Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Rheolaeth Adeiladu (HND)

Abertawe
4 blynedd
Lefel 3

Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni gradd-brentisiaeth â’r nod o ddarparu profiad galwedigaethol llawn a digonol ym meysydd adeiladu, gan gynnwys Arolygu Adeiladau, Rheolaeth Adeiladu, Peirianneg Sifil a Mesur Meintiau. 

Mae’r Diwydiant Adeiladu yn parhau i gynnig gwaith gwerth chweil a sefydlog yn y DU a thramor, o adeiladu tai i brosiectau seilwaith a chyfalaf mawr, a’r cyfan yn cael ei wneud gyda chymorth dulliau cynaliadwy, ac ethos o ofal cymunedol ac amgylcheddol. 

O’i ystyried yn ei gyfanrwydd, mae’n cyfrannu’n helaeth at gynnyrch domestig gros y DU (tua 9% yn uniongyrchol yn 2020, gan godi i tua 10% yn gyffredinol, pan ystyrir y gadwyn werth gyfan). Heb os, mae’n sbardun i dwf cynnyrch domestig gros hanesyddol yn y DU. 

Mae cadwyn werth y diwydiant yn cynnwys tua 300,000 o gwmnïau, gan gynnwys llawer o fusnesau teuluol a lleol bach a chanolig eu maint. Mae’r rhain yn cyflogi dros 3 miliwn o bobl mewn llu o rolau sy’n cynrychioli 8% o holl weithwyr y DU. Mae’r cyfleoedd gwaith yn amrywiol eu natur, o reoli prosiectau, dylunio a chostio, i ymchwilio ar y safle mewn dichonoldeb, logisteg gweithrediadau, cynllunio a gosod offer a gwasanaethau adeiladu. 

Mae’r cwrs Rheoli Adeiladu yn Y Drindod Dewi Sant yn cynnig dealltwriaeth i fyfyrwyr o dechnegau dylunio, methodoleg a gweithrediad prosiectau o’r cychwyn cyntaf i drosglwyddo cleientiaid, gan ddefnyddio astudiaethau achos ledled y DU a’r byd i feithrin gwybodaeth am ddefnydd ymarferol a sgiliau proffesiynol ar gyfer gwaith. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd
Gofynion mynediad:
Lefel 3

Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru.  Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £12,000 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Datblygwyd y rhaglenni prentisiaeth hyn mewn cydweithrediad â chyflogwyr i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion cyfredol o ran dilyniant gyrfa yn y diwydiant. 

Mae’r rhaglen arloesol hon yn helpu prentisiaid i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a thechnegol trwy gyfuniad o astudiaeth brifysgol a dysgu seiliedig ar waith. 

Hanfodion Technoleg Adeiladu

(20 credydau)

Tirfesur Digidol

(20 credydau)

Gweithio gyda Thechnolegau Digidol a Modelu Gwybodaeth am Adeiladu (BIM)

(20 credydau)

Gwyddor Deunyddiau a Gwasanaethau Adeiladu

(20 credydau)

Rheoli Prosiect ar gyfer Adeiladu

(10 credydau)

Adeiladu Modern a Thraddodiadol: Rheoli'r Broses Ddylunio ac Adeiladu

(20 credydau)

Cynllunio Prosiect ar gyfer Adeiladu

(20 credydau)

Rheoli Prosiectau a Gweinyddu Contractau

(20 credydau)

Hunanddatblygiad, Arfer Proffesiynol a Rheoli Personél Adeiladu

(20 credydau)

Prosiect Seiliedig ar Waith

(20 credydau)

testimonial

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

  • Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu yn grynodol. Dylunnir yr asesiad blaenorol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau.

    Yn nodweddiadol, bydd y math asesiadau wedi’u llunio ar ffurf ymarferion ymarferol, lle mae ymagwedd fwy ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn ddwy awr o hyd. 

    Mae arholiadau yn ffordd draddodiadol o wireddu mai gwaith y myfyrwyr eu hunain yw’r gwaith a gyflwynir.  Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.

    Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil i’r darlithydd a’r cymheiriaid ar lafar / yn weledol, a chaiff hyn ei ddilyn gan sesiwn cwestiwn ac ateb.

    Mae’r math strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r bwriad yw cynhyrchu gwaith sydd yn cael ei yrru bennaf gan y myfyriwr, gwaith unigol, adfyfyriol, a lle bo’n addas, yn alwedigaethol ei ffocws.

    Caiff adborth ei roi i fyfyrwyr yn gynnar yn ystod y cyfnod astudio, a bydd hyn yn parhau drwy gydol y sesiwn astudio gyfan, gan ganiatáu y caiff mwy o werth ei ychwanegu at ddysgu’r myfyriwr.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth

Chwiliwch am gyrsiau