Mae’r rhaglen ôl-raddedig hon, sy’n flwyddyn o hyd, yn hynod ymarferol a dwys ac yn cynnig hyfforddiant a fydd yn datblygu cyfarwyddwyr proffesiynol y dyfodol.
Mae’r Drindod Dewi Sant Caerdydd yn cynnig dewis o raddau ôl-raddedig a fydd yn rhoi i fyfyrwyr dechneg gadarn ochr yn ochr â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’r Drindod Dewi Sant Caerdydd yn bair byrlymus o actorion, cantorion, dawnswyr a chyfarwyddwyr y dyfodol. Mae ethos gwaith y cyrsiau yn seiliedig ar ddatblygiad personol, parch a chydweithio. Deillia hyn o’r cymorth mae’r myfyrwyr yn ei gael gan y staff ymroddgar a phroffesiynol.
Bydd y cyw gyfarwyddwyr yn arsylwi, cymryd rhan ac yn gweithio gyda’r myfyrwyr ar raglenni eraill i ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r broses actio.
Y prif faes astudio fydd sut i sefydlu a datblygu cysylltiad rhwng actorion a phroses Meisner a Stanislavsky, sut i feddwl mewn lluniau yn y byd dychmygol, sut i weithio gydag amcanion a digwyddiadau mewn proses seicogorfforol, sut i annog creadigrwydd y perfformwyr â’u hysbrydoli i greu eu gwaith gorau.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Cymraeg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y rhaglen hefyd yn caniatáu amser ymarferol i’r cyfarwyddwr dan hyfforddiant fireinio elfennau sylfaenol cyfarwyddo gyda chyfres o astudiaethau, a fydd hefyd yn cyfoethogi profiad y perfformiwr o’r pwnc gyda dangosiadau rheolaidd yn ystod y tymor.
Bydd y cyfarwyddwr dan hyfforddiant yn cydweithio’n agos â chyfarwyddwyr a thimau technegol ar Berfformiadau Cyhoeddus. Fe’u hanogir hefyd i ddatblygu eu gwaith creadigol eu hunain yn ystod y radd.
Bydd y posibiliadau o ran dysgu am agweddau technegol ac agweddau rheoli llwyfan cynyrchiadau, marchnata a threfnu teithiau, yn ogystal â chreu gweithdai addysgol, yn ddefnyddiol dros ben er mwyn paratoi’r cyfarwyddwyr dan hyfforddiant ar gyfer y diwydiant, a’u gwneud yn ymwybodol yn ymarferol o’r holl rolau hanfodol sydd ynghlwm â chynhyrchu darn o theatr broffesiynol.
Gorfodol
(40 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Caerdydd
Mae gan Gaerdydd ddewis eang o lety i fyfyrwyr, ac mae cyfleoedd diddiwedd o ran llety ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis astudio yng Nghaerdydd. Mae nifer o ddarparwyr llety pwrpasol i fyfyrwyr yn y ddinas a bydd ein tîm llety yn gallu eich arwain trwy’r opsiynau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd Baglor y DU (isafswm o 2:1) neu brofiad.
-
Dyfeisio a Pherfformio
- Bydd myfyrwyr yn dyfeisio ac yn perfformio darn theatr 30 munud, fel grŵp ac yn unigol.
Arholiadau Ymarferol ac Ysgrifenedig
- Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag arholiadau ymarferol ac ysgrifenedig ill dau i brofi’r defnydd o wybodaeth a dealltwriaeth mewn damcaniaethau theatraidd.
Cyflwyniadau
- Mae cyflwyniadau fel arfer yn cael eu cynnal ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn y meini prawf asesu.
Llyfrau Gwaith Proses a Dyddlyfrau Adfyfyriol
- Bydd myfyrwyr yn dogfennu eu proses a’u gwaith ymarferol mewn llyfr gwaith sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol.
Portffolio Datblygiad Proffesiynol
- Bydd y Portffolio Datblygiad Proffesiynol yn cynnwys tystiolaeth o ymchwil, ysgrifennu adfyfyriol a chasgliad o ddeunyddiau a gasglwyd yn ystod astudiaethau’r myfyriwr, gan gynnwys rhestr o’r gweithgareddau a’r digwyddiadau y buont yn ymwneud â nhw, ynghyd ag ystod o ddogfennau proffesiynol.
Perfformiadau Cyhoeddus ac yn y Dosbarth
- Bydd gan fyfyrwyr gyfleoedd rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/digwyddiadau drwy gydol eu gradd, lle gellir gweld twf a’r defnydd o sgiliau a gwybodaeth.
Bydd y dulliau asesu yn amrywio yn unol â’r modylau a ddewisir.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.