Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Theatr Gerddorol (BA)

Theatr Gerddorol (BA)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae’r rhaglen Theatr Gerddorol yn rhaglen a addysgir yn ddwys dros gyfnod o ddwy flynedd, sy’n cynnig hyfforddiant ymarferol a fydd yn cymhwyso cyfranogwyr yn y disgyblaethau triphlyg; actio, canu a dawnsio. Drwy weithio gydag ymarferwyr proffesiynol y diwydiant, bydd y rhaglen Theatr Gerddorol yn cynnig cwrs astudio perthnasol i’r diwydiant ac iddo ffocws. Mae athrawon y cwrs yn ymrwymo i ddatblygu artistiaid meddylgar, creadigol, annibynnol; artistiaid sy’n berthnasol i’r diwydiant.

Wrth astudio Theatr Gerddorol bydd myfyrwyr yn cael dealltwriaeth gadarn ac ymarferol o’r ffordd mae’r diwydiant theatr gerddorol yn gweithio, gan ddatblygu dealltwriaeth myfyrwyr o sgiliau trosglwyddadwy a geir drwy’r hyfforddiant i’r byd yn gyffredinol gan gynyddu eu cyfleoedd am gyflogaeth.

Mae Lefel 4 yn ffocysu ar adeiladu egwyddorion sylfaenol, a fydd yn parhau’n berthnasol drwy gydol y radd a thu hwnt. Bydd y flwyddyn gyntaf yn sefydlu’r thema bod theori ac arfer wedi’u plethu. Mae Lefel 5 yn parhau i ddatblygu a gwella’r sgiliau hyn ac yn dechrau eu cymhwyso a’u rhoi yng nghyd-destun perfformiadau cyflawn. Mae Lefel 6 yn cyfoethogi’r sgiliau a’r profiadau a gafwyd ar lefel 5 a 6 mewn ystod o fodylau perfformio ac arfer proffesiynol 30-credyd, yn cynnwys dau gynhyrchiad mawr ac Arddangosfa Berfformio derfynol, gan eich paratoi ar gyfer darpar yrfa ym maes theatr gerddorol neu feysydd cysylltiedig.

Daeth y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am Ddrama, Dawns a Sinemateg
Complete University Guide 2023.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

BA Theatr Gerddorol
Cod UCAS: THG2 
Ymgeisiwch drwy UCAS


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
E-bost Cyswllt: wavda@uwtsd.ac.uk

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Gradd Theatr Gerddorol sy’n darparu hyfforddiant triphlyg
  • Dosbarthiadau bach
  • Addysgir gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiant
  • Arddangosfa berfformio derfynol
  • Cynyrchiadau llawn gyda chyfarwyddwyr a thechnegwyr proffesiynol

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Level 4

Cyfnod o ddatblygu sgiliau a thechnegau craidd yw Lefel 4. Mae’r 15 wythnos gyntaf yn gyfle i ganolbwyntio ar ddosbarthiadau actio, canu (1 i 1 a gwaith ensemble) a gwaith llais ynghyd â dosbarthiadau Tap, Bale, Jazz a dawns Gyfoes. Bydd cyfle i ddadansoddi ac ymchwilio ystod eang o arddulliau yn ein labordy theatr

Daw y cyfnod i ben gyda prosiect perfformio sy’n gyfle i gymhwyso yr holl sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y lefel.

Level 5

Mae Lefel 5 yn parhau i datblygu'r sgiliau craidd ac yn gyfle i ddechrau eu cymhwyso i greu perfformiad crwn. Bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ysgrifennu newydd a datblygu eu gwaith eu hunain yn ogystal ag adeiladu sgiliau a chymwyseddau sy'n angenrheidiol ar gyfer gwydnwch gyrfa a datblygiad proffesiynol ar gyfer y byd gwaith.

