Skip page header and navigation

MBA (Rheoli Gwestai Rhyngwladol) (Llawn amser) (MBA)

Dysgu o Bell
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae’r MBA (Rheoli Gwestai Rhyngwladol) yn adlewyrchu’r MBA cyffredinol i raddau helaeth ond mae ganddo ffocws arbenigol gwahanol. O’r herwydd, cynlluniwyd y cwrs i roi dealltwriaeth o’r gwaith o reoli gwestai yn yr amgylchedd byd-eang, digidol, sydd ohoni sy’n newid yn gyflym.

Felly, mae’n canolbwyntio ar ddatblygu ac ystyried sgiliau rheoli lefel uchel  a chymwyseddau yn y sector lletygarwch. Bydd myfyrwyr yn dysgu’r egwyddorion a’r sgiliau sy’n helpu rheolwyr i wneud y mwyaf o botensial adnoddau sefydliadol i gyflawni nodau cyffredin.

Mae hefyd wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth i’r myfyrwyr er mwyn cynnal ymchwil uwch i amrywiaeth o faterion sefydliadol ac arweinyddiaeth wrth ganolbwyntio ar y gydberthynas rhwng arweinyddiaeth a pherfformiad sefydliadol.

Mae modd cwblhau’r cwrs hwn yn llawn amser ac yn rhan-amser, trwy ddysgu ar-lein/o bell neu wyneb yn wyneb ar gampws Abertawe. Rydym yn derbyn myfyrwyr ddwywaith y flwyddyn: ym mis Ionawr ac ym mis Hydref.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Er mwyn darparu astudiaeth uwch o sefydliadau yn y sector rheoli gwestai, eu rheolaeth, a'r cyd-destun allanol cyfnewidiol maen nhw’n gweithredu ynddo.
02
Datblygu a gwella amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy cyffredinol a phriodoleddau sydd, er eu bod yn hynod briodol i yrfa mewn busnes, heb eu cyfyngu i hyn.
03
Datblygu sgiliau dysgu gydol oes, gan gynnwys brwdfrydedd dros fusnes a dysgu’n fwy cyffredinol fel rhan o ddatblygiad personol a phroffesiynol parhaus.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r MBA Rheoli Gwestai Rhyngwladol yn adlewyrchu’r MBA cyffredinol i raddau helaeth ond mae ganddo ffocws arbenigol. Cynlluniwyd y cwrs i roi dealltwriaeth o’r gwaith o reoli gwestai yn yr amgylchedd byd-eang, digidol sydd ohoni sy’n newid yn gyflym. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu ac ystyried sgiliau rheoli lefel uchel a chymwyseddau yn y sector lletygarwch.

Bydd myfyrwyr yn dysgu’r egwyddorion a’r sgiliau sy’n helpu rheolwyr i wneud y mwyaf o botensial adnoddau sefydliadol i gyflawni nodau cyffredin. Wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth i’r myfyrwyr er mwyn cynnal ymchwil uwch i amrywiaeth o faterion sefydliadol ac arweinyddiaeth wrth ganolbwyntio ar y gydberthynas rhwng arweinyddiaeth a pherfformiad sefydliadol.

Mae’r llwybr MBA hwn yn cynnig cydbwysedd rhwng arferion busnes traddodiadol/yn y dyfodol a gwerthusiad beirniadol gydag offer, technegau, dulliau ac astudiaethau achos arbenigol o amrywiaeth o bynciau/diwydiannau yn yr amgylchedd digidol sydd ohoni.

Uchafbwynt y rhaglen yw’r traethawd hir ac mae’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddadansoddi mater sy’n ymwneud â rheoli gwestai rhyngwladol yn fanwl.

