Skip page header and navigation

Y Gadwyn Gyflenwi a Logisteg (Rhan amser) (BSc Anrh)

Dysgu o Bell
4 Blynedd Rhan amser

Mae galw cyfredol o fewn y diwydiant Logisteg a’r Gadwyn Gyflenwi i fuddsoddi mewn talent newydd yn y busnes, i’w helpu i groesawu technolegau presennol a newydd, i wneud y gorau o weithrediadau’r gadwyn gyflenwi a logisteg, a’u grymuso i fynd i’r afael â heriau o’r fath yn amgylchedd y gadwyn gyflenwi fodern, megis cynaliadwyedd a datgarboneiddio.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Ar-lein
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Rhan amser

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Campws Glannau Abertawe o’r radd flaenaf (SA1) gyda llawer o offer ar gael i fyfyrwyr ei ddefnyddio o i 5 bob diwrnod o’r wythnos.
02
Carfanau a grwpiau addysgu bach.
03
Crëwyd y rhaglen mewn partneriaeth â’r Diwydiant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Lluniwyd y rhaglen hon mewn cydweithrediad â’n partneriaid yn y diwydiant i baratoi unigolion ar gyfer yr heriau hyn ac i sicrhau ein bod yn datblygu cadwyni cyflenwi ystwyth, proffidiol ac ymatebol i gwsmeriaid.

Cadwyni cyflenwi a rhwydweithiau cludiant byd-eang modern yw asgwrn cefn yr economi byd-eang, gan yrru masnach weithgynhyrchu, y defnydd o gynhyrchion a thwf economaidd. Gall aflonyddwch i’r cadwyni cyflenwi hyn fod yn gostus, ac mae cynnydd mewn anwadalrwydd yn normal newydd i lawer o gadwyni cyflenwi rhyng-gysylltiedig byd-eang. Am y rheswm hwn mae wir angen rhaglen Cadwyn Gyflenwi a Logisteg gynhwysfawr.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio’n gryf ar y diwydiant. Mae’r berthynas gydweithredol gadarn rhwng y tîm addysgu a chyflogwyr yn allweddol i lwyddiant parhaus yr adran, sy’n arwain at adborth ardderchog gan ei dysgwyr. Mae modylau penodol fel y Prosiect Grŵp Cadwyn Gyflenwi a Logisteg a’r Prosiect Annibynnol blwyddyn olaf yn annog cydweithio rhwng dysgwyr a’r diwydiant.

Cynllunio Busnes

(20 credydau)

Sgiliau Astudio ac Ymchwil

(10 credydau)

Egwyddorion Dadansoddeg Data

(10 credydau)

Syniadaeth Ddarbodus

(10 credydau)

Rheolaeth Sefydliadol

(20 credydau)

Gwybodeg y Gadwyn Gyflenwi

(10 credydau)

Cyflwyniad i Gaffael

(10 credydau)

Prosiect Seiliedig ar Waith

(20 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Yn bennaf, mae’r dulliau asesu’n seiliedig ar waith cwrs, gyda ffocws ar gynnig amrywiaeth o allbynnau posibl, gan gynnwys cyflwyniadau, portffolios, ymatebion i astudiaethau achos yn ogystal ag aseiniadau ysgrifenedig.

  • Gall gwibdeithiau dewisol gynnwys costau ychwanegol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth

Chwiliwch am gyrsiau