyfer cyfleusterau ychwanegol i fyfyrwyr.

Cymeradwyir y cynllun ffioedd gan Gyngor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’i ddatblygu mewn ymgynghoriad ag Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant.


Cynlluniau Ffioedd a Mynediad blaenorol

Cynlluniau Ffioedd a Mynediad (dogfennau PDF)

*
Fersiwn 1:
 - cymeradwywyd gan CCAUC, Awst 2017 
Fersiwn 2:
 - cymeradwywyd gan CCAUC, Rhagfyr 2017
 - gan ddileu datganiadau yn ymwneud â chyfraddau ffioedd dysgu newidiol yng Nghymru
Fersiwn 3:
 - cymeradwywyd gan CCAUC, Awst 2018
 - gan ddarparu Tabl C mewn fformat diwygiedig i gyd-fynd â Chynllun Ffioedd a Mynediad 19/20