Standing in a white room with shelves and a large-leaved green houseplant in the background, Christian Felices looks straight into the camera in a close-up photo.

Hafan YDDS  -  Sefydliadau ac Academïau  -  Cyfadran Busnes a Rheolaeth  -  Staff Busnes a Rheolaeth  -  Christian Felices

Christian Felices  BA, PGCE (PCET)

Cydlynydd Sgiliau Cyflogadwyedd 

E-bost: c.felices@uwtsd.ac.uk



Fi yw cydlynydd cwrs y rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd yng Nghaerdydd ac Abertawe, ac rwy’n addysgu ar draws nifer o raglenni o fewn yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd.

Wedi dechrau fy nhaith ym maes peirianneg, cefais brofiad ymarferol o weithio ar nifer o brosiectau ar draws llawer o wahanol ddiwydiannau, gan gynnwys y meysydd modurol ac amaethyddol.  O fewn y rolau hyn, roeddwn bob amser yn frwdfrydig dros welliant parhaus.

Y brwdfrydedd hwn oedd y rheswm am i mi ddilyn gyrfa ym maes gweinyddiaeth a rheolaeth, un sydd wedi fy ngweld yn symud ymlaen o swydd lefel mynediad i swydd rheoli prosiectau / rhaglenni. Yn rhinwedd fy swydd, rwyf wedi datblygu a gweithredu’n llwyddiannus brosiectau perfformiad ac effeithlonrwydd a gafodd eu defnyddio gan y gangen ac ar draws y cwmni, a gwnaethant gyflawni gwelliannau sylweddol.

  • Yr Academi Addysg Uwch (Higher Education Academy - HEA)

Rwy’n addysgu ar draws nifer o fodylau ac mae gennyf sawl diddordeb academaidd sy’n canolbwyntio’n benodol ar y canlynol:

  • Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau
  • Sgiliau Digidol
  • Strategaeth Fusnes
  • Rheoli Perthnasau gyda Chwsmeriaid

Ar hyn o bryd, rwy’n astudio am radd PhD ‘Toward Harmonious Business’, ac mae’r ymchwil yn cwmpasu detholiad o ddisgyblaethau amrywiol, gan gynnwys ffiseg cwantwm a strategaeth fusnes, gyda’r bwriad o sefydlu ymagweddau newydd at gymdeithas gynaliadwy ac atgynhyrchiol.