Skip page header and navigation

Technoleg Cerddoriaeth Greadigol (Llawn amser) (DipAU)

Abertawe
2 Flwyddyn Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS

Mae’r DipAU mewn Technoleg Cerddoriaeth Greadigol wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch i ffynnu ym myd deinameg cerddoriaeth. Mae’r cwrs hwn yn cynnig sylfaen gref yn yr agweddau creadigol a thechnegol ar gynhyrchu cerddoriaeth, gan ganiatáu i chi archwilio a datblygu eich llais artistig eich hun. Byddwch yn cael profiadau ymarferol gyda’r dechnoleg gerddoriaeth ddiweddaraf a dysgu sut i ddefnyddio’r wybodaeth hon mewn sefyllfaoedd byd go iawn. 

Byddwch yn archwilio agweddau amrywiol o dechnoleg gerddoriaeth ar y cwrs, gan gynnwys cyfansoddi, recordio a chynhyrchu. Mae’r sesiynau ymarferol hyn yn cael eu paru â dealltwriaeth ddyfnach o’r damcaniaethau a’r technegau sy’n sail i gerddoriaeth fodern. Byddwch yn dysgu sut i gyfleu eich syniadau a’ch emosiynau drwy gerddoriaeth, gan ddefnyddio’r offer a’r dulliau sy’n llunio’r diwydiant heddiw.  

Mae’r cwrs wedi’i strwythuro o gwmpas dysgu seiliedig ar brosiect, sy’n golygu y gallwch deilwra eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch diddordebau a’u dilyn o fewn maes pwnc eang technoleg cerddoriaeth a chynhyrchu.  Mae’r ymagwedd hon yn eich annog i fod yn arloesol ac yn greadigol gan ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol sy’n hanfodol mewn unrhyw leoliad proffesiynol.  

Rhan allweddol o’r rhaglen yw deall agweddau busnes a chyfreithiol y diwydiant cerddoriaeth.  Byddwch yn dysgu sut i lywio’r meysydd hyn, gan sicrhau ei fod yn bosibl dod â’ch gwaith creadigol i’r farchnad yn llwyddiannus.  Bydd yr wybodaeth hon yn amhrisiadwy wrth i chi symud i’ch gyrfa ddewisol, boed hynny o fewn y diwydiant cerddoriaeth neu faes cysylltiedig.  

Nid yw’r DipAU mewn Technoleg Cerddoriaeth Creadigol yn ymwneud â dysgu sut i ddefnyddio offer neu feddalwedd yn unig; mae’n ymwneud â datblygu set sgiliau gynhwysfawr sy’n eich paratoi ar gyfer dyfodol ym myd cerddoriaeth. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych bortffolio cryf o waith, dealltwriaeth ddofn o’r diwydiant a’r hyder i ddilyn astudiaethau pellach neu gamu’n uniongyrchol i rôl broffesiynol.  P’un a ydych â’ch bryd ar fod yn gynhyrchydd, peiriannydd sain neu gyfansoddwr, bydd y cwrs hwn yn eich gosod ar y llwybr cywir.  

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
CMT5
Hyd y cwrs:
2 Flwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Staff profiadol sydd ag arbenigedd helaeth.
02
Cyfleoedd cydweithredol gwych ym mhob disgyblaeth yng Ngholeg Celf Abertawe.
03
Cymorth un-i-un ym mhob prosiect pwysig yr ymgymerir ag ef.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth yn canolbwyntio ar feithrin eich sgiliau creadigol a thechnegol drwy brofiad ymarferol ac ymgysylltu â’r diwydiant. Ein nod yw datblygu gweithwyr proffesiynol cyflawn sy’n barod i greu effaith sylweddol yn y diwydiant cerddoriaeth. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio sylfeini dysgu digidol a heriau cyfoes. Byddwch yn gwella’ch sgiliau creadigol a dadansoddol drwy brosiectau amrywiol, gan ddatblygu sylfaen gadarn mewn triniaeth sain, cyfansoddiad stiwdio, a pheirianneg. Mae’r flwyddyn hon wedi’i chynllunio i’ch cyflwyno i gysyniadau ac offer hanfodol technoleg gerddoriaeth.

Gorfodol 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Ffyrdd o feddwl

(10 credydau)

Ffyrdd o Ganfod

(10 credydau)

Trin Sain Creadigol

(20 credydau)

Y Cyfansoddwr Stiwdio

(20 credydau)

Y Peiriannydd Stiwdio

(20 credydau)

Mae eich ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau technegol a’ch galluoedd creadigol. Byddwch yn gweithio ar adeiladu eich brand personol, deall creadigrwydd a chreu gwerth, a defnyddio’r cysyniadau hyn mewn lleoliadau ymarferol. Byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau stiwdio, dylunio sain ar gyfer y sgrin, a recordio mewn lleoliadau, gan eich paratoi ar gyfer senarios cynhyrchu sain yn y byd go iawn.  Yn ogystal, bydd sgiliau ymchwil yn cael eu datblygu i gefnogi eich ymdrechion creadigol.