Gorfodol

Cyllid i Reolwyr Busnes

(20 credydau)

Arweinyddiaeth Ryngddiwylliannol mewn Oes o Lobaleiddio

(20 credydau)

Rheoli Newid Marchnata

(20 credydau)

Rheoli Pobl mewn Sefydliadau

(20 credydau)

Rheoli Busnes Strategol ac Ystwyth

(20 credydau)

Dewisol

Traethawd Hir

(60 credydau)

Modiwl Astudio Annibynnol Rhyngwladol

(60 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gan PCYDDS gymuned ôl-raddedig amrywiol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, p’un a ydych wedi graddio’n ddiweddar neu wedi bod allan o fyd addysg ers amser.

    Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf da (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch), er y gellir derbyn ymgeiswyr sydd â dosbarthiadau gradd is ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel meistr os bydd cynnydd boddhaol yn cael ei wneud.  Caiff pob cais ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lleoedd yn seiliedig ar gymwysterau a meini prawf mynediad ansafonol, gan gynnwys aeddfedrwydd, cymwysterau proffesiynol a phrofiad perthnasol.  Rydym yn argymell bod ymgeiswyr sydd â chymwysterau ansafonol yn cyflwyno curriculum vitae byr gyda’u ffurflen gais.

    Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan aelodau’r Lluoedd Arfog ac yn cydnabod yr hyfforddiant a’r addysg y maen nhw wedi ei dderbyn wrth hyfforddi.

    Er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer eich dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle bydd eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd yn cael eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.  Mae’r cyfweliadau hyn yn cael eu cynnal ar-lein ac ar y campws.

    Myfyrwyr Rhyngwladol

    Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ac yn ystyried y ceisiadau hynny drwy ddefnyddio’r un meini prawf academaidd ag yr ydym ar gyfer pob cais arall.  Rhaid i bob myfyriwr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos eu gallu, mewn Saesneg ysgrifenedig ac ar lafar, trwy feddu ar sgôr IELTS gradd 6.0 o leiaf neu gyfwerth.

    Yn ogystal â’r manylion personol ac academaidd sydd eu hangen ar y ffurflen gais, bydd gofyn i chi enwi dau ganolwr. Yn ddelfrydol, dylai eich canolwyr allu darparu geirda academaidd ond mae geirda proffesiynol neu bersonol (nid teulu) yn dderbyniol i ymgeiswyr nad ydynt wedi bod mewn addysg yn ddiweddar. Os ydych yn ansicr ynghylch cael geirda, cysylltwch â’r tiwtor derbyn a fydd yn gallu rhoi arweiniad i chi. 

  • Prif bwrpas y cynllun asesu yw galluogi myfyrwyr i ddangos yn unigol eu bod wedi bodloni nodau’r rhaglenni ac wedi cyflawni’r deilliannau dysgu i’r safon sy’n ofynnol ar gyfer lefel yr astudiaeth. Bydd asesu hefyd yn cael ei ddefnyddio i roi adborth i fyfyrwyr i’w cynorthwyo gyda dysgu dilynol. 

    Felly, bydd y gofynion asesu yn cefnogi’r myfyrwyr i gyflawni nodau a deilliannau dysgu’r rhaglen.  Yn benodol, dylai’r asesiad alluogi theori i lywio ymarfer, gyda myfyrwyr yn arddangos trylwyredd deallusol ac yn ystyried eu profiadau eu hunain yn feirniadol, lle bo’n berthnasol. Bydd y pecyn asesu cyffredinol yn datblygu diwylliant o ddysgu annibynnol ac yn sicrhau bod yr holl ddeilliannau dysgu wedi cael sylw unigol. Nod y strategaeth yw adlewyrchu cefndiroedd amrywiol y cyfranogwyr a nodweddion pob modiwl.

    Mae’r strategaeth asesu yn dilyn ethos nodau’r rhaglen, y deilliannau dysgu a’r strategaeth ddysgu/addysgu. Mae pob asesiad yn ceisio profi gwybodaeth myfyrwyr o gysyniadau cyffredinol ac arbenigol a sut maen nhw’n eu defnyddio. Mae natur gymhwysol y rhaglen yn gofyn am ddefnydd helaeth o ddeunydd cyd-destunol ar gyfer dysgu ac asesu wrth iddynt ymgymryd â’r rhaglen. Bydd y sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr ar gyfer cymwysiadau o’r fath yn cael eu datblygu’n gynnar yn y rhaglen.

