Skip page header and navigation

Lletygarwch a Rheoli Gwestai (BA Anrh)

Llundain
3 Blynedd Llawn amser
88 o Bwyntiau UCAS

Nod ein cwrs gradd Lletygarwch a Rheoli Gwestai yw gwella eich sgiliau dysgu gydol oes a’ch datblygiad personol fel y gallwch weithio gyda hunangyfeiriad a gwreiddioldeb a chyfrannu at y diwydiant gwestai a’r gymdeithas yn gyffredinol.​ Nod y rhaglen yw cynhyrchu graddedigion sy’n ddinasyddion byd-eang ac sy’n mynd i’r afael â’u bywyd personol a’u bywyd proffesiynol o safbwynt cynaliadwy.

Bydd y rhaglen yn datblygu eich sgiliau rheoli a’ch sgiliau deallusol, gan gynnwys rhesymu beirniadol, dadansoddi, creadigrwydd a myfyrio, fel y gallwch ddangos gwybodaeth fanwl a gwerthfawrogiad o hanfodion lletygarwch a rheoli gwestai, nodweddion gwestai mewn gwesty a goblygiadau ar gyfer rheoli profiadau yn ymwneud â gwasanaeth.

Nod y rhaglen yw eich paratoi ar gyfer gyrfa, neu ddatblygu eich gyrfa, o fewn y sector gwestai a lletygarwch trwy ddatblygu sgiliau proffesiynol priodol. Mae hyn yn cael ei wneud drwy roi gwybodaeth a dealltwriaeth i raddedigion o’r amgylchedd allanol a’i effeithiau ar y sectorau lletygarwch a gwestai yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Byddwch yn graddio gyda dealltwriaeth systematig o strwythur, rheolaeth a marchnata sefydliadau yn y diwydiant lletygarwch.​

Fel rhan orfodol o’r rhaglen, mae’r rhaglen hon yn darparu lleoliadau gwaith mewn gwestai i fyfyrwyr ledled y DU – gan roi profiad gwaith yn y diwydiant i chi. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r rhaglen yn defnyddio’r cyfleoedd dysgu arloesol a chreadigol i alluogi myfyrwyr i gael profiad rheolaidd i fyfyrwyr tu ôl i’r llen o fewn y diwydiant. Mae hyn yn cynnwys ymweliadau astudio maes lleol a rhyngwladol i ddod â’r dysgu’n fyw.
02
Mae gan yr Ysgol Twristiaeth a Lletygarwch dros 35 mlynedd o brofiad o ddarparu rhaglenni proffesiynol o’r radd flaenaf mewn Hamdden a Thwristiaeth yn ffocysu ar hyrwyddo rhagoriaeth o ran gwasanaeth gwesteion a grymuso o’r cychwyn cyntaf.
03
Mae gan y rhaglen enw rhagorol yn y diwydiant twristiaeth byd-eang sy’n arwain at gyfleoedd rheolaidd i fyfyrwyr rwydweithio ac ymgysylltu ag arweinwyr y diwydiant i gefnogi datblygiad eu gyrfa.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae dau semester ym mhob blwyddyn academaidd. Mae myfyrwyr llawn amser yn astudio gwerth 60 credyd o fodiwlau bob semester. Mae myfyrwyr rhan-amser yn astudio gwerth 60 credyd o fodiwlau bob blwyddyn. 

Ceir dau ddull astudio: cyfunol (ar y campws gan fwyaf) ac o bell (y rhan fwyaf o astudio o bell er bod lleoliadau gwaith wyneb yn wyneb). Ar lefel 4 mae myfyrwyr yn astudio gwerth 120 credyd o fodiwlau a addysgir. 

Ar lefelau 5 a 6, mae myfyrwyr yn rhannu eu hastudiaethau’n gyfartal rhwng modiwlau a addysgir a modiwlau ymarferol ar leoliad mewn gwesty, ynghyd ag wythnosau sefydlu ac wythnosau diwydiant ar y campws neu ar-lein, fel sy’n briodol i’r dull astudio.

Gorfodol 

Sgiliau Busnes ar gyfer y Diwydiant Gwestai Rhyngwladol

(20 credydau)

Gwasanaethau Lletygarwch a Gwesteion ar gyfer y Diwydiant Gwestai

(20 credydau)

Hanfodion Marchnata

(20 credydau)

Rheoli ac Ymddygiad Sefydliadol

(20 credydau)

Adnoddu a Datblygu Personél

(20 credydau)

Lletygarwch Cynaliadwy

(20 credydau)

Gorfodol 

Gweithrediadau Bwyd a Diod (Lleoliad)

(20 credydau)

Gweinyddiaeth Gwesty a'r Swyddfa Flaen (Lleoliad)

(20 credydau)

Gweithredu Cyfleusterau Gwesty (Lleoliad)

(20 credydau)

Entrepreneuriaeth

(20 credydau)

Ieithoedd Tramor ac Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol

(20 credydau)

