Skip page header and navigation

Technoleg Cerddoriaeth Greadigol (DipAU)

Abertawe
4 Blynedd Rhan Amser

Mae Technoleg Cerddoriaeth Greadigol wedi’i llunio i roi i chi’r sgiliau artistig, technegol, creadigol a phroffesiynol sy’n berthnasol i’r rheiny sy’n dymuno gweithio yn y diwydiannau cerddoriaeth. Yn rhaglen ymarferol iawn gyda ffocws ar y diwydiant ac ymagwedd aml-sgil at gynnwys cyfansoddi, dadansoddi, recordio a chynhyrchu, nod y radd yw datblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl am dechnegau ac adnoddau technoleg cerddoriaeth.

Bydd y cwrs yn caniatáu i chi ddatblygu eich gallu i gyfleu mynegiant a dychymyg personol wrth gynhyrchu cerddoriaeth yn ymarferol, ochr yn ochr â datblygiad eich sgiliau cynhyrchu ym maes cerddoriaeth wedi’i recordio a chynhyrchu sain gymhwysol. Mae natur y rhaglen, sy’n seiliedig ar brosiectau, yn caniatáu i chi deilwra’r aseiniadau i
weddu eich diddordebau o fewn maes pwnc eang technoleg a chynhyrchu cerddoriaeth.

Trwy gyfoethogi eich dull ymholi, dadansoddi, arloesi a chreadigol i gynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o’r busnes a’r materion cyfreithiol angenrheidiol i drosglwyddo a gweithredu’r dechnoleg berthnasol a ddysgwch yn llwyddiannus i’r amgylchedd masnachol a chynhyrchu a chyfathrebu cysyniadau gwreiddiol sy’n ymestyn y wybodaeth a gafwyd yn adrannau’r rhaglen a addysgir. Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth, ymchwil a datblygiad proffesiynol parhaus.

Daeth PCYDDS yn 15fed yn y DU ar gyfer Cerddoriaeth
Tabl Cynghrair Prifysgolion Y Guardian 2023

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Rhan Amser

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Staff profiadol sydd ag arbenigedd helaeth.
02
Cyfleoedd cydweithredol gwych ym mhob disgyblaeth yng Ngholeg Celf Abertawe.
03
Cymorth un-i-un ym mhob prosiect pwysig yr ymgymerir ag ef.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o’r cwrs

I ran helaeth, mae’r rhaglen Technoleg Cerddoriaeth wedi’i seilio ar arfer gan ganolbwyntio  ar arloesi a chynhyrchu ar draws y cyfryngau cyfredol, y rhai technegol yn ogystal â’r rhai artistig.

Nid yw’r cwrs hwn ar gyfer technegwyr yn unig ond hefyd ar gyfer cyfansoddwyr, cerddorion ac artistiaid sydd am fod yn arbenigwyr technoleg stiwdio gyfrifiadurol mewn cerddoriaeth a chynhyrchu sain gymhwysol. Mae sgiliau technegol yn un peth, ond mae’r staff addysgu yn talu sylw penodol i ddatblygiad y clustiau, sgiliau gwrando sythweledol dros ben, a chraffter clywedol microsgopig  sy’n rhoi i’n graddedigion lais sonig nodedig ac unigryw.

Beth y byddwch yn ei ddysgu

  • Gwybodaeth gynhwysfawr o amrywiol feddalwedd o safon ddiwydiannol;  
  • Gwybodaeth fanwl o hanes technoleg;
  • Meddwl ochrol creadigol;
  • Sgiliau ymchwil;
  • Cymhwyso technolegau
  • Sgiliau cyfathrebu a wnaiff alluogi’r myfyriwr i gyflwyno’n effeithiol, siarad yn ddealladwy ac yn ddeallus am ei bwnc, ac ysgrifennu’n glir ac yn gryno;
  • Profiad o weithio mewn timau.
  • Arfer trawsddisgyblaethol
Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Y Peiriannydd Stiwdio

(20 credydau)

Ffyrdd o feddwl

(10 credydau)

Ffyrdd o Ganfod

(10 credydau)

Trin Sain Creadigol

(20 credydau)

Y Cyfansoddwr Stiwdio

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Y Stiwdio Gynaliadwy

(10 credydau)

Ymchwil mewn Cyd-destun

(10 credydau)

Ymchwil ar Waith

(10 credydau)

