Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar - 2 Flynedd (BA)
Mae’n bosibl astudio'r cwrs hwn ar ein campws yn SA1 Glannau Abertawe, ein campws yng Nghaerfyrddin, neu ar ein campws cymunedol yng Nghaerdydd.
Mae Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd) wedi'i lunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes yn gweithio yn y sector addysg a gofal plant, ac mae’n caniatáu iddynt astudio’n hyblyg o gwmpas eu hymrwymiadau gwaith.
Mae hon yn rhaglen radd lawn amser, arloesol sydd wedi’i chywasgu i ddwy flynedd ac wedi’i chynnwys yn rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau gofynnol i weithio o fewn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Mae hefyd yn gymhwyster sy’n cynnig cymwyseddau ymarferydd graddedig yn Lloegr fel rhan o’r Early Childhood Studies Degree Network (ECSDN).
Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus yn cael gradd yn ogystal â thrwydded i ymarfer o fewn ystod o sefydliadau blynyddoedd cynnar. Caiff darlithoedd eu cyflwyno un noson yr wythnos ac ar ambell ddydd Sadwrn er mwyn galluogi myfyrwyr i barhau i weithio wrth iddynt gwblhau eu gradd.
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar - 2 Flynedd (BA)
Cod UCAS: YBC2
Ymgeisio drwy UCAS
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Gofyn Am Fwy o Wybodaeth Blog Myfyrwyr
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs
- Cymhwyster a gydnabyddir gan Ofal Cymdeithasol Cymru yn drwydded i arfer - gan gefnogi cyflogadwyedd a datblygiad proffesiynol.
- Mae’n darparu cymwyseddau ymarferydd graddedig yn unol â’r ECSDN yn Lloegr.
- Rhaglen garlam – gallwch ennill gradd BA (Anrh) gyflawn mewn 2 flynedd.
- Rydym yn canolbwyntio ar eich datblygiad fel gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar a byddwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa foddhaus a chyffrous ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau.
- Mae astudiaethau dwyieithog a chyfrwng Cymraeg wrth galon ein darpariaeth.
- Dosbarthiadau bach ac aseiniadau arloesol sy’n cyfoethogi sgiliau cyflogaeth a dim arholiadau.
- Profiadau myfyrwyr - ehangu gorwelion trwy ymweliadau, siaradwyr gwadd, a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau ychwanegol i wella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Datblygwyd y rhaglen er mwyn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu am bob agwedd ar addysg a gofal plant ifanc.
Mae’r rhaglen yn rhoi cyfleoedd i gysylltu gweithgareddau ymarferol a phrofiadau yn yr amgylchedd gwaith â damcaniaethau’n gysylltiedig ag addysg a gofal plant.
Bydd y dysgu’n digwydd drwy drafodaethau grŵp, gweithdai, ymweliadau astudio yn ogystal â darlithoedd er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o bynciau perthnasol.
Mae pwyslais ar ddysgu ymarferol er mwyn cefnogi dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer o fewn y blynyddoedd cynnar. Hefyd mae ymweliadau preswyl dewisol ag ardaloedd eraill o’r DU a thramor.
Bydd siaradwyr gwadd yn darparu cyfleoedd i glywed gan arbenigwyr sy’n arwain y sector ac yn cadw myfyrwyr yn gyfredol â pholisi a datblygiadau diweddar o fewn y sector blynyddoedd cynnar.
Addysgir y rhaglen drwy ddull addysgu bloc arloesol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio’n fanwl ar un pwnc ar y tro.
Rydym wedi gweld bod y dull hwn yn llwyddiannus wrth gefnogi myfyrwyr i ennill gwell dealltwriaeth o gynnwys y pwnc. Mae myfyrwyr yn astudio chwe phwnc ar bob lefel o’r rhaglen, pob un yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o agweddau penodol ar addysg a gofal blynyddoedd cynnar.
Mae myfyrwyr yn astudio amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud ag addysg a gofal blynyddoedd cynnar, gyda ffocws ar agweddau ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, llesiant, chwarae, llythrennedd, diogelu, dysgu yn yr awyr agored a chynhwysiant. Mae arweinyddiaeth hefyd yn ffocws allweddol, gan ddatblygu sgiliau arwain y blynyddoedd cynnar.
Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)
- Chwarae plant: Damcaniaeth ac Arfer (20 credyd; gorfodol)
- Datblygiad Dynol (20 credyd; gorfodol)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Amlieithrwydd, Aml-feddwl (20 credyd; gorfodol)
- Y 1,000 Diwrnod Cyntaf (20 credyd; gorfodol)
- Yr Ymarferydd Proffesiynol (20 credyd; gorfodol).
