
Hafan YDDS - Sefydliadau ac Academïau - Cyfadran Busnes a Rheolaeth - Staff Busnes a Rheolaeth - Michaela Schriek
Michaela Schriek BA (Anrh), MSc, FInstLM, FRSA
Rheolwraig Rhaglen
Ffôn: 07904 787999
E-bost: m.schriek@uwtsd.ac.uk
- Darlithydd
- Tyst AU Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymhwysol (Ymestyn Allan)
- Cydlynydd a Gweinyddwraig Canolfan Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Fel hyfforddwraig Arweinyddiaeth a Rheolaeth a gymeradwywyd gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ynghyd ag asesydd QCF&VRQ cymwysedig, rwyf wedi derbyn rôl Rheolwraig Rhaglen ar gyfer y Dyst AU a drwyddedir gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn ogystal â PCYDDS.
Rwyf yn gyfathrebwraig ardderchog sy’n gymwys gyda TG ac yn datrys problemau yn greadigol. Rwy’n frwd am ddysgu, addysgu a datblygu.
- Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- City and Guilds
- Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau
Bydd y Rhaglen Ymestyn Allan mewn Sgiliau ar gyfer y Gweithle yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed yn Hydref 2022 ac hefyd yn ail-frandio ar gyfer y rhai sy’n dod i mewn yn Hydref 2022 i:
Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol – Ymestyn Allan (A.L.A.M.O.)
Yn fy rôl gyfredol fel Rheolwraig Rhaglen y Dyst AU, rwyf yn gyfrifol am gydlynu’r deunyddiau addysgu, y tiwtoriaid, a gofal bugeiliol y myfyrwyr.
Rwyf yn addysgu’n llawn amser ar y 4 modwl a addysgir o fewn y Dyst AU, sydd yn rhaglen annibynnol ond sydd hefyd yn bwydo i mewn i’r rhaglen BA Ymestyn Allan mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol. Rwyf hefyd yn cyfrannu at ddatblygu’r holl fodylau ar y BA a’r Dyst AU.
Mae’r modylau a addysgir yn y Dyst AU yn ymwneud â’r topigau canlynol:
- Rheolaeth Cyfathrebu
- Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Menter ac Intrapreneuriaeth
Bellach mae pob un o’n myfyrwyr Ymestyn Allan (ynghyd â phob myfyriwr arall yn y brifysgol) hefyd yn astudio dau fodwl hunan-gyfeiriedig Graduate Attribute ar Lefelau 4, 5 a 6.
Llunnir y modylau Priodoleddau Graddedigion i alluogi myfyrwyr i ddatblygu a chofnodi ystod o sgiliau sydd â ffocws ar yrfaoedd ac sy’n berthnasol i’w dewis faes.
Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys:
- cymhwysedd digidol
- ymchwil a rheoli prosiectau
A hefyd:
- cyfathrebu
- creadigrwydd
- adfyfyrio
- gwydnwch a datrys problemau.
Mae cynnwys y modylau yn fynd yn fwy cymhleth ar bob lefel. Mae’r asesu yn y modylau hyn wedi ei deilwra’n benodol i raglen astudio’r myfyrwyr eu hunain. Mae’r rhain yn cael eu hastudio ar yr un pryd â modylau a addysgir ac eir at y deunyddiau addysgu drwy gwrs ar-lein a safle Team. Mae sesiynau tiwtorial/gweithdy rheolaidd gyda Thiwtor hefyd yn cael eu trefnu er mwyn cyfoethogi a chynorthwyo dysgu annibynnol y myfyriwr.
Mae adolygiad pum mlynedd y Dyst AU yn ogystal â’r Rhaglen BA wedi cael eu cymeradwyo a’u dilysu gan y Brifysgol yn ddiweddar, ac rwyf bellach yn y broses o oruchwylio a chyfrannu at ailysgrifennu’r modylau cyfredol yn llwyr yn ogystal ag ychwanegu rhai newydd sbon.
Bydd y rhai newydd yn cael eu hymchwilio’n drylwyr a bydd y deunyddiau addysgu yn cael eu hysgrifennu a’u rhoi drwy’r broses sicrhau ansawdd yn barod i’w darparu yn Hydref 2022 o dan frand newydd y rhaglen.
Bydd asesiadau gyda ffocws ar gyflogaeth briodol yn cael eu llunio a’u hysgrifennu i’w defnyddio gan holl diwtoriaid y Dyst AU.
Mae fy ymchwil helaeth personol dros y 12 mis diwethaf wedi fy ngalluogi i gwblhau’r 49 Dimensiwn Rheolaeth a luniwyd gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac rwyf wedi sicrhau Cymrodoriaeth gyda’r un corff dyfarnu.
Yn 2018 ymgymerais â phrosiect ymchwil ar gyfer thesis fy MSc mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Mae’r Blwyddlyfr a ddefnyddir ar hyn o bryd ar y Dyst AU wedi bod yn brosiect ymchwil yr ymgymerwyd ag ef gyda dau gydweithiwr, ac mae wedi ei hel at ei gilydd gyda’r holl ddeunyddiau sydd ar gael o gyhoeddiadau Cyhoeddwyr Sage.
Maund, A., Schriek, M., Tinkler, P., (2017) Certificate in Higher Education Skills for the Workplace Student Yearbook, Sage.
F’angerdd mwyaf yw datblygu deunyddiau addysgu ac asesu ynghyd â hwyluso dysgu a gofal bugeiliol. Mae ymchwil a datblygu dulliau addysgu yn bwydo i mewn i’m diddordeb personol mewn seicoleg gadarnhaol a’i defnydd fel arf i ddatblygu myfyrwyr aeddfed.
- “Certificate in Higher Education Skills for the Workplace Student Yearbook” (2017) Maund, A., Schriek, M., Tinkler, P.
- “Principles of Assessment” (2015) Schriek, M. United States: KDP