Dylunio Sain ar gyfer y Sgrin

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Cynhyrchu Fideos Cerddoriaeth

(20 credydau)

Portffolio Terfynol a Fideo Arddangos

(40 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio o waith

    Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau UCAS. Rydym yn disgwyl bod gan ymgeiswyr radd C neu’n uwch mewn Iaith Saesneg (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ynghyd â graddau llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Hefyd rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:

    • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ynghyd ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
    • Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
    • BTEC Diploma Estynedig mewn pwnc perthnasol, gyda graddau Teilyngdod o leiaf
    • Sgôr y Fagloriaeth Ryngwladol o 32
    • Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul unigolyn

    Er bod cymwysterau’n bwysig, nid yw ein cynigion yn seiliedig yn unig ar ganlyniadau academaidd. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu e-bostiwch artanddesign@uwtsd.ac.uk am y gallwn ystyried ein cynigion yn seiliedig ar rinweddau unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.

    Gweler ein Canllaw Cyfweliadau i gael rhagor o wybodaeth.

  • Caiff myfyrwyr sydd ar y rhaglen eu hasesu’n bennaf ar eu portffolio a’u hallbwn creadigol, eu cyfansoddiadau, eu recordiadau, eu cynyrchiadau a’u prosiectau creadigol ac ati.

    Drwy’r holl brosiectau yr ymgymerwyd â nhw, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol yn ogystal â dealltwriaeth o egwyddorion damcaniaethol.

    Mae’r cwrs yn asesu dealltwriaeth y myfyrwyr o rolau niferus technoleg wrth greu cerddoriaeth, gan gymryd ymagwedd aml-sgil a rhoi i fyfyrwyr y cyfle i arbenigo mewn meysydd yr hoffent yrfa ynddynt yn ddiweddarach.

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r defnyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol wrth ymestyn eu hymchwil i’w harfer personol. Er enghraifft, prynu eu defnyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno mewn teithiau astudio dewisol, ac argraffu. 

    Disgwylir i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw wrth ddechrau ar y cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd eu hangen ar gyfer eich cwrs astudio a’ch cyfeirio chi at gyflenwyr priodol i brynu eitemau hanfodol cyn neu yn ystod eich astudiaethau.

    Bydd ‘pecyn offer celf a dylunio’ sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd eu hangen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf. Hefyd, er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (Cyfrifiadur Personol a MAC) i chi gyflawni eich gwaith cwrs, efallai yr hoffech ddod â’ch dyfeisiau digidol eich hun, felly eto cysylltwch â ni’n gyntaf cyn prynu unrhyw beth.

    Yn dibynnu ar y pellter a’r hyd, gall ymweliadau astudio opsiynol amrywio o ran cost o oddeutu £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol i £200+ ar gyfer ymweliadau tramor – mae’r costau hyn yn cynnwys pethau megis cludiant, mynediad i leoliadau a llety ac fel arfer ar brisiau gostyngedig i’n myfyrwyr.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn UDA, Ewrop a Chanada.

  • Mae’r diwydiant adloniant, ac yn enwedig y cyfryngau sydd wedi’u recordio a’r rhai sy’n cael eu darlledu, wedi tyfu’n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae’r diwydiant yn cyflogi nifer mawr o bobl sydd wedi’u dosbarthu ar draws ystod o wahanol weithgareddau.

    Ar hyn o bryd, mae tua thri chant o gwmnïau recordio wrthi yn y DU, o labeli arbenigol bychain i gwmnïau rhyngwladol mawr.  Y mae sawl mil o stiwdios recordio ar gael, ynghyd â miloedd o leoliadau ar gyfer perfformiadau byw, hefyd cwmnïau llogi offer sain a gwneuthurwyr offer sain. Yn ychwanegol i hyn, ceir cwmnïau cynhyrchu setiau teledu, dylunwyr gemau cyfrifiadurol, darparwyr cynnwys ar gyfer y rhyngrwyd, i enwi ychydig ohonynt, ac mae angen ar bob un o’r rhain sgiliau technoleg cerddoriaeth. 

    Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r cynnydd mawr yng ngwerthiant cyfrifiaduron cartref a systemau sinema sain amgylchynol wedi cynnig cyfleoedd mewn meysydd sy’n ymwneud â systemau sain amgylchynol a thechnoleg glywedol gysylltiedig.