Lefel 5 (Dip AU a BA)
- Ennyn Parch a Rhyfeddod – Mathemateg, Gwyddoniaeth a’r Awyr Agored (20 credyd; gorfodol)
- Iaith a Llythrennedd yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol)
- Arweinyddiaeth a Gwaith Tîm yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol)
- Ymchwil ar gyfer Dysgu (20 credyd; gorfodol)
- Diogelu: Arfer, Deddfwriaeth a’r Tîm Aml-ddisgyblaeth (20 credyd; gorfodol)
- Llesiant, Gofal a Byw yn Iach (20 credyd; gorfodol).
Lefel 6 (BA)
- Arweinyddiaeth Gatalytig – Hawliau, Gwydnwch a Newid Cymdeithasol (20 credyd; gorfodol)
- Cwricwla’r Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol)
- Arweinyddiaeth Gynhwysol Gweithio gyda’n gilydd i Gefnogi Teuluoedd (20 credyd; gorfodol)
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Systemau Ansawdd (20 credyd; gorfodol)
- Adennill Paradwys? Cynaliadwyedd yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol)
- Cynorthwyo Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (20 credyd; gorfodol).
Mae’r rhaglen yn cael ei hasesu 100% drwy waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau.
Rydym ni wedi gweld bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd.
Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu datrys problemau ac sydd ag ystod o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy. Mae’r asesu’n rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar yr un pryd â defnyddio ystod o ddulliau o rannu gwybodaeth yn cynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol.
Hefyd ceir cyfleoedd am brofiadau gwaith ymarferol, gan gefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd.
Mae astudiaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth; gallwch ddewis cofrestru ar y rhaglen cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg a gallwch gyflwyno’ch aseiniadau yn y naill iaith neu’r llall.
Dolenni Perthnasol
Gwybodaeth allweddol
Cyflwynir y rhaglen hon gyda’r hwyr ac ar ambell ddydd Sadwrn.
Meini prawf mynediad:
- Mae’r rhaglen Blynyddoedd Cynnar yn annog a rhoi gwerth ar geisiadau gan fyfyrwyr sy’n dychwelyd at addysg, gan y bydd ganddynt brofiadau a sgiliau bywyd a all gefnogi eu cais.
- Yn gyffredinol, bydd myfyrwyr wedi ennill, neu’n gweithio tuag at, gymhwyster addysg/gofal plant lefel 3 perthnasol megis NNEB, CACHE, BTEC, NVQ, lefel A. Fodd bynnag, mae profiadau eraill hefyd yn werthfawr. Byddant hefyd yn gweithio neu’n gwirfoddoli’n rheolaidd mewn lleoliad neu weithle blynyddoedd cynnar sy’n darparu gwasanaethau i blant ifanc a theuluoedd.
- Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen datgeliad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Yn rhan o’r broses gwneud cais bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gwrdd â'r tiwtoriaid. Mae hyn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ymweld â’r campws, cwrdd â’r darlithwyr a gofyn cwestiynau am y radd. Yn ystod diwrnodau ymweld, mae darlithwyr y cwrs bob amser yn ymddiddori ym mhrofiadau’r ymgeiswyr o wirfoddoli a gweithio gyda phlant ifanc.
- Er mwyn ennill cymwyseddau ymarferydd graddedig mae’n bosibl y bydd angen TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu gymwysterau llythrennedd a rhifedd cyfatebol addas arall hefyd.
Gyrfaoedd yn y Blynyddoedd Cynnar
Mae graddedigion yn mynd ymlaen i amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:
- Cymorth anghenion dysgu ychwanegol
- Arweinydd ar ôl ysgol
- Gwarchodwr plant
- Rolau mewn Elusennau Plant (e.e. Barnardo’s)
- Swyddog Cymorth Cymunedol
- Hwylusydd Teuluoedd
- Swyddog Cymorth Teuluoedd
- Swyddog Rhianta
- Cymorth Bugeiliol
- Gweithwyr chwarae
- Arweinwyr Ystafell
- Rheolwyr Lleoliad
- Gweithwyr Ieuenctid
Astudiaethau Pellach
Mae rhai o’n graddedigion yn mynd yn eu blaenau i astudiaethau pellach eraill. Mae rhai myfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio ein rhaglenni MA ni megis ein MA Llythrennedd Cynnar ac MA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar.
Mae rhaglenni ôl-raddedig fel y rhain yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr uwchsgilio a dyfnhau eu dealltwriaeth o blant ifanc a’u teuluoedd. Mae astudiaethau o’r fath wedi galluogi myfyrwyr ôl-raddedig i symud ymlaen yn eu maes gwaith cyfredol ac i eraill symud i yrfaoedd newydd.
