![Collage of images of teaching settings in hexagon shapes with Peniarth and Rhagoriaith logos.](https://www.uwtsd.ac.uk/sites/default/files/styles/page_header/public/2024-02/CGC_SP_1.jpg?h=2e111cc1&itok=y6FX5x0V)
Canolfan Gwasanaethau Cymraeg
Canolfan Gwasanaethau Cymraeg
Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol yma i’ch cefnogi. Yn ogystal â bod yn gyfrifol am hyrwyddo a datblygu cyfleoedd addysg cyfrwng Cymraeg, mae’r ganolfan yn gartref i Rhagoriaith a Pheniarth.
Canolfan Gwasanaethau Cymraeg
![Logo Rhagoriaith](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2024-02/Web-Welsh-Logos-Rhagoriaith.jpg?h=8c4bd285&itok=zFSvMQ_2)
Rhagoriaith
Mae Rhagoriaith yn un o ddarparwyr hyfforddiant Cymraeg mwyaf blaenllaw Cymru yn y sector addysg ac yn un o ddarparwyr Llywodraeth Cymru o’r Cynllun Sabothol i Athrawon a Chynorthwywyr Dosbarth. Mae Rhagoriaith yn gallu darparu cyrsiau pwrpasol ar gyfer ysgolion i fodloni gofynion penodol, e.e. gwersi un-i-un neu ddarpariaeth datblygiad proffesiynol. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u hanelu yn benodol i godi hyder a hyfedredd athrawon a dysgwyr, codi safonau ar draws yr ysgol a helpu i ddatblygu gallu unigolion i addysgu’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm ar bob lefel.
![Logo Peniarth](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2024-02/Web-Welsh-Logos-Peniarth.jpg?h=8c4bd285&itok=XmhZWEg8)
Peniarth
Ers blynyddoedd lawer, mae Peniarth wedi bod yn un o brif ddarparwyr adnoddau cyhoeddedig ac adnoddau digidol sy’n gwasanaethu’r sector addysg yng Nghymru gyfan o gyfnod y blynyddoedd cynnar i addysg uwch. Mae Peniarth wedi creu cannoedd o adnoddau sy’n cynnwys cynlluniau darllen poblogaidd fel Tric a Chlic, nifer o apiau a gwefannau. Ariennir llawer o’n hadnoddau gan Lywodraeth Cymru ac maent yn ategu gweithrediad Cwricwlwm i Gymru.
Cysylltwch am fwy o fanylion drwy ebost neu drwy ffonio 01267 676772
![Logo'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2024-02/Web-Welsh-Logos-CCC.jpg?h=8c4bd285&itok=3Azlg57D)
Cangen y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ry’n ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.