    Bydd pob modiwl yn cael ei asesu’n grynodol drwy amrywiaeth o dasgau asesu unigol ond defnyddir dulliau ffurfiannol hefyd. Cynhelir asesiad ffurfiannol trwy ymarferion ymarferol sy’n cael eu cynnal a’u trafod yn y dosbarth, chwarae rôl, trafodaethau, cyflwyniadau gan fyfyrwyr a’r sesiynau sydd wedi’u neilltuo i adolygu’r arholiadau ar ôl iddynt gael eu marcio.

    Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu crynodol, h.y., asesiadau sydd wedi’u mynegi mewn marciau sy’n cyfrif tuag at gyfrifo’r marc terfynol.  Mae arholiadau’n cael eu defnyddio’n bennaf er mwyn profi gwybodaeth a dealltwriaeth.  Mae gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol yn tueddu i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau gwybyddol, ymarferol ac allweddol.  Mae dulliau o’r fath yn hynod briodol i natur y ddisgyblaeth fusnes gan eu bod yn hwyluso asesu ac ymarfer dilys sy’n berthnasol i’r gweithle. Bydd gwaith cwrs a gwaith ymarferol yn cael eu gosod mewn amrywiaeth o ffurfiau. Mae’r rhain yn cynnwys:

    • Traethodau
    • Adroddiadau
    • Portffolios
    • Prosiectau ymchwil
    • Cyflwyniadau
    • Gemau sy’n efelychu busnes
    • Lleoliad
    • Creu platfform marchnata digidol ar-lein. 
  • Fel sefydliad, rydym yn ceisio gwella profiad myfyrwyr yn barhaus ac o ganlyniad, efallai y bydd costau ychwanegol i’r myfyriwr ar weithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, bydd y costau hyn yn cael eu cadw mor isel â phosibl a bydd y gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

    Bydd teithiau maes, dewisol, ar gael i fyfyrwyr.  Bydd myfyrwyr yn cael gwybod am y costau ar gyfer y teithiau yn y DU a’r teithiau Rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. 

    Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu pedair wythnos cyn mynd ar deithiau maes a thalu’r costau ar gyfer teithio a fisa dri mis cyn y dyddiad ymadael ar gyfer lleoliadau tramor.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Daeth PCYDDS i’r brig gan gyrraedd y safle cyntaf yn y DU am foddhad myfyrwyr o ran ansawdd addysgu mewn Astudiaethau Busnes — The Times & The Sunday Times Good University Guide 2019.

    Mae Ysgol Fusnes Abertawe wedi cyflwyno ei rhaglen MBA (Meistr mewn Gweinyddu Busnes) i fyfyrwyr o bob rhan o’r byd ers dros 20 mlynedd.

    Mae’r cymhwyster cyffredinol hwn, sy’n uchel ei barch yn rhyngwladol, gyda’i lwybr arbenigol i Reoli Gwestai Rhyngwladol yn gwella sgiliau a chymhwysedd rheolwyr profiadol ac yn gychwyn ar yrfa reoli ar gyfer graddedigion mwy diweddar.

    Drwy astudio gyda ni, byddwch yn:

    • Datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth rheoli ac arwain allweddol sydd eu hangen arnoch i wella eich gyrfa.
    • Gweithio gyda thiwtoriaid cyfeillgar, ar sail ymarfer a fydd yn eich arwain trwy bob cam o’r broses.
    • Ymuno â chymuned ddysgu a fydd yn dod yn rhwydwaith busnes am oes.
    • Ennill cymhwyster rheoli blaenllaw mewn amgylchedd dysgu hyblyg a chefnogol.
    • Beth am roi’r cyfle gorau i’ch gyrfa ym maes Lletygarwch trwy wella eich gwybodaeth.

Mwy o gyrsiau Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth

Chwiliwch am gyrsiau