Skip page header and navigation

Theatr: Theatr Gerddorol (MA)

Caerdydd
1 Flwyddyn Llawn Amser

Mae’r rhaglen Theatr Gerddorol yn rhaglen ôl-raddedig ddwys, flwyddyn o hyd, sy’n cynnig hyfforddiant ymarferol a fydd yn cymhwyso cyfranogwyr yn y disgyblaethau triphlyg, actio, canu a dawnsio. Mae pob aelod o’n staff addysgu yn weithwyr proffesiynol ym myd y theatr ac yn gweithio mewn addysg uwch yn ogystal â’r diwydiant.

Mae’r Drindod Dewi Sant Caerdydd yn cynnig dewis o raddau ôl-raddedig a fydd yn rhoi i fyfyrwyr dechneg gadarn ochr yn ochr â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r Drindod Dewi Sant Caerdydd yn bair byrlymus o actorion, cantorion a dawnswyr y dyfodol. Mae moeseg waith y cyrsiau yn seiliedig ar ddatblygiad personol, parch a chydweithio. Deillia hyn o’r cymorth mae’r myfyrwyr yn ei gael gan y staff ymroddgar a phroffesiynol. 

Mae’r rhaglen Theatr Gerddorol yn rhaglen ôl-raddedig ddwys, flwyddyn o hyd, sy’n cynnig hyfforddiant ymarferol a fydd yn cymhwyso cyfranogwyr yn y disgyblaethau triphlyg, actio, canu a dawnsio. Mae pob aelod o’n staff addysgu yn weithwyr proffesiynol ym myd y theatr ac yn gweithio mewn addysg uwch yn ogystal â’r diwydiant.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn Amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gradd Theatr Gerddorol sy’n darparu hyfforddiant triphlyg
02
Oriau cyswllt uchel gyda staff
03
Tri pherfformiad cyhoeddus gyda chriw technegol proffesiynol

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y cwrs hwn yn datblygu sgiliau’r myfyriwr fel perfformiwr theatr gerddorol gyda phwyslais ar y canlynol:

  1. Perfformiadau Cyhoeddus
  2. Sgiliau a Thechnegau Craidd

Rhoddir profiad i fyfyrwyr sy’n cyfateb i weithio ar nifer o berfformiadau llwyfan proffesiynol. Byddant yn ymarfer ac yn perfformio nifer o rannau dan amodau cyfarwyddo a chynhyrchu proffesiynol. Disgwylir i’r myfyrwyr ddangos lefel uchel o allu i weithio’n annibynnol, gyda chyfarwyddwr, ac mewn cydweithrediad â’u cymheiriaid. 

  • Dawns: Bale, Tap, Jazz, repertoire theatr gerddorol, cyflyru’r corff, Pilates, yoga a theatr gorfforol
  • Canu: Gwersi canu un-i-un wythnosol, dosbarthiadau techneg leisiol, dosbarthiadau repertoire a dosbarthiadau canu ensemble.
  • Actio: Dosbarthiadau Stanislavski, Meisner, Michael Checkov, actio trwy gân, tiwtorialau un-i-un ar fonologau, dadansoddi testun.
  1. Datblygiad Proffesiynol

Bydd datblygiad proffesiynol yn cynnwys arddangosfa berfformio i asiantau a pharatoi portffolio datblygiad proffesiynol. Bydd y portffolio’n cynnwys tystiolaeth o waith ymchwil, ysgrifennu adfyfyriol a chasgliad o ddeunyddiau a gasglwyd yn ystod astudiaethau’r myfyriwr, gan gynnwys rhestr o weithgareddau a digwyddiadau y bu’n rhan ohonynt ac amrywiaeth o ddogfennau proffesiynol. Fe’i datblygir drwy ymgynghori’n agos â Thiwtor Personol a’i deilwra ar gyfer gofynion proffesiynol penodol pob myfyriwr.   Fel cyfanwaith, bydd cynnwys y portffolio’n dystiolaeth o broffil artistig unigol y myfyriwr gan adfyfyrio ar ei ddatblygiad parhaus yn berfformiwr.

Perfformiadau Cyhoeddus

(40 credydau)

Actio Uwch 1

(20 credydau)

Canu Uwch

(20 credydau)

Dawns Uwch

(20 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Caerdydd

Mae gan Gaerdydd ddewis eang o lety i fyfyrwyr, ac mae cyfleoedd diddiwedd o ran llety ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis astudio yng Nghaerdydd. Mae nifer o ddarparwyr llety pwrpasol i fyfyrwyr yn y ddinas a bydd ein tîm llety yn gallu eich arwain trwy’r opsiynau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd baglor o’r Deyrnas Unedig (o leiaf 2:1) neu brofiad.

  • Perfformiadau Cyhoeddus / digwyddiadau

    Mae myfyrwyr yn cael cyfle yn rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/ digwyddiadau trwy gydol eu gradd, lle gwelwn eu sgiliau a’u gwybodaeth yn cynyddu ac yn cael eu cymhwyso.

    Tiwtorialau rheolaidd

    Rydym yn cynnal tiwtorialau ffurfiol ac anffurfiol trwy gydol y radd lle mae pob myfyriwr yn trafod ei waith gyda’r tiwtor modwl neu’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Rydym yn edrych ar ddatblygiad ymarferol, twf cysyniadol a bwriadau i’r dyfodol.

    Cyflwyniadau

    Fel arfer, cynhelir cyflwyniadau ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad, er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn meini prawf asesu.

    Llyfrau proses

    Bydd myfyrwyr yn cofnodi eu proses a’u gwaith ymarferol mewn llyfr proses sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol.

    Portffolio Datblygiad Proffesiynol

    Bydd y Portffolio Datblygiad Proffesiynol yn cynnwys tystiolaeth o waith ymchwil, ysgrifennu adfyfyriol a chasgliad o ddeunyddiau a gasglwyd yn ystod astudiaethau’r myfyriwr, gan gynnwys rhestr o weithgareddau a digwyddiadau y maent wedi bod yn rhan ohonynt ac amrywiaeth o ddogfennau proffesiynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

    • Theatr Gerddorol
    • Actio
    • Canu
    • Dawns/Coreograffi
    • Theatr