A large group photo of young people in a dance hall full of sparkly light fixtures.

Fel un o brif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae'r Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl flaenllaw o fewn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn cydweithio â’r Coleg i gynyddu cyfleoedd dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr ar sawl lefel.

Er bod ei swyddfa wedi ei lleoli mewn man canolog ar gampws Caerfyrddin, mae Cangen Y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn weithredol ar draws holl gampysau’r Brifysgol gan gynnwys Abertawe, Llambed, Caerdydd a champysau Coleg Sir Gâr. Mae’r swyddfa yn gartref i Swyddog y Gangen a’r Tiwtor Iaith.  Mae croeso i aelodau o’r Gangen, boed yn fyfyrwyr neu’n staff, alw draw am sgwrs a derbyn cyngor a gwybodaeth ar unrhyw adeg.

Cysylltwch â Bethan Wyn os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch gwaith y gangen.