Level 6

Mae Lefel 6 yn ymwneud â dod â’r sgiliau a’r technegau at ei gilydd mewn dau gynhyrchiad sy’n rhoi cyfle i chi weithio gyda chyfarwyddwr a thîm cynhyrchu proffesiynol. Mae’r modiwl Diwydiannau Creadigol yn canolbwyntio ar y sgiliau angenrheidiol i bontio gyda’r byd gwaith yn cynnwys paratoi arddangosfa derfynol. Yn ogystal, byddwch yn gweithio ar brosiect annibynnol a all ganolbwyntio ar unrhyw agwedd ar y radd ac arddangos eich doniau unigol.

Pynciau Modylau

LEFEL 4 

Actio (20 Credyd)

Dros gyfnod o 20 wythnos mi fydd y myfyrwyr yn gweithio ar ddatblygu sgiliau actio a datblygu cymeriad a datblygu sgiliau ddadansoddi testun yn rhan o broses ymarfer.

Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu:

  • Defnyddio strategaethau i baratoi sgript i ymarfer yn effeithiol:
  • Dangos dealltwriaeth o’r cyswllt rhwng meddwl, anadlu, rhyddhau emosiynol a thestun
  • Cymhwyso ymagweddau ymarferol a damcaniaethol i ddatblygiad cymeriad actor.
  • Cymhwyso sgiliau actio a geir drwy ymagweddau naturiolaidd at berfformio.

Canu 1 (20 Credyd)

Dros gyfnod o 20 wythnos mae cyfle gan y myfyrwyr i ddatblygu amrywiaeth o arddulliau canu theatr gerddorol a llythrennedd cerddoriaeth cyffredinol. Cyflwynir anatomi a ffisioleg y llais canu ac i amrywiaeth o dechnegau llais a luniwyd i ddatblygu gallu lleisiol.

Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu:

  • Deall, dewis, ymarfer a pherfformio detholiad priodol o ganeuon i unawdwyr sy’n dangos gwybodaeth o gysyniadau sylfaenol ystod o genres ac arddulliau canu.
  • Deall hanfodion anatomi’r llais, a sut rydym yn gwneud synau, rhai a siaredir ac a genir.
  • Deall technegau a dulliau newydd sy’n briodol i ofynion arddulliau deunydd penodol a’i gymhwysiad penodol i dechnegau amrywiol wrth berfformio eu hunawdau.
  • Deall egwyddorion theori cerddoriaeth.

Hyfforddiant Dawns 1 (20 Credyd)

Dros gyfnod o 20 wythnos bydd y myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant ymarferol mewn technegau Jazz, Bale a Thap trwy ddatblygu ymwybyddiaeth gorfforol, cerddoroldeb, ansawdd rhythmig a chydsymud. Mae pwyslais hefyd ar bwysigrwydd maetheg a ffitrwydd a’u heffeithiau ar arferion a disgyblaethau perfformio cysylltiedig.

Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu:

  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o dechneg Jazz o fewn ymarferion teithio, gwaith cornel ac act arferol ar lefel sylfaen.
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o dechneg Bale gan gynnwys gwaith Barre a gwaith canol ystafell ar lefel ganolradd.
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o dechneg Tap trwy gyfres o ymarferion ar lefel sylfaen.
  • Gwerthuso pwysigrwydd maetheg a ffitrwydd a’u heffeithiau ar berfformiad.

Dosbarth Perfformio (20 Credyd)

Rhaglen 10 wythnos o hyd ble mae cyfle i fyfyrwyr ddatblygu repertoire, sgiliau perfformio a hunan-gyflwyno.

Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu:

  • Cyflwyno’n hyderus cyfres o ganeuon mewn gwahanol arddulliau ac o ystod o gyfnodau;
  • Cyflwyno’n hyderus cyfres o fonologau o ystod o ddramâu a gan amrywiaeth o ddramodwyr o Oes Elisabeth i Ddramodwyr Cyfoes.
  • Gwerthuso’n adeiladol eu cryfderau a gwendidau fel cantorion-actorion.