Gorfodol 

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Ymchwil mewn Cyd-destun

(10 credydau)

Ymchwil ar Waith

(10 credydau)

Dylunio Sain ar gyfer y Sgrin

(20 credydau)

Prosiect Stiwdio

(20 credydau)

Y Stiwdio Gynaliadwy

(10 credydau)

Recordio ar Leoliad

(10 credyd)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Myfyrwyr yn defnyddio meddalwedd cymysgu cerddoriaeth

Cyfleusterau Technoleg Cerddoriaeth Greadigol

Mae’r cyfleusterau ar gyfer cyrsiau Technoleg Cerddoriaeth yn cynnwys tair stiwdio recordio o safon diwydiannol; dwy stiwdio ddigidol ac un stiwdio analog. Un o’r stiwdios hyn yw’r Neuadd BBC hanesyddol, a ailadeiladwyd yn 1951.

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio o waith

    Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau UCAS. Rydym yn disgwyl bod gan ymgeiswyr radd C neu’n uwch mewn Iaith Saesneg (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ynghyd â graddau llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Hefyd rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:

    • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ynghyd ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
    • Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
    • BTEC Diploma Estynedig mewn pwnc perthnasol, gyda graddau Teilyngdod o leiaf
    • Sgôr y Fagloriaeth Ryngwladol o 32
    • Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul unigolyn

    Er bod cymwysterau’n bwysig, nid yw ein cynigion yn seiliedig yn unig ar ganlyniadau academaidd. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu e-bostiwch artanddesign@uwtsd.ac.uk am y gallwn ystyried ein cynigion yn seiliedig ar rinweddau unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.

    Gweler ein Canllaw Cyfweliadau i gael rhagor o wybodaeth.

  • Caiff myfyrwyr sydd ar y rhaglen eu hasesu’n bennaf ar eu portffolio a’u hallbwn creadigol, eu cyfansoddiadau, eu recordiadau, eu cynyrchiadau a’u prosiectau creadigol ac ati.

    Drwy’r holl brosiectau yr ymgymerwyd â nhw, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol yn ogystal â dealltwriaeth o egwyddorion damcaniaethol.

    Mae’r cwrs yn asesu dealltwriaeth y myfyrwyr o rolau niferus technoleg wrth greu cerddoriaeth, gan gymryd ymagwedd aml-sgil a rhoi i fyfyrwyr y cyfle i arbenigo mewn meysydd yr hoffent yrfa ynddynt yn ddiweddarach.

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r defnyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol wrth ymestyn eu hymchwil i’w harfer personol. Er enghraifft, prynu eu defnyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno mewn teithiau astudio dewisol, ac argraffu. 

    Disgwylir i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw wrth ddechrau ar y cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd eu hangen ar gyfer eich cwrs astudio a’ch cyfeirio chi at gyflenwyr priodol i brynu eitemau hanfodol cyn neu yn ystod eich astudiaethau.

    Bydd ‘pecyn offer celf a dylunio’ sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd eu hangen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf. Hefyd, er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (Cyfrifiadur Personol a MAC) i chi gyflawni eich gwaith cwrs, efallai yr hoffech ddod â’ch dyfeisiau digidol eich hun, felly eto cysylltwch â ni’n gyntaf cyn prynu unrhyw beth.

    Yn dibynnu ar y pellter a’r hyd, gall ymweliadau astudio opsiynol amrywio o ran cost o oddeutu £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol i £200+ ar gyfer ymweliadau tramor – mae’r costau hyn yn cynnwys pethau megis cludiant, mynediad i leoliadau a llety ac fel arfer ar brisiau gostyngedig i’n myfyrwyr.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn UDA, Ewrop a Chanada.

  • Mae’r diwydiant adloniant, ac yn enwedig y cyfryngau sydd wedi’u recordio a’r rhai sy’n cael eu darlledu, wedi tyfu’n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae’r diwydiant yn cyflogi nifer mawr o bobl sydd wedi’u dosbarthu ar draws ystod o wahanol weithgareddau.

    Ar hyn o bryd, mae tua thri chant o gwmnïau recordio wrthi yn y DU, o labeli arbenigol bychain i gwmnïau rhyngwladol mawr.  Y mae sawl mil o stiwdios recordio ar gael, ynghyd â miloedd o leoliadau ar gyfer perfformiadau byw, hefyd cwmnïau llogi offer sain a gwneuthurwyr offer sain. Yn ychwanegol i hyn, ceir cwmnïau cynhyrchu setiau teledu, dylunwyr gemau cyfrifiadurol, darparwyr cynnwys ar gyfer y rhyngrwyd, i enwi ychydig ohonynt, ac mae angen ar bob un o’r rhain sgiliau technoleg cerddoriaeth. 

    Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r cynnydd mawr yng ngwerthiant cyfrifiaduron cartref a systemau sinema sain amgylchynol wedi cynnig cyfleoedd mewn meysydd sy’n ymwneud â systemau sain amgylchynol a thechnoleg glywedol gysylltiedig.