Skip page header and navigation

Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol (Llawn amser) (DipAU)

Abertawe
2 Blynedd Llawn amser
44 o Bwyntiau UCAS

Mae ein DipAU Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yn darparu profiad academaidd heriol a luniwyd i ddatblygu eich sgiliau academaidd a rhoi i chi brofiad ymarferol o reoli digwyddiadau. 

Nod y rhaglen Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yw rhoi i chi ystod o gyfleoedd cyffrous i ddatblygu eich gwybodaeth academaidd, talentau proffesiynol a sgiliau diwydiant i hybu eich cyflogadwyedd. Gan ffocysu ar Wyliau, Digwyddiadau Chwaraeon, Cyfarfodydd, Cynadleddau a Phriodasau, bydd ein cwrs yn datblygu eich dealltwriaeth reolaethol a’ch gallu i weithio’n greadigol ac arloesol er mwyn cyfrannu’n effeithiol at y sector digwyddiadau.

Mae’r rhaglen yn cwmpasu ystod eang o bynciau, gan gynnwys effeithiau Digwyddiadau a Gwyliau a’u gwaddol. Yn ogystal, byddwch yn edrych yn feirniadol ar ymgysylltiad rhanddeiliaid, gweithrediadau digwyddiadau, cynllunio gwaddol, cwmpasu, ariannu a marchnata er mwyn gallu rheoli digwyddiadau’n effeithiol. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o natur ddeinamig y diwydiant digwyddiadau rhyngwladol, strategaethau, cyrchfannau a materion cysylltiedig â chynaliadwyedd.

100% gwaith cwrs gydag asesiadau arloesol yn seiliedig ar ddiwydiant a digwyddiadau a dim arholiadau.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
IFM5
Hyd y cwrs:
2 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
44