Skip page header and navigation

Mesur Meintiau (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae ein rhaglen Mesur Meintiau yn cynnig cyfuniad o ysgogiad deallusol a gweithredu ymarferol i’ch paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil yn y maes hwn. 

Fel Syrfëwr Meintiau, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli prosiectau adeiladu, gan sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n ddidrafferth o’r dechrau i’r diwedd. Mae ein cwrs wedi’i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth, gan eich gwneud yn fyfyriwr graddedig cymwys sy’n barod ar gyfer y byd proffesiynol.

Mae’r diwydiant adeiladu yn datblygu’n gyflym, gyda thechnoleg a chyflenwi integredig yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae ein rhaglen yn cael ei datblygu mewn cydweithrediad ag arbenigwyr yn y diwydiant a chyrff proffesiynol, gan gynnwys Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a Chanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC). Mae’r partneriaethau hyn yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn bodloni gofynion ac anghenion presennol y diwydiant.

Mae’r cwrs hefyd wedi’i achredu gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB), a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), gan roi cydnabyddiaeth broffesiynol i chi a gwella eich cyflogadwyedd. 

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn cymryd rhan mewn modiwlau sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau creadigol, a chydweithio. Mae ein cwricwlwm yn cynnwys ystod eang o bynciau, gan gynnwys rheoli costau, caffael, mesur a meintioli, rheoli risg ac economeg dylunio.

Byddwch hefyd yn meithrin arbenigedd mewn meysydd fel contractau, cynllunio costau ac amcangyfrif. Mae’r cwrs yn pwysleisio pwysigrwydd sgiliau ariannol, sgiliau cyfreithiol, sgiliau rheoli a sgiliau cyfathrebu, sy’n hanfodol ar gyfer rheoli prosiectau adeiladu o ddechrau’r prosiect tan y diwedd.

Yn ogystal â dysgu yn yr ystafell ddosbarth, mae’r cwrs yn cynnig profiadau ymarferol, gan gynnwys lleoliadau gwaith sy’n caniatáu ichi roi eich gwybodaeth ar waith mewn lleoliadau byd go iawn. Mae’r profiad hwn yn y diwydiant yn amhrisiadwy, gan roi dealltwriaeth i chi o ymarfer proffesiynol a’ch helpu i adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau â’r diwydiant.

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn barod i ymgymryd â rolau mewn meysydd allweddol o fewn y diwydiant adeiladu a chael effaith sylweddol ym maes mesur meintiau.

Ymunwch â ni a chychwyn ar daith a fydd yn eich herio a’ch ysbrydoli, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn un o sectorau mwyaf deinamig a hanfodol yr economi.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
K241
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae gennym ddilyniant unigryw, o raglenni cyn gradd, BSc i MSc a graddau ymchwil sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogadwyedd a datrysiadau ar gyfer materion diwydiannol.
02
Mae’r Ysgol wedi’i mewnosod yn niwydiant adeiladu Cymru gyda chysylltiadau agos â sefydliadau diwydiannol e.e. CIOB, RICS, CABE, CITB.
03
Mae’n Ganolfan ragoriaeth ac arloesi ar gyfer Cymru a’r De-orllewin (CWIC).
04
Mae’r staff yn aelodau o grŵp Ymchwil ac Arloesi Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru yn ymwneud â’r Economi Gylchol.
05
Cysylltiadau uniongyrchol a phrosiectau â TRADA.
06
Prosiectau adeiladu cynaliadwy byw gyda Down to Earth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

“Mae’r diwydiant adeiladu yn effeithio ar bawb, gan ddylanwadu ar gynhyrchiant a llesiant, ac yn creu’r cartrefi, ysbytai, ysgolion, gweithleoedd a seilwaith sy’n hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd da”, Caroline Gumble, CIOB. 

Mae ein hathroniaeth dysgu ac addysgu wedi’i gwreiddio mewn darparu addysg ymarferol, sy’n berthnasol i’r diwydiant. Ein nod yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i fyfyrwyr ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector deinamig ac arloesol hwn.

Byddwch yn dysgu hanfodion technoleg adeiladu, prosesau caffael, yn meithrin sgiliau mesur digidol, ac yn deall iechyd, diogelwch a llesiant ym maes adeiladu. Byddwch hefyd yn archwilio deunyddiau adeiladu, gwasanaethau adeiladu, y gyfraith ar gyfer yr amgylchedd adeiledig, a thechnegau mesur ac amcangyfrif.

Hanfodion Technoleg Adeiladu

(20 credydau)

Sgiliau ar gyfer Arfer Proffesiynol

(10 credyd)

Technoleg Ddigidol – Modelu Gwybodaeth am Adeiladau

(10 credyd)

Deunyddiau Adeiladu

(10 Credyd)

Iechyd, Diogelwch a Llesiant

(10 credyd)

Technoleg Ddigidol – Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur

(10 credyd)

Y Gyfraith ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig

(10 credyd )

Y Broses Gaffael

(10 credyd )

Mesur ac Amcangyfrif

(20 Credyd )

Tirfesur Digidol a Dylunio Priffyrdd

(10 credyd )

Byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth gyda modiwlau, gan gynnwys modelu gwybodaeth am adeiladau, amcangyfrif a thendro uwch, a datblygu cynaliadwy. 
Byddwch hefyd yn ymgymryd â dylunio prosiect ymchwil, yn dysgu am weinyddu contractau, ac yn astudio technoleg adeiladu yn fanylach, ochr yn ochr â rheoli busnes ar gyfer adeiladu a rheoli prosiectau.

