Addysg Gynhwysol (Gradd Sylfaen) (Copy) (FdA)
Mae’r Radd Sylfaen wedi’i hanelu at Gynorthwywyr Addysgu/Cynorthwywyr Cymorth Dysgu neu’r rhai sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn amgylcheddau dysgu eraill. Yn y radd hon sy’n manteisio ar ddysgu seiliedig ar waith, mae myfyrwyr yn ennill gwybodaeth bellach ac yn troi eu sgiliau yn gymhwyster addysg uwch sy’n sicrhau bod gan fyfyrwyr lwybr cynnydd cydlynol. Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis symud ymlaen i’n BA (Anrh) mewn Addysg Gynhwysol.
Cyflwynir y Radd Sylfaen nid yn unig ar ein campysau, mae ar gael hefyd mewn lleoliadau cymunedol ehangach fel Ysgol Priordy Cil-maen yn Sir Benfro.
Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau, eu dealltwriaeth, eu gwybodaeth a’u dadansoddiad beirniadol o’r cysylltiadau rhwng damcaniaeth, polisi ac arfer, gan dynnu ar brofiadau’r myfyrwyr yn y gwaith.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gyflwyno eu gwaith naill ai yn Gymraeg neu Saesneg.
*Modiwlau dethol yn amodol i ail-ddilysu
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Cyfunol (ar y campws)
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2024/25 a 25/26
£1950 y flwyddyn
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen yn cynnig ystod gynhwysfawr o fodylau cyffrous a pherthnasol i’r rheini sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar, mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, Unedau Cyfeirio Disgyblion a lleoliadau ADY. Mae’n cwmpasu modylau seiliedig ar waith sydd hefyd yn cynnwys ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy i’r 21ain Ganrif.
Mae’r Radd Sylfaen yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ystyried a dadansoddi materion addysgol cyfredol yng nghyd-destun eu profiadau a’u hamgylchedd gwaith penodol nhw. Mae dull amlddisgyblaethol yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr i’r myfyrwyr megis dadansoddi a datrys problemau a chyfathrebu a llythrennedd mewn amgylchedd gwaith sy’n newid yn barhaus.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Caerfyrddin
Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd. Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon yn denu ymgeiswyr o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau o ran cyflogaeth a chymwysterau academaidd ffurfiol.
Nid yw’r rhaglen hon yn gofyn i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau ffurfiol; bydd yr adran derbyniadau’n asesu addasrwydd ymgeiswyr trwy gyfweliad trylwyr a phrawf ysgrifenedig.
-
Gosodir gwaith cwrs a phrofion ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Ymarferion gosod ymarferol yn y dosbarth
- Chwarae rôl (e.e. ffug gyfweliadau)
- Cyflwyniadau (e.e. cynlluniau busnes)
- Portffolios o waith
- Prosiectau ymchwil
- Traethodau
- Adroddiadau
Gan fod y rhaglen yn denu dysgwyr o ystod o gefndiroedd, gydag amrywiaeth o brofiad gwaith a phersonol, mewn llawer o achosion mae’r asesiadau’n darparu hyblygrwydd i’r myfyriwr ddefnyddio eu cefndir a’u profiad i wneud y dysgu’n berthnasol i’w profiad gwaith blaenorol; bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ddatblygu prosiectau sy’n berthnasol i’w dyheadau gyrfa.
-
Mae’r holl gostau ychwanegol a restrir yn yr adran yn ddangosol.
Costau angenrheidiol
Bydd angen mynediad ar ddysgwyr i galedwedd a meddalwedd cyfrifiadurol addas: tua £500.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae cysylltiadau gydag amrywiaeth o sefydliadau yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat a siaradwyr gwadd a chyfleoedd mentora rheolaidd wedi’u hymgorffori yn y rhaglenni TystAU a BA i amlygu’r ystod o swyddi a llwybrau gyrfa sydd ar agor i’r myfyrwyr.
Mae cymryd rhan yn nigwyddiadau ‘Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd’ a ‘Gŵyl Dechrau Busnes yr Haf’ yn ogystal â mynychu a chysylltiadau gyda sesiynau Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru yn galluogi myfyrwyr i siarad gyda, a dysgu gan entrepreneuriaid llwyddiannus.