Skip page header and navigation

Mesur Meintiau (Rhan amser) (BSc Anrh)

Abertawe
6 Blynedd Rhan amser
96 o Bwyntiau UCAS

Daeth y Drindod Dewi Sant yn =3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Adeiladu Complete University Guide 2023

Mae’r rhaglen yn darparu symbyliad deallusol, cymhwysiad ymarferol a datblygiad sgiliau addas i’ch gwneud chi’n fyfyriwr graddedig cymwys sy’n barod ar gyfer eich dewis rôl o fewn maes Mesur Meintiau.

Mae technoleg a darparu integredig yn chwarae rhan fwyfwy pwysig yn y diwydiant. Mae ymgynghori gyda grwpiau cyswllt â’r diwydiant, mewn cydweithrediad â’r Bwrdd Hyfforddi Diwydiant Adeiladu (CITB) a Chanolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC), Y Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB), y Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a chyrff proffesiynol eraill, wedi helpu’r brifysgol i ddatblygu rhaglen sydd wedi’i alinio mor agos â phosibl i ofynion ac anghenion y diwydiant adeiladu.

Mae modylau’n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu drwy ddatrys problemau’n greadigol a gweithio’n gydweithredol. Mae’r cwrs hefyd yn cofleidio’r cymwyseddau deallusol ac ymarferol sy’n ofynnol gan gyrff proffesiynol, megis y CIOB a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS). Byddwch yn datblygu arbenigedd ym meysydd rheoli costau, caffael, sgiliau meintoliad, rheoli risg, technegau costio, economeg dylunio a chaffael.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
6 Blynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ddilysiad.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae gennym ddilyniant unigryw, o raglenni cyn gradd, BSc i MSc a graddau ymchwil sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogadwyedd a datrysiadau ar gyfer materion diwydiannol.
02
Mae’r Ysgol wedi’i mewnosod yn niwydiant adeiladu Cymru gyda chysylltiadau agos â sefydliadau diwydiannol e.e. CIOB, RICS, CABE, CITB.
03
Mae’n Ganolfan ragoriaeth ac arloesi ar gyfer Cymru a’r De-orllewin (CWIC).
04
Mae’r staff yn aelodau o grŵp Ymchwil ac Arloesi Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru yn ymwneud â’r Economi Gylchol.
05
Cysylltiadau uniongyrchol a phrosiectau â TRADA.
06
Prosiectau adeiladu cynaliadwy byw gyda Down to Earth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Fel y dywed Caroline Gumble (CEO y CIOB yn 2020), “Mae’r diwydiant adeiladu yn effeithio ar bawb, gan ddylanwadu ar gynhyrchiant a llesiant, creu’r cartrefi, ysbytai, ysgolion, gweithleoedd a seilwaith sy’n hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd da,” ac mae’n mynd ymlaen i ddweud bod adeiladu yn “ddiwydiant cymhleth iawn ond eithriadol o gyffrous ac arloesol”.

Mae’r rheiny sy’n gweithio ar safleoedd adeiladu yn unig yn cyfrif am 6% o allbwn economaidd y DU, ond os gwnewch chi hefyd gynnwys y gwasanaethau fel syrfewyr meintiau, penseiri a pheirianwyr yn ogystal â llogwyr peiriannau a chyflenwyr adeiladu, mae’r allbwn yn agosach at ddwbl hynny. Mae hyn yn ganran mawr o allbwn economaidd y DU. 0} Hefyd, mae swyddi adeiladu’n talu’n dda, gan dalu cyfartaledd o 5% yn fwy na diwydiannau eraill, ac mae gan raddedigion yn y maes gyfleoedd yn y DU a thramor mewn amrywiaeth o yrfaoedd boddhaus.

Hanfodion Technoleg Adeiladu

(20 credydau)

Tirfesur Digidol

(20 credydau)

Gwyddor Deunyddiau a Gwasanaethau Adeiladu

(20 credydau)

Gweithio gyda Thechnolegau Digidol a Modelu Gwybodaeth am Adeiladu (BIM)

(20 credydau)

Egwyddorion Mesur ac Amcangyfrif

(20 credydau)

Sgiliau Proffesiynol ac Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladu

(20 credydau)

Rheoli Prosiectau a Gweinyddu Contractau

(20 credydau)

Hunanddatblygiad, Arfer Proffesiynol a Rheoli Personél Adeiladu

(20 credydau)

Prosiect Seiliedig ar Waith

(20 credydau)

Economeg Dylunio

(20 credydau)

Prosiect Grŵp Intergredig

(20 credydau)

Technoleg Adeiladu a Pheirianneg Sifil Uwch

(20 credydau)

Gwasanaethau Adeiladu a Dylunio Amgylcheddol Uwch

(20 credydau)

Rheoli Cadwraeth Adeiladau, Asedau a Chyfleusterau

(20 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd angen 96 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (240 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol).

  • Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu’n grynodol ac wedi’u cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau. Fel arfer, bydd y math hwn o asesiadau wedi’i llunio ar ffurf ymarferion ymarferol lle mae dull ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr ar amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn para dwy awr.

    Mae arholiadau’n ddull traddodiadol o wirio mai gwaith y myfyriwr yntau yw’r gwaith a gynhyrchwyd. Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.

    Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau’r ymchwil ar lafar/yn weladwy i’r darlithydd a chyfoedion, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn. Mae’r cyfryw strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r nod yw creu gwaith sydd dan arweiniad myfyrwyr, yn unigol, yn adfyfyriol a phan fo’n briodol, wedi’i gyfeirio at alwedigaeth. Bydd adborth i fyfyrwyr yn digwydd ar ddechrau’r cyfnod astudio ac yn parhau gydol y cyfnod astudio a thrwy hynny ganiatáu ar gyfer ychwanegu gwerth o’r radd flaenaf at yr hyn y mae’r myfyriwr yn ei ddysgu.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hwn heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae galw mawr am fesurwyr meintiau yn y DU ac mae diffyg ohonynt. Bydd y ffaith fod gweithlu’r DU yn heneiddio ac effaith Brexit yn golygu ei fod yn hanfodol i’r prinder sgiliau hyn cael ei ddatrys. Yng Nghymru’n unig, amcangyfrifir y bydd angen recriwtio 1,300 o bobl bob blwyddyn i lenwi’r bylchau fydd yn cael eu gadael yn y diwydiant o ganlyniad i ymddeoliadau. Nod y cwrs gradd hwn yw cynhyrchu graddedigion â’r sgiliau mesur meintiau sydd eu hangen i lenwi’r bwlch yn niwydiant adeiladu’r DU.

    Mae adeiladu’n cyfrannu tua £132 biliwn i’r asedau sefydlog sy’n sail i economi’r DU. Yn ôl disgrifiad y CIOB (2020) mae gennym dros 28 miliwn o gartrefi, ¼ miliwn milltir o ffyrdd, 46 maes awyr, 350,000 milltir o garthffosydd a 10,000 milltir o reilffyrdd cenedlaethol. Yn fwy a mwy aml, fel diwydiant, rydym yn gweld effeithiau technolegau digidol ar y ffordd rydym yn gweithio, megis dronau a realiti rithwir ac estynedig. Hefyd, mae gan y diwydiant adeiladu ran bwysig i chwarae wrth symud tuag at well effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd.

    Dylunnir y rhaglen hon gan ystyried y materion uchod. Er enghraifft, mae deilliannau’r modylau yn mynd i’r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau, yn ogystal â’r deilliannau mwy cyfarwydd megis theorïau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion y cleient. Mae amrywiaeth o sgiliau uwch sydd wedi’u dylunio i integreiddio gyda’r deilliannau’r modylau yn atodi’r rhain.

    Gwnaiff y rhaglen hon fodloni gofynion y diwydiant ac wrth wneud hynny, darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn ddeallusol, sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Yn ychwanegol i hyn, mae y tîm rhaglen wedi datblygu amcanion ar gyfer y rhaglen sy’n cyfoethogi datblygiad cymhwysedd a hyfforddiant technegol ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion cyfredol y diwydiant ar gyfer rheolaeth ganol.

    Bydd graddedigion y Rhaglen Mesur Meintiau’n dod o hyd i waith naill ai ar ochr ymgynghori’r diwydiant fel Mesurwyr Meintiau, yn rhoi cyngor i gleientiaid ar economeg eu prosiectau datblygu, neu mewn rolau fel Rheolwyr Masnachol ar ochr gontractio’r diwydiant. Ar ddiwedd y cwrs, rhagwelir y bydd graddedigion wedi ennill sgiliau digonol i allu ymgymryd â rôl syrfëwr meintiau graddedig yn y naill sector neu’r llall. Mae gennym hanes cyflogaeth ardderchog ar gyfer ein myfyrwyr graddedig.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth

Chwiliwch am gyrsiau