Llwybr i addysgu
Fel myfyriwr y Blynyddoedd Cynnar yn Y Drindod Dewi Sant byddwch yn sicr o gael cyfweliad ar gyfer y rhaglen TAR Cynradd ar yr amod eich bod yn bodloni’r gofynion mynediad. Wrth wneud cais am y rhaglen TAR Cynradd byddwn ni, ar y cyd ag Addysg Gychwynnol Athrawon, yn eich cynorthwyo trwy gais a phroses gyfweld ffug.
Astudiaeth Ôl-raddedig a Llwybrau Amgen
Bydd graddedigion hefyd yn gallu symud ymlaen i nifer o gyrsiau ôl-raddedig yn eu maes diddordeb, gyda gradd dda ym maes Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer llawer o lwybrau ôl-raddedig.
Isod, ceir ychydig esiamplau o lwybrau y mae graddedigion blaenorol wedi’u cymryd.
- Teulu a Chymunedau
- Nyrsio
- Therapi Chwarae
- Polisi a Llywodraeth
- Ymchwil
- Gwaith Cymdeithasol
- Therapi Lleferydd ac Iaith
- Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae'r ffi'n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.
- Mae’n rhaid i fyfyrwyr gael cyfwerth â 700 awr o brofiad ymarferol mewn lleoedd fel lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd costau teithio a chostau lluniaeth yn sgil hyn.
- Efallai y bydd rhaid i fyfyrwyr dalu costau ychwanegol gan fod rhaid iddynt fynychu rhai darlithoedd modwl gyda dillad addas ar gyfer astudio yn yr awyr agored.
- Mae’r Blynyddoedd Cynnar yn trefnu profiadau astudio gorfodol a gweithgareddau cyfoethogi i fyfyrwyr. Bydd y rhaglen yn talu am y costau teithio ac astudio a gyfyd yn sgil hyn. Fodd bynnag, ar gyfer rhai ymweliadau, bydd rhaid i fyfyrwyr gyflenwi eu lluniaeth eu hunain.
- Yn ogystal â hyn, mae’r Blynyddoedd Cynnar yn trefnu cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gael cymwysterau ychwanegol yn ystod rhan olaf eu rhaglen, er enghraifft Iechyd a Diogelwch, Amddiffyn. Bydd y rhain yn gofyn i’r myfyrwyr dalu costau; a chaiff y gost ei phennu gan y darparwr.
- Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr i gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i'r campws er enghraifft Caerdydd, Llundain, Sweden a Chanada. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.
Kirsty Goff, lefel 6, a raddiodd yn 2018
“Rydw i mor falch fy mod wedi dod fan hyn, ni fuaswn i eisiau bod yn unman arall yn gwneud unrhyw gwrs arall.”
Emma Blofield, a raddiodd yn 2017
“Mae astudio’r radd wedi bod yn help enfawr i mi, nid yn unig wrth adeiladu ar fy ngwybodaeth a’m sgiliau ond hefyd drwy fy ngalluogi i gredu ynof fi fu hun. Gyda chymorth y Brifysgol, ffrindiau hen a newydd, fy nheulu cefnogol a’m hawydd personol i lwyddo, cwblheais i'r radd yn llwyddiannus gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf!”
Anna Latham, myfyrwraig Lefel 6, a raddiodd yn 2018
“Bu’n wythnos wych o gyfleoedd a dysgu, diolch! Rwy’n teimlo ei fod yn fraint ac anrhydedd enfawr i astudio yn YDDS, ac rwy’n credu bod y rhaglen Blynyddoedd Cynnar heb ei hail! Diolch yn fawr iawn am eich hymrwymiad anhygoel a’ch gwaith caled wrth ddarparu cwrs mor wych, gan gynnwys y gweithgareddau allgyrsiol, ac am gynnig cymaint o gefnogaeth ac anogaeth i ni fyfyrwyr”
Aimee Cousins
“Mae’r darlithwyr eu hunain yn astudio a chanddynt gariad amlwg at y pwnc. Maent yn rhoi hyder i chi! Rwyf nawr yn deall pam ein bod yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud – o ran theori. Er enghraifft, rydym yn gwybod y theori fathemategol a gwyddonol, tu ôl i flociau pren (Frobebel).”
Beth Nesaf: Rwyf nawr yn gweithio i ‘Action for Children’. Mae’r cwrs wedi fy helpu i wneud gwahaniaeth i blant ifanc drwy ddefnyddio mentrau Dechrau’n Deg.
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau. Mae myfyrwyr sy'n dewis astudio'r cwrs hwn drwy'r Gymraeg yn gymwys i ymgeisio am ysgoloriaethau'r yn ogystal.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth
Os hoffech ddysgu rhagor am astudio yng Nghaerfyrddin neu Abertawe, gallwch