Dylunio Prosiect Ymchwil

(20 credyd)

Gweinyddu Contractau

(10 credyd)

Modelu Gwybodaeth am Adeiladau

(20 Credyd )

Technoleg Adeiladu 2

(20 Credyd )

Datblygu Cynaliadwy

(10 credyd )

Amcangyfrif a Thendro Uwch

(20 Credyd )

Rheoli Busnes ar gyfer Adeiladu

(10 credyd )

Rheoli Prosiectau

(10 credyd)

Mae’r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar bynciau datblygedig a phrosiectau ymarferol. Byddwch yn cwblhau prosiect annibynnol a phrosiect integredig, yn astudio technoleg adeiladu uwch a mesur meintiau uwch, ac yn ymchwilio i reoli masnachol. Bydd y modiwlau hyn yn eich paratoi ar gyfer rolau arwain a heriau cymhleth yn y diwydiant adeiladu.

Prosiect Annibynnol

(40 Credyd )

Prosiect Integredig

(20 credyd)

Technoleg Adeiladu Uwch

(20 Credyd )

Mesur Meintiau Uwch

(20 Credyd )

Rheoli Masnachol

(20 Credyd )

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Mesur Meintiau (HND)

    Bydd angen 96 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (240 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol).

    Mesur Meintiau (BSc)

    Bydd angen 96 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (240 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol).

    Blwyddyn Sylfaen mewn STEM (Ffrwd Amgylcheddol)

    Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu’n grynodol ac wedi’u cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau. Fel arfer, bydd y math hwn o asesiadau wedi’i llunio ar ffurf ymarferion ymarferol lle mae dull ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr ar amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn para dwy awr.

    Mae arholiadau’n ddull traddodiadol o wirio mai gwaith y myfyriwr yntau yw’r gwaith a gynhyrchwyd. Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.

    Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau’r ymchwil ar lafar/yn weladwy i’r darlithydd a chyfoedion, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn. Mae’r cyfryw strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r nod yw creu gwaith sydd dan arweiniad myfyrwyr, yn unigol, yn adfyfyriol a phan fo’n briodol, wedi’i gyfeirio at alwedigaeth. Bydd adborth i fyfyrwyr yn digwydd ar ddechrau’r cyfnod astudio ac yn parhau gydol y cyfnod astudio a thrwy hynny ganiatáu ar gyfer ychwanegu gwerth o’r radd flaenaf at yr hyn y mae’r myfyriwr yn ei ddysgu.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hwn heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae galw mawr am fesurwyr meintiau yn y DU ac mae diffyg ohonynt. Bydd y ffaith fod gweithlu’r DU yn heneiddio ac effaith Brexit yn golygu ei fod yn hanfodol i’r prinder sgiliau hyn cael ei ddatrys. Yng Nghymru’n unig, amcangyfrifir y bydd angen recriwtio 1,300 o bobl bob blwyddyn i lenwi’r bylchau fydd yn cael eu gadael yn y diwydiant o ganlyniad i ymddeoliadau. Nod y cwrs gradd hwn yw cynhyrchu graddedigion â’r sgiliau mesur meintiau sydd eu hangen i lenwi’r bwlch yn niwydiant adeiladu’r DU.

    Mae adeiladu’n cyfrannu tua £132 biliwn i’r asedau sefydlog sy’n sail i economi’r DU. Yn ôl disgrifiad y CIOB (2020) mae gennym dros 28 miliwn o gartrefi, ¼ miliwn milltir o ffyrdd, 46 maes awyr, 350,000 milltir o garthffosydd a 10,000 milltir o reilffyrdd cenedlaethol. Yn fwy a mwy aml, fel diwydiant, rydym yn gweld effeithiau technolegau digidol ar y ffordd rydym yn gweithio, megis dronau a realiti rithwir ac estynedig. Hefyd, mae gan y diwydiant adeiladu ran bwysig i chwarae wrth symud tuag at well effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd.

    Dylunnir y rhaglen hon gan ystyried y materion uchod. Er enghraifft, mae deilliannau’r modylau yn mynd i’r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau, yn ogystal â’r deilliannau mwy cyfarwydd megis theorïau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion y cleient. Mae amrywiaeth o sgiliau uwch sydd wedi’u dylunio i integreiddio gyda’r deilliannau’r modylau yn atodi’r rhain.

    Gwnaiff y rhaglen hon fodloni gofynion y diwydiant ac wrth wneud hynny, darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn ddeallusol, sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Yn ychwanegol i hyn, mae y tîm rhaglen wedi datblygu amcanion ar gyfer y rhaglen sy’n cyfoethogi datblygiad cymhwysedd a hyfforddiant technegol ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion cyfredol y diwydiant ar gyfer rheolaeth ganol.

    Bydd graddedigion y Rhaglen Mesur Meintiau’n dod o hyd i waith naill ai ar ochr ymgynghori’r diwydiant fel Mesurwyr Meintiau, yn rhoi cyngor i gleientiaid ar economeg eu prosiectau datblygu, neu mewn rolau fel Rheolwyr Masnachol ar ochr gontractio’r diwydiant. Ar ddiwedd y cwrs, rhagwelir y bydd graddedigion wedi ennill sgiliau digonol i allu ymgymryd â rôl syrfëwr meintiau graddedig yn y naill sector neu’r llall. Mae gennym hanes cyflogaeth ardderchog ar gyfer ein myfyrwyr graddedig.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth

Chwiliwch am gyrsiau