Rheolaeth Ariannol ar gyfer y Diwydiant Gwestai

(20 credydau)

Gorfodol 

Themâu Cyfoes yn y Sector Gwestai a Lletygarwch

(20 credydau)

Rheoli Gweithrediadau Bwyd a Diod (Lleoliad)

(20 Credyd)

Ymgynghoriaeth Sefydliadol

(20 credydau)

Rheoli Cyfarfodydd Rhyngwladol ar gyfer y Diwydiant Gwestai

(20 credydau)

Prosiect Ymchwil Lleoliad

(20 Credyd)

Rheoli Profiad Gwasanaethau Gwesteion (Lleoliad)

(20 Credyd)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer mae gofyn fod gan fyfyrwyr 88 pwynt UCAS ar gyfer y rhaglenni. 

    Mae graddau’n bwysig; ond nid canlyniadau academaidd yw’r unig sail ar gyfer ein cynigion. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd.​

    Er mwyn asesu addasrwydd myfyriwr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle bydd eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd yn cael eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau. Mae’r cyfweliadau hyn yn cael eu cynnal ar-lein ac ar y campws.

  • Mae’r asesiadau’r modiwlau academaidd a’r modiwlau ymarferol yn adlewyrchu’r berthynas rhwng y ddwy elfen ac yn pwysleisio eu cydberthynas.​ Mae hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cysylltu eu hastudiaethau academaidd â’u profiad ymarferol ac mae’r ddwy elfen yn cynorthwyo dealltwriaeth o’r llall.

    Nid yw arholiadau’n cael eu defnyddio’n aml iawn yn y rhaglenni oherwydd bod ffocws yr asesiad ar ymarfer gweithgareddau sydd fel arfer yn cael eu cyflawni yn y gwesty neu mewn amgylchedd lletygarwch.​

    Mae’r asesu’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau ac asesiadau ymarferol sy’n profi gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau gwybyddol ond gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ymarferol a sgiliau (trosglwyddadwy) allweddol sy’n adlewyrchu’r sgiliau y bydd eu hangen ar y myfyrwyr wrth iddynt fynd i fyd gwaith ar ôl cwblhau eu cyrsiau.​ 

    Bydd gwaith cwrs a thasgau ymarferol yn cael eu gosod mewn amrywiaeth o ffurfiau. Mae’r rhain yn cynnwys: 

    Ymarferion ymarferol yn y dosbarth (e.e. seminarau ar ffurf trafodaethau) 

    • Chwarae rôl (e.e. ffug gyfweliadau, senarios sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid ac ati) 
    • Cyflwyniadau 
    • Cofnodion Dysgu – naill ai wedi’u cwblhau ar leoliad neu mewn sesiynau ymarferol mewnol 
    • Prosiectau Ymchwil 
    • Mentora gan gymheiriaid 
    • Adolygu fideo 
    • Traethodau 
    • Adroddiadau 
    • Asesiadau lleoliad profiad gwaith. 
  • Mae’n hanfodol bod gan bob myfyriwr fynediad i liniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith ar gyfer dysgu ar-lein a chyswllt band eang addas.

    Yn ystod y cwrs gradd hwn, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i fynd ar sawl taith maes yn y DU a thramor. Rydym yn ceisio cadw costau teithiau maes mor isel â phosibl ac mae llawer ohonynt yn derbyn cymhorthdal sylweddol gan y Brifysgol.​

    Nid yw’r costau i fyfyrwyr ar gyfer teithiau yn y DU yn fwy na £100 yn ystod y flwyddyn academaidd.  Ein nod yw cadw’r gost o dan £500 ar gyfer teithiau tramor ac maen nhw’n deithiau dewisol.​

    Ar gyfer teithiau maes dramor, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i dalu amdanynt fesul cam i leihau’r baich ariannol.​ Fel arfer rydym yn disgwyl i’r taliad terfynol ar gyfer taith maes gael ei wneud pedair 

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau.   I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau. 

  • Mae ein rhaglenni wedi’u cynllunio i gynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth academaidd gref a sgiliau ymarferol sy’n addas ar gyfer y diwydiant.​

    Mae pwyslais galwedigaethol ein rhaglenni yn rhoi ein graddedigion mewn sefyllfa arbennig o gryf wrth wneud cais am swyddi ac am le ar gynlluniau hyfforddiant rheoli i raddedigion, fel “Voyager” sef rhaglen Hyfforddiant Rheoli i Raddedigion gwestai’r Marriott. 

    Er bod graddedigion eraill yn dewis datblygu eu gyrfaoedd mewn gwestai sy’n eiddo i’r teulu, mewn busnesau lletygarwch eraill, gyda chwmnïau ymgynghori ac ati, oherwydd yr ystod o sgiliau y mae myfyrwyr yn eu meithrin wrth astudio ar gyfer y radd hon, mae galw mawr am ein graddedigion ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol.

Mwy o gyrsiau Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth

Chwiliwch am gyrsiau