Labordy Theatr Gerddorol (20 Credyd)

Mae MT Lab yn gyfle i fyfyrwyr archwilio, dadansoddi, ymarfer a pherfformio amrywiaeth o arddulliau theatr gerddorol.

Mae'r modiwl yn ehangu dealltwriaeth myfyrwyr o gyd-destun hanesyddol theatr gerddorol

Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylai'r myfyriwr allu:

  • Dangos ei ddealltwriaeth o ystod eang o arddulliau / technegau Theatr Gerddorol 
  • Ymchwilio a myfyrio ar waith nifer o gyfansoddwyr, awduron a chynhyrchwyr theatr gerddorol
  • Dangos ymwybyddiaeth o hanes a datblygiad Theatr Gerddorol o theatr Groeg hyd heddiw

Dysgu yn yr Oes ddigidol (20 Credyd)

Yn ystod Lefel 4 mae’r modwil hwn yn datblygu sgiliau’r myfyrwyr ar gyfer astudio annibynnol a dysgu gydol oes, a fydd yn ffurfio’r sylfeini ar gyfer cwblhau eu rhaglen radd yn llwyddiannus a chefnogi cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu:

  • Arddangos y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i fod yn ddysgwr annibynnol cydnerth ac iach.
  • Ymarfer egwyddorion ystwythder dysgu
  • Defnyddio technoleg addas i gefnogi a gwella eu profiad dysgu yn y maes disgyblaeth 

LEFEL 5

Hyfforddiant Dawns 2 (20 Credyd)

Mae’r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u technegau mewn bale, tap, jazz a dawns masnachol.

Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu:

  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o dechneg Jazz o fewn ymarferion teithio, gwaith cornel ac act arferol ar lefel sylfaen.
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o dechneg Bale mewn gwaith Barre a gwaith canol ystafell ar lefel ganolradd.
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o dechneg Tap trwy gyfres o ymarferion ar lefel sylfaen.
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o ddawns Masnachol trwy ddau ddawns gwrthgyferbyniol.

Canu 2 (30 Credyd)

Mae’r modiwl hwn yn datblygu ymhellach ystod y myfyriwr o repertoire a dealltwriaeth o arddull. Gwersi wythnosol 1 wrth 1 a gwaith grwp.

 Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu:

Ymchwilio’n feirniadol, ymarfer a pherfformio dewis priodol o ganeuon i unawdwyr a grwpiau gan arwain at gyflwyniad/perfformiad sy’n dangos gwybodaeth gymhwysol o egwyddorion a thechnegau sefydledig, cymhwyso cysyniadau sylfaenol a dehongliad arddulliadol priodol.
Cyflwyno perfformiad hyderus ac uchelgeisiol, gan ddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol gyda’r cyfeilydd a’r gynulleidfa.
Dangos bod ganddynt y gallu a’r awydd i ddatblygu ac ehangu arddull y darnau a berfformir.
Cymhwyso Model Estill i adnabod a datrys problemau lleisiol.

Actio ar gfer Theatr Gerddorol 2 (20 credyd)

Mae’r modiwl hwn yn datblygu a chryfhau gallu’r myfyrwyr i ddeall a thrafod eu proses actio ymhellach yng nghyd-destun ymarferion sgrîn neu theatr. Bydd y myfyrwyr yn  cael eu trochi yn nulliau actio sgrîn ar gyfer ffilm a theledu a datblygu’n berfformiwr hyderus, yn barod i weithio o dan bwysau ac amodau gwaith byd y cyfryngau. 

Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu:

  • Dangos dealltwriaeth aeddfed o effaith a phwrpas ymarferion, gyda’r gallu i ddadansoddi cyd-destun y ddrama mewn ffordd hyderus a thrylwyr. 
  • Dangos gwybodaeth o ystod o ymarferion a thechnegau actio at ddibenion datblygiad parhaus y myfyrwyr
  • Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd datblygiad cymeriadau a pharhad mewn perfformiad.
  • Deall a gwerthuso pwysigrwydd bod â ffocws a bod yn barod am ymarferion sgrîn neu theatr.
  • Dangos gwerthfawrogiad llwyr o rôl y tîm technegol, yr adran greadigol a chynhyrchu a sut y mae eu cyfraniad fel actorion yn gweithio ar y cyd â’r holl bersonél sy’n rhan o’r cynhyrchiad.

