Skip page header and navigation

Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Llesiant (Rhan amser) (PGDip)

Caerfyrddin
12 Mis Rhan amser

Mae Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Lles (MA) yn cynnig cymhwyster ôl-raddedig mewn arferion theatr, drama a pherfformio sy’n gynhwysol ac sy’n digwydd y tu allan i leoliadau theatr traddodiadol gyda, gan ac ar gyfer ystod o gyfranogwyr a chymunedau.

Bydd y rhaglen ôl-raddedig unigryw hon yn eich herio i ddatblygu ac i ymestyn eich arfer. Drwy leoli eich darganfyddiadau a’r hyn y byddwch yn ei ddysgu o fewn maes ehangach theatr gymhwysol, byddwch yn gallu gweld beth yw eich rôl o fewn arfer drama gyfranogol a chanolbwyntio ar eich cwestiynau arfer sy’n dod i’r amlwg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
12 Mis Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Bydd y rhaglen ôl-raddedig unigryw hon yn eich herio i ddatblygu ac i ymestyn eich arfer
02
Cysylltiadau cryf â'r diwydiant yng Nghymru a thu hwnt.
03
Cwrs hynod ymarferol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Llesiant (MA) yn cynnig cyfres o fodiwlau sy’n dyfnhau ac yn ehangu eich sylfaen o sgiliau ym maes arferion theatr gymhwysol a hwyluso, yn ogystal â’ch annog i ehangu dyfnder a thrylwyredd eich arfer myfyriol er mwyn datblygu arfer theatr gymhwysol effeithiol. Mae’n gyfle i gwestiynu’r trafodaethau beirniadol sy’n digwydd yn y maes ar hyn o bryd, ac i ymateb i’r meysydd mwy problemus o fewn arferion sy’n cynnwys y gymdeithas gyda gwreiddioldeb a dealltwriaeth.

Mae’r rhaglen yn annog ymreolaeth ac annibyniaeth drwyddi draw, yn ogystal ag yn cadw lle gyfer eich arbenigeddau a’ch diddordebau unigol chi, a bydd yn eich helpu i ddatblygu gwaith mewn maes sy’n fwy anghyfarwydd. Mae’r MA yn gorffen gyda Phrosiect Mawr Theatr Gymhwysol, lle byddwch yn gweithio’n annibynnol er mwyn datblygu prosiect sylweddol mewn maes sydd o ddiddordeb i chi.

Mae gan y rhaglen Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Llesiant (MA) gysylltiadau cryf â sefydliadau a chwmnïau lleol a chenedlaethol gan gynnwys People Speak Up, Hijinx Theatre, Theatr y Torch, Theatr Byd Bach, Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru a National Theatre Wales, yn ogystal ag ysgolion a chyfleusterau addysg lleol a byrddau iechyd lleol.

Ynghylch theatr gymhwysol

Mae theatr gymhwysol yn cyfeirio at brosesau drama neu theatr sy’n gyfranogol ac sy’n fwriadol: y bwriad, yn fras, yw gwella bywydau’r unigolion a’r cymunedau sy’n cymryd rhan. 

Gall theatr gymhwysol gynnwys: drama mewn addysg, theatr mewn addysg, theatr gymunedol, theatr mewn carchardai, theatr hel atgofion, adrodd straeon, theatr gyda phobl ifanc, theatr stori bywyd, Theatr y Gorthrymedig, theatr ar gyfer datblygu, Theatr Ail-greu, theatr mewn ysbytai, dulliau celfyddydol cyfranogol, moddau therapiwtig a mwy.

Gall ddigwydd yn unrhyw le, mewn ysgolion neu neuaddau cymunedol, mewn ysbytai neu garchardai, mewn cartrefi neu theatrau.

Gorfodol 

Arferion Theatr Gymhwysol

(30 credydau)

Lleoliad Theatr Gymhwysol

(30 Credydau)

Ymchwil Theatr Gymhwysol

(30 Credydau)

Hwyluso Critigol

(30 Credydau)

Prosiect Mawr Theatr Gymhwysol

(60 Credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd gan fyfyrwyr brofiad o’r celfyddydau perfformio a/neu o arfer celfyddydau cyfranogol yn ogystal â gradd 2:2 neu uwch mewn pwnc perthnasol, neu bydd ganddynt brofiad proffesiynol helaeth mewn maes perthnasol. Hefyd, byddwn yn gwahodd pob ymgeisydd i gael cyfweliad anffurfiol a/neu i weithdy lle mae disgwyl iddynt arddangos ymrwymiad priodol mewn gweithdy ymarferol.

  • Nod yr asesiadau yw creu cyfleoedd i fyfyrwyr arddangos yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu trwy greu cyd-destunau theatr gymhwysol gwirioneddol a rhai efelychiadol. Mae asesu wedi’i gydbwyso’n ofalus ar draws y rhaglen er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o wahanol ffyrdd i fyfyrwyr arddangos yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu ar draws y gyfres fodiwlau. Mae’r asesiadau’n seiliedig ar bortffolio a gallant gynnwys: cyflwyniadau, hwyluso prosiectau, hwyluso gweithdai, dogfennau ysgrifenedig, traethodau gweledol, perfformiadau byw a dyddiaduron myfyriol.

  • Costau teithio ar gyfer brosiectau a lleoliadau: Hyd at £300, gorfodol

    Gliniadur/offer cyfrifiadurol personol ar gyfer aseiniadau: Hyd at £500, i’w ysgwyddo o reidrwydd

    Offer ar gyfer arwain gweithdai: Hyd at £200, dewisol

    Mae’r holl gostau ychwanegol a nodir yn yr adran hon yn ddangosol. Er enghraifft, gallai’r union gostau sy’n gysylltiedig â theithiau amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.