Skip page header and navigation

Llythyrau Hanfodol

Gallwch lawrlwytho llythyrau pwysig o’ch cyfrif MyTSD, gan gynnwys:

  • Llythyr eithrio Treth y Cyngor - Mae hwn ar gael i bob myfyriwr cofrestredig amser llawn cymwys sydd â hawl i gael ei eithrio rhag y dreth gyngor.
  • Llythyr banc i agor cyfrif myfyriwr

Cofrestru gyda Meddyg Teulu

Os ydych chi’n treulio mwy o wythnosau o’r flwyddyn yn eich cyfeiriad prifysgol na chyfeiriad eich teulu, mae angen i chi gofrestru gyda meddyg teulu ger eich prifysgol. 

Gallwch ddewis cofrestru gydag unrhyw Feddyg Teulu lleol. 

Buddion Myfyrwyr

Disgowntiau TG ar galedwedd a meddalwedd pan fyddwch wedi cofrestru. 

  • Ewch i EDU Store os ydych chi’n chwilio am dechnoleg newydd i’ch helpu gyda’ch astudiaethau. 
  • Mynediad rhad ac am ddim i Office 365 a Windows 10/11 (mae’r dudalen i fyfyrwyr felly nid yw ar gael i’r rheini sydd cyn cofrestru.  Fodd bynnag, ceir rhagor o wybodaeth ar fargeinion TG i fyfyrwyr.
  • Siop ar-lein i brynu nwyddau swyddfa hanfodol. 
  • Cewch fynediad i fwy na 400+ o ddisgowntiau ar-lein ac wrth siopa gyda TOTUM.

Cymorth TG

Mae dyn ifanc yn defnyddio bysellfwrdd; mae bag o offer yn gorwedd yn agored ar y dde iddo; mae dau ffôn a gyriant caled allanol ar y bwrdd ar y chwith iddo.

Cymorth TG

Young people sit around a table; one student checks her phone as it rests on an open laptop.

Canllawiau TG

Logo ServiceNow.

Service Now

  • Yn lawnsio mis Medi 2024.
  • Gwasanaeth cymorth newydd gyda sgwrs AI.

Cefnogaeth Llesiant

Mae bywyd prifysgol yn gyfle anhygoel i ddysgu pethau newydd a darganfod eich hun, ond gall ddod â rhai heriau. Efallai eich bod yn dod i’r brifysgol gyda diagnosis o gyflwr iechyd meddwl neu gallwch datblygu anawsterau gyda’ch iechyd meddwl neu les tra byddwch yn astudio. 

P’un a ydych chi’n profi problem tymor byr gyda straen, mater cymhleth sy’n para’n hirach, neu os ydych chi’n cael trafferth ond ddim yn siŵr beth i’w wneud, mae’r Gwasanaeth Lles yma i’ch cefnogi.

Gallwch gael mynediad at y gwasanaethau hyn trwy lenwi’r Ffurflen Gais am Gymorth Lles.

Cymorth Astudio

Myfyrwyr yn eistedd yn llyfrgell Caerfyrddin.

Gwasanaethau Llyfrgell a Dysgu

  • Hyfforddiant gwybodaeth a sgiliau digidol.
  • Rhestrau adnoddau ar-lein.
Rhes o fyfyrwyr yn gweithio ar eu gliniaduron ar ddesg hir yn Llyfrgell y Fforwm.

Canolfan Digi

  • Sesiynau sgiliau digidol ar-lein.
  • Canllawiau fideo.
Myfyriwr yn edrych ar liniadur ac yn gwenu wrth i fenyw ar ei dde siarad.

Cefnogaeth Sgiliau Astudio

  • Apwyntiadau un-i-un.
  • Mae’r pynciau a drafodir yn cynnwys ysgrifennu academaidd, cyflwyniadau a mwy.

Gofynnwch am Gymorth Dysgu

Yn PCYDDS, rydym yn gwybod taw un o’n cryfderau yw amrywiaeth ein poblogaeth myfyrwyr. Mae gan bawb eu sgiliau a’u profiad eu hunain i’w gynnig i’r gymuned ddysgu. 

Rydym yn deall, am bob math o resymau, efallai y bydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol neu addasiadau arnoch i’ch galluogi i gael y gorau o’ch amser yma. Gallai hynny fod yn iawn ar ddechrau eich cwrs, neu ar unrhyw adeg yn ystod eich astudiaethau. 

Os hoffech drafod pa gymorth sydd ar gael a chael gwybod sut y gallech weithio gyda Gwasanaethau Myfyrwyr, llenwch y Ffurflen Ymholiad Anghenion Cymorth.

Cysylltiadau Allweddol

Mae dechrau blwyddyn newydd yn Y Drindod Dewi Sant bob amser yn amser cyffrous, ac i fyfyrwyr newydd mae'n un prysur! Yma gallwch ddod o hyd i restr wirio o'r hyn y mae angen i chi ei wneud cyn i chi ddechrau ar eich cwrs. Mae gennym hefyd ragolwg o'r digwyddiadau a gynhelir ym mis Medi, ac rydym yn cyfeirio at gysylltiadau ac adnoddau pwysig a all eich helpu drwy gydol eich astudiaethau.

Two young women in purple Student Union talk to people browsing a stall displaying Student Union merchandise.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'r Brifysgol. Yma gallwch weld rhagolwg o holl ddigwyddiadau Undeb y Myfyrwyr sy'n digwydd yn ystod dechrau'r tymor.

In a busy room lit with purple light, a young man and woman wearing green antennae head-boppers look up towards something off-camera.

Croeso cynnes i'n holl fyfyrwyr rhyngwladol. Yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau dibynadwy i'ch helpu i ffynnu yn eich cartref newydd.

A young man wearing round shaded glasses grins as he walks down a cobbled street.