Skip page header and navigation

ID Myfyrwyr

Bydd gennych fynediad at eich cerdyn adnabod digidol ar ap Hwb unwaith y byddwch wedi cofrestru.

Os hoffech gael cerdyn adnabod, siaradwch â thîm Hwb yn ystod eich Diwrnod Croeso

Ni fyddwn yn gallu argraffu eich cerdyn adnabod nes i chi lanlwytho llun i’ch cyfrif MyTSD. Gwnewch hyn cyn cofrestru. 

Undeb y Myfyrwyr

A human in a cuddly purple dragon suit embraces a laughing young woman.

Croeso @ Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Gall Undeb y Myfyrwyr gynnig cyngor, cefnogaeth a chynrychiolaeth i chi tra byddwch yn astudio yn Y Drindod Dewi Sant.

Mae’r Undeb Myfyrwyr yn cynllunio wythnos llawn gweithgareddau a digwyddiadau ar draws y campysau i ddechrau’r flwyddyn academaidd.

Unibuddy

Sgwrsiwch gyda’n myfyrwyr presennol – lle byddan nhw’n onest ac yn llawn gwybodaeth. 

Poeni am fywyd myfyriwr? Neu angen mwy o wybodaeth am gwrs? 

Byddant yno i’ch cynorthwyo gyda beth bynnag sydd ei angen arnoch.

Eich Digwyddiad Croeso

Bydd angen i chi gadarnhau eich lle yn y digwyddiad trwy lenwi’r ffurflen gais, gofynnwn i chi gwblhau hwn cyn gynted â phosibl. 

Caerdydd– 24 Medi 2024 Digwyddiadau Croeso.  

Caerfyrddin – 23 Medi 2024 Digwyddiadau Croeso.

Llambed – 16 Medi 2024 Digwyddiadau Croeso.   

Abertawe – 23 Medi 2024 Digwyddiadau Croeso.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddigwyddiadau’r penwythnos cyrraedd ar Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant ac Ap HWB.

A shelf full of pink tote bags with UWTSD branding.