Skip page header and navigation

Rheolaeth Adeiladu (Llawn amser) (HNC)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Mae’r Diwydiant Adeiladu yn parhau i gynnig cyflogaeth werth chweil a pharhaus yn y DU a thramor, o adeiladu tai i brosiectau seilwaith a chyfalaf mawr, gan gyflawni hyn i gyd gyda chefnogaeth dulliau cynaliadwy ac ethos o ofal cymunedol ac amgylcheddol. Mae’r rhaglen Rheolaeth Adeiladu HNC hon yn gweithio mewn cydweithrediad â Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) ac mae wedi’i hachredu gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB).  Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i gwrdd â’r ffocws ar sgiliau cyfredol yn y diwydiant adeiladu ac i hyfforddi myfyrwyr a fydd yn barod i arwain prosiectau arloesol a deinamig sy’n helpu ac yn gwella cymunedau am flynyddoedd i ddod. 

Mae’r diwydiant adeiladu heddiw yn wynebau llawer o heriau, megis globaleiddio, newid hinsawdd a fframwaith rheoleiddio cymhleth.  Bydd ein cwrs yn rhoi’r sgiliau i chi fynd i’r afael â’r heriau hyn.  Byddwch yn dysgu am agweddau cyfreithiol adeiladu, yn ogystal ag agweddau technegol, rheolaethol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Bydd yr wybodaeth hon yn eich helpu i sicrhau bod eich prosiectau’n effeithlon, o safon uchel ac yn ddiogel rhag risgiau. 

Mae’r cwrs yn ymdrin â sgiliau theori ac ymarferol, a addysgir gan arbenigwyr y diwydiant. 
Mae’r modylau craidd mewn Rheolaeth Adeiladu yn eich dysgu drwy ddatrys problemau creadigol a chydweithio.   Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth mewn technoleg adeiladu, cynllunio prosiectau, rheoli prosiectau, adeiladu cynaliadwy, iechyd a diogelwch a chymwyseddau digidol, yn ogystal â chyfleoedd i fynd ar leoliadau gwaith.   

Mae’r cwrs hwn yn cynnig dealltwriaeth i fyfyrwyr o’r technegau dylunio, methodoleg a gweithrediad prosiectau o’r cychwyn cyntaf hyd at eu trosglwyddo i’r Cleiant gan eich paratoi ar gyfer dyfodol yn y diwydiant adeiladu. Mae’r cwrs yn defnyddio astudiaethau achos yn y DU a ledled y byd i adeiladu gwybodaeth mewn cymhwyso ymarferol a sgiliau proffesiynol ar gyfer cyflogaeth.   

 Symudwch ymlaen i’n cwrs BSc Rheolaeth Adeiladu.  

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
CSM9
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae gennym ddilyniant unigryw, o raglen cyn gradd, BSc i MSc a graddau ymchwil sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogadwyedd a datrysiadau ar gyfer materion diwydiannol.
02
Mae’r Ysgol wedi’i mewnosod yn niwydiant adeiladu Cymru gyda chysylltiadau agos â sefydliadau diwydiannol e.e. CIOB, RICS, CABE a CITB.
03
Mae’n Ganolfan ragoriaeth ac arloesi i Gymru a’r De-orllewin (CWIC).
04
Mae’r staff yn aelodau o grŵp Ymchwil ac Arloesedd Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru yn ymwneud â’r Economi Gylchol.
05
Cysylltiadau uniongyrchol a phrosiectau â TRADA.
06
Prosiectau adeiladu cynaliadwy byw gyda Down to Earth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth wrth addysgu Rheolaeth Adeiladu yn canolbwyntio ar gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â sgiliau ymarferol.  Rydym yn pwysleisio cymwysiadau byd go iawn, dulliau cynaliadwy a gofal cymunedol ac amgylcheddol i’ch paratoi ar gyfer gyrfa gwerth chweil yn y diwydiant adeiladu. 

Byddwch yn ymdrin â hanfodion technoleg adeiladu a deunyddiau adeiladu. Byddwch yn dysgu sgiliau digidol megis CAD a BIM. Bydd modylau ychwanegol, gan gynnwys iechyd, diogelwch a lles, y gyfraith ar gyfer yr amgylchedd adeiledig a gwasanaethau adeiladu, prosesau tirfesur a chaffael yn darparu sylfaen gynhwysfawr.  

Hanfodion Technoleg Adeiladu

(20 credydau)

Deunyddiau Adeiladu

(10 credydau)

Technoleg Ddigidol - Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur

(10 Credyd )

Sgiliau ar gyfer Arfer Proffesiynol

(10 credyd)

Tirfesur Digidol a Dylunio Priffyrdd

(10 credyd)

Technoleg Ddigidol – Modelu Gwybodaeth am Adeiladau

(10 credyd)

Tirfesur ar gyfer Peirianneg ac Adeiladu

(10 credyd)

Iechyd, Diogelwch a Llesiant

(10 credyd)

Technoleg Ddigidol – Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur

(10 credyd)

Y Gyfraith ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig

(10 credyd )

Y Broses Gaffael

(10 credyd )

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd angen 40 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (100 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol).

    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd.

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu yn grynodol. Dylunnir yr asesiad blaenorol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau.

    Yn nodweddiadol, bydd y math asesiadau wedi’u llunio ar ffurf ymarferion ymarferol, lle mae ymagwedd fwy ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn ddwy awr o hyd. 

    Mae arholiadau yn ffordd draddodiadol o wireddu mai gwaith y myfyrwyr eu hunain yw’r gwaith a gyflwynir.  Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.

    Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil i’r darlithydd a’r cymheiriaid ar lafar / yn weledol, a chaiff hyn ei ddilyn gan sesiwn cwestiwn ac ateb.

    Mae’r math strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r bwriad yw cynhyrchu gwaith sydd yn cael ei yrru bennaf gan y myfyriwr, gwaith unigol, adfyfyriol, a lle bo’n addas, yn alwedigaethol ei ffocws.

    Caiff adborth ei roi i fyfyrwyr yn gynnar yn ystod y cyfnod astudio, a bydd hyn yn parhau drwy gydol y sesiwn astudio gyfan, gan ganiatáu y caiff mwy o werth ei ychwanegu at ddysgu’r myfyriwr.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Gwnaiff y rhaglen hon fodloni gofynion y diwydiant ac wrth wneud hynny darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn academaidd, sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.

    Yn ychwanegol i hyn, mae’r tîm rhaglen wedi datblygu amcanion y rhaglen er mwyn cyfoethogi datblygiad cymhwysedd a hyfforddiant technegol ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion cyfredol y diwydiant ar gyfer rheolaeth ganol.

    Mae deilliannau’r modylau yn mynd i’r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau, yn ogystal â’r deilliannau mwy cyfarwydd megis theorïau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion y cleient. Mae amrywiaeth o sgiliau uwch sydd wedi’u dylunio i integreiddio gyda deilliannau’r modylau yn atodi’r rhain.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth

Chwiliwch am gyrsiau