Myfyrwyr Rhyngwladol Newydd
Contents
Eich Digwyddiad Croeso
Byddwch yn derbyn e-bost gyda manylion penodol eich Digwyddiad Croeso cyn hir. Gwnewch yn siŵr bod eich cyfeiriad e-bost yn gywir fel y gallwch dderbyn y wybodaeth hon. Mae dyddiadau ac amseroedd Digwyddiadau Croeso i’w gweld yma nawr ar gael dangosfwrdd HWB.
Bydd angen i chi gadarnhau eich lle yn y digwyddiad trwy lenwi’r ffurflen gais, gofynnwn i chi gwblhau hwn cyn gynted â phosibl.
Caerdydd– 24 Medi 2024 Digwyddiadau Croeso.
Caerfyrddin – 23 Medi 2024 Digwyddiadau Croeso.
Llambed – 16 Medi 2024 Digwyddiadau Croeso.
Abertawe – 23 Medi 2024 Digwyddiadau Croeso.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddigwyddiadau’r penwythnos cyrraedd ar Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant ac Ap HWB.
Casgliadau Maes Awyr (Campysau Cymreig)
Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu i fyfyrwyr rhyngwladol newydd o Heathrow ar ddechrau pob semester.
Codir tâl o £50 am y gwasanaeth hwn. Defnyddiwch y ffurflen i roi gwybod i ni pan fyddwch yn cyrraedd.
Y dyddiad cau i archebu lle i gasglu maes awyr ar gyfer mis Medi 2024 yw 23 Awst.
Byddwn yn cyhoeddi’r dyddiadau ar gyfer 2025 yn fuan.
Cofrestru Ar-lein
Bydd cofrestru ar-lein yn agor ar MyTSD bythefnos cyn eich dyddiad dechrau. Pan fydd y cofrestriad yn agor, byddwch yn derbyn gwahoddiad e-bost gyda dolen.
Wrth gofrestru ar-lein, rydych yn cytuno i fod yn fyfyriwr yn y Brifysgol, yn cytuno i gadw at reolau’r Brifysgol, ac yn creu eich cofnod myfyriwr.
UKCISA
UKCISA
Mae Cyngor y DU dros Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA), yn elusen sy’n cynrychioli myfyrwyr rhyngwladol. Maent yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fyw ac astudio yn y DU. Mae’r pynciau’n cynnwys:
Maent hefyd yn cynnig cefnogaeth dros y ffôn.