Prosiect Cydweithredol (20 Credits)

Mae’r modiwl hwn yn gyfle gwych i’r myfyrwyr ddatblygu a chreu gwaith newydd. Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i sut y mae gweithdrefnau R&D proffesiynol yn gweithio.

Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu:

  • Gweithio’n gydweithredol i ymchwilio, ymarfer a pherfformio darn cyfoes o theatr
  • Gwerthuso’n feirniadol eu cyfraniad nhw at y broses gynhyrchu.
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r gwahanol brosesau artistig a’r dewisiadau sy’n rhan o’r broses gynhyrchu.
  • Cydbwyso hunan-gyfeiriad a gwaith cydweithredol. Addasu a dylunio dulliau gwaith ar gyfer pob sefyllfa newydd. Hunan-reolaeth, sgiliau gwaith cydweithredol, datrys
  • problemau, gwrando, dadansoddi beirniadol a gwerthfawrogi eu syniadau a’u credoau eu hunain ac eraill.

Sgiliau Clyweld (10 Credyd)

Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth y myfyriwr o’u potensial i gael eu castio’n barod ar gyfer clyweliadau yn y diwydiant.

Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu:

  • Deall eu potensial castio eu hunain.
  • Deall y llwybrau i ddod o hyd i’r monologau mwyaf perthnasol a chasglu portffolio o waith sy’n dangos cryfderau’r myfyriwr fel perfformiwr. 
  • Dangos dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o foesau clyweld
  • Gallu ymdrin ag adborth mewn ffordd gadarn ac adeiladol.

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 Credyd)

Mae’r modiwl hwn yn meithrin y sgiliau a’r cymwyseddau angenrheidiol ar gyfer gyrfa gadarn a datblygiad proffesiynol ar gyfer y cyd-destun gwaith yn y dyfodol.

Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu:

  • Gwerthuso sgiliau cyflogadwyedd personol a’u cysondeb â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arfer proffesiynol mewn amgylchedd go iawn neu ffug.
  • Adeiladu brand personol a hyrwyddo hunaniaeth broffesiynol ar gyfer cyfle penodol.

 LEFEL 6

Cynhyrchiad 1 (30 Credyd)

Bydd strwythur y broses ymarfer yn adlewyrchu arfer proffesiynol cyfredol. Bydd ymyfyrwyr yn treulio 5 wythnos yn gweithio a’r gynhyrchiad theatr. Bydd cyfle i weithio gyda chyfarwyddwr (wyr) proffesiynol er mwyn eu paratoi ar gyfer y diwydiant.

Erbyn diwedd y modwl hwn dylai myfyrwyr allu: 

  • arddangos lefel uchel o ddealltwriaeth gysyniadol o ran datblygu cynhyrchiad theatr;
  • arddangos lefel uchel o sgil o ran datblygu’n ymarferol a gwireddu’r rôl/rôlau a bennwyd iddynt yn y cynhyrchiad(au);
  • arddangos lefel uchel o sgiliau trefnu ar bob cam yn y broses gynhyrchu;
  • arddangos lefel uchel o allu i weithio’n annibynnol, gyda chyfarwyddwr ac mewn cydweithrediad â’u cymheiriaid;
  • gwerthuso’r broses greadigol a’u cyfraniad iddi.
     

Cynhyrchiad Terfynol (30 Credyd)

Dyma gyfle i’r myfyrwyr gyfuno’r sgiliau actio, canu a dawns a ddatblygwyd ganddynt yn ystod Lefelau 4 a 5. Darperir profiad, sy’n gyfateb i un proffesiynol, o weithio ar gynhyrchiad gydag ymarferwyr o’r diwydiant.

Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu:

  • Arddangos lefel uchel o ddealltwriaeth gysyniadol o ran datblygu cynhyrchiad theatr;
  • Arddangos lefel uchel o sgil o ran datblygu’n ymarferol a gwireddu’r rôl/rôlau a bennwyd iddynt yn y cynhyrchiad(au);
  • Arddangos lefel uchel o allu i weithio’n annibynnol, gyda chyfarwyddwr ac mewn cydweithrediad a’u cymheiriaid;
  • Gyflwyno eu ymchwil a’u gwaith dadansoddi mewn modd deallus

Y Diwydiannau Creadigol (20 credyd)

Mae’r modwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr baratoi eu hunain ar gyfer yr amrywiaeth eang o gyfleoedd a heriau sy’n wynebu myfyrwyr sy’n graddio. Gwaith y myfyriwr i adeiladu repertoire o ddeunydd sy’n addas i fynd i mewn i’r proffesiwn fydd wrth wraidd y modwl. Mewn ymgynghoriad â thiwtoriaid, bydd myfyrwyr yn ymchwilio a pharatoi ystod briodol o ddeunyddiau/portffolio i ddangos eu galluoedd fel ymarferwyr sy’n datblygu.

Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu:

  • Dangos yr amrywiaeth angenrheidiol o sgiliau a amlinellir ym mhob un o’r modylau eraill i safon y diwydiant;
  • Cynhyrchu portffolio o ddeunydd addas i fynd i mewn i’r proffesiwn
  • Gwerthuso’n feirniadol eu cryfderau a’u gwendidau;


Prosiect Annibynnol (40 credyd)

Nod y modiwl yw datblygu gallu y myfyrwyr i fynd i’r afael yn feirniadol ac yn arloesol â theori a/neu arfer sy’n berthnasol i’r meysydd pwnc a astudir ganddynt er mwyn llunio prosiect manwl sy’n benodol i’w disgyblaeth.

Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu:

  • Arddangos sgiliau deallusol wrth ddynodi pwnc, problem neu her briodol i’w harchwilio sy’n berthnasol i’w maes astudio a ffurfio cynllun addas i’w ymchwilio ymhellach gan ddefnyddio dulliau archwiliadol perthnasol er mwyn llunio ymateb.
  • Dangos gwybodaeth fanwl a dealltwriaeth feirniadol o’r egwyddorion sy’n angenrheidiol i ategu eu haddysg o fewn eu maes astudio dewisol a thechnegau datrys problemau sy’n berthnasol i hyn.
  • Dangos meddwl annibynnol a gwerthuso beirniadol wrth lunio darn o waith annibynnol, gan arddangos sgiliau trosglwyddadwy trwy ddefnyddio menter a chyfrifoldeb personol wrth gynllunio eu dysgu eu hunain a’u hunanreolaeth.
  • Trefnu eu gwybodaeth a’u dysgu trwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau, a chyflwyno’u gwaith yn briodol mewn ffordd sy’n ddealladwy i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
Asesiad

Perfformiadau/digwyddiadau
Mae myfyrwyr yn cael cyfle yn rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/ digwyddiadau trwy gydol eu gradd, lle gwelwn eu sgiliau a’u gwybodaeth yn cynyddu ac yn cael eu cymhwyso. 

Tiwtorialau rheolaidd
Rydym yn cynnal tiwtorialau ffurfiol ac anffurfiol trwy gydol y radd lle mae pob myfyriwr yn trafod ei waith gyda’r tiwtor modwl neu’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Edrychwn ar ddatblygiad ymarferol, twf cysyniadol a bwriadau i’r dyfodol.

Cyflwyniadau
Cynhelir cyflwyniadau fel arfer ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad, er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn meini prawf asesu.

