Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol (Rhan amser) (DipAU)
Nod y rhaglen Rheoli Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol yw rhoi profiad academaidd heriol sy’n datblygu eich sgiliau deallusol mewn perthynas â materion cyfoes ym maes Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol. Bydd y rhaglen yn meithrin eich sgiliau diwydiant proffesiynol a gwella eich cyflogadwyedd ym maes Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol.
Mae hyn yn cynnwys dysgu am gysyniadau twristiaeth fyd-eang fel maes theori academaidd ac astudiaeth gymhwysol sy’n ymwneud â busnes a rheolaeth. Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o weithrediadau, o strategaethau teithio a thwristiaeth, o gyrchfannau a digwyddiadau, ac yn cael cyfleoedd mewn nifer o yrfaoedd ym maes Rheoli Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Cartref: 240 o gredydau am £35 fesul credyd.
Rhyngwladol: 240 o gredydau am £99 fesul credyd.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Nod y rhaglen hon yw gwella talentau proffesiynol a sgiliau diwydiant myfyrwyr er mwyn iddyn nhw fod yn fwy tebygol o gael eu cyflogi yn y Diwydiant Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol. Mae’n datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o reoli yn ogystal â’u gallu i weithio gyda chreadigrwydd ac arloesedd, a thrwy hynny gyfrannu’n effeithiol at y Sector Teithio a Thwristiaeth byd eang. Y nod yw datblygu myfyrwyr sy’n addas i’r diben ac sydd â safonau gwasanaeth gwesteion blaengar sy’n bodloni anghenion sefydliadau twristiaeth a theithio mwyaf blaenllaw’r byd
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credyd)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credyd)
(20 Credyd)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
88 o bwyntiau UCAS (BA) | 44 o bwyntiau UCAS (DipAU)
Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol ac ymrwymedig sy’n dangos ymrwymiad cryf i Deithio a Thwristiaeth Rhyngwladol yn ogystal â’r rheiny sydd â phrofiad gwaith sylweddol a pherthnasol. I asesu addasrwydd myfyriwr posibl gallwn drefnu cyfweliadau i chi drafod eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiadau bywyd gyda ni.
-
Caiff y rhaglen ei hasesu trwy gyfuniad strwythuredig o asesiadau ymarferol, lleoliadau, astudiaethau achos, digwyddiadau, adroddiadau rheoli, cyflwyniadau, traethodau, adolygiadau teithio, DVD/fideos, blogiau teithio, astudiaethau dichonoldeb, prosiectau, cyflwyniadau cynnig a’r cyfle i gynllunio, trefnu ac asesu teithiau a phrofiadau teithio a thwristiaeth.
Ble bynnag y bo modd, llunnir asesiadau i ddatblygu sgiliau proffesiynol yn ogystal â datblygu meddwl beirniadol, arweinyddiaeth, rheolaeth, gwasanaeth gwesteion a gwaith tîm wrth baratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant. NID yw’r rhaglen yn cynnwys arholiadau.
-
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sy’n angenrheidiol i fyfyrwyr ymgymryd â’u modylau.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yn cael costau ychwanegol yn gysylltiedig â theithiau maes. O flwyddyn i flwyddyn mae’r costau hyn yn amrywio o £25 ar lefel 4, i £500 ar lefel 5 a hyd at £1,000 ar lefel 6, fodd bynnag mae’r rhain i gyd â chymhorthdal.
-
Mae bwrsarïau datblygu gyrfa hyd at £1,000 ar gael i fyfyrwyr i gefnogi lleoliadau, interniaethau a gwirfoddoli mewn digwyddiadau. Efallai y bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am y Prosiect Darganfod er cefnogi Symudedd Rhyngwladol i gefnogi Profiadau Lleoliadau Rhyngwladol byr.
Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor.
-
Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfle i ymgymryd â lleoliadau rhyngwladol integredig yn ystod lefel 4, 5 a 6 er mwyn cael profiad arbenigol yn y diwydiant ac i ddatblygu sgiliau proffesiynol myfyrwyr.
-
Mae hyblygrwydd y rhaglen, ei ffocws ar gyfleoedd yn y diwydiant, interniaethau a chymorth lleoliad graddedigion yn grymuso myfyrwyr i lywio eu hastudiaethau tuag at eu huchelgeisiau gyrfaol eu hunain a’u hamgylchiadau personol.
Mae’r rhyngweithio cyson gyda chyflogwyr yn ffocysu ar wasanaeth gwesteion a sgiliau cyflogadwyedd proffesiynol sy’n rhoi i fyfyrwyr y cyfle i wireddu eu potensial gyrfaol trwy eu hastudiaethau.
Ar ôl graddio, mae myfyrwyr o’r rhaglen hon wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth sicrhau ystod o swyddi rheoli a gweithredol yn y Diwydiant Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol.
Gall llwybrau gyrfaol y dyfodol gynnwys:
Rheolaeth Twristiaeth – Atyniadau, Gwestai Rhyngwladol, Digwyddiadau, Confensiynau, Gwyliau, Byrddau Twristiaeth.
Rheolaeth Teithio – Cwmnïau Hedfan, Meysydd Awyr, Gweithredwyr Teithiau, Asiantau Teithio.
Ymhlith enghreifftiau blaenorol gyrfaoedd graddedigion mae ystod o swyddi rheoli gyda Aspen Ski Company, Awdurdod Twristiaeth Prydain, Contiki Holidays, Jumeirah Resorts Dubai, Merlin Entertainment, Necker Island yn y Caribi, PGL Activity Holidays, Planos Holidays Greece, St Brides Spa Hotel, Retreats Group, Ritz Carlton Resorts Worldwide, Rockley Watersports France & UK, Royal Caribbean Cruiselines, Tui Holidays, Croeso Cymru, Walt Disney World.