Gweithlyfrau proses
Bydd myfyrwyr yn cofnodi eu proses a’u gwaith ymarferol mewn gweithlyfr sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Cysylltiadau Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru

Gwybodaeth allweddol

Staff

Mae artistiaid proffesiynol o’r diwydiannau creadigol, sy’n arbenigwyr yn eu maes, yn addysgu ar ein gradd.  Gallant gynnig nid yn unig wybodaeth fanwl a thrylwyr, ond hefyd brofiad personol a dirnadaeth o’r diwydiant perfformio heddiw.

Cyfarwyddwr y Rhaglen ac Uwch Ddarlithydd: Eilir Owen Griffiths
Darlithydd Theatr: Elen Bowman
Darlithydd Dawns: Tori Johns

Artistiaid Gwadd:

  • Rhian Morgan (Llais)
  • Rhian Cronshaw (Llais)
  • Aled Pedrick (Actio)
  • Tonya Smith (Actio)
  • Eiry Thomas (Actio)
  • Robbie Bowman (Actio)
  • Angharad Lee (Actio)
  • John Quirk (Cyfarwyddwr Cerdd)
  • David Laugharne (Canu)
  • Michael Moorwood (Canu)
  • Eiry Thomas (Actio)
  • Mali Tudno (Actio)
  • Steve Cassey (Actio)
  • Amy Guppy (Dawns)
  • Alexa Garcia (Danws)
  • Morgan Thomas (Theatr Gorfforol)
  • Luke Hereford (Cyfarwyddwr)
  • Sara Lloyd (Cyfarwyddwr)
  • David George Harrington (Cyfarwyddwr Cerdd)
  • Christopher Fossey (Cyfarwyddwr Cerdd)
Meini Prawf Mynediad

90-120 o Bwyntiau UCAS.

Mae’n bosibl y bydd y brifysgol yn ystyried ymgeiswyr heb gymwysterau ffurfiol os gallant ddangos lefel eithriadol o allu a phrofiad ymarferol.

Cyfleoedd Gyrfa
  • Actio
  • Canu
  • Dawns/Coreograffi
  • Theatr
  • Theatr Gerddorol
  • Astudiaeth/ymchwil ôl-raddedig
Costau Ychwanegol

Mae’r adran hon yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd.

Cyrsiau Cysylltiedig
Dyfyniadau Myfyrwyr

Erin Summerhayes

“Mae BA Theatr Gerddorol yn y Drindod Dewi Saint wedi bod yn bopeth roeddwn i wedi gobeithio amdano, a mwy. Mae proffesiynoldeb a chyfeillgarwch pawb sy’n gysylltiedig â’r radd yn rhagorol; dwi wedi cael croeso arbennig.

“Dwi wrth fy modd â’r hyfforddiant triphlyg a ddarperir ac yn methu aros i barhau â’m taith, gan gymryd cam yn agosach at wireddu fy mreuddwyd.”

Lloyd Macey

“Dwi’n falch iawn fy mod i wedi astudio yn y Drindod Dewi Sant Caerdydd – rhoddodd y cyfle i mi dyfu a datblygu fel perfformiwr ac i ddod o hyd i’m llais fy hun. Dwi ddim yn meddwl y byddwn i byth wedi cynnig am yr X Factor pe na bawn i wedi gwneud y cwrs hwn. Roeddwn i wastad wedi canu ac wedi cael profiad o ganu o’r blaen ond rhoddodd y cwrs hyder i mi ac fe wnaeth ddysgu cymaint i mi amdanaf i fy hun. Dysgodd fi sut i sianelu fy nerfau... i feddwl fy mod i’n gallu canu o flaen miliynau o bobl bob penwythnos... ddwy flynedd yn ôl, fyddwn i byth wedi gallu gwneud hynny. Felly na, fyddwn i byth wedi gwneud yr X Factor oni bai am yr holl waith caled a’r ymdrech y mae’r darlithwyr yn ei roi i’r cwrs yma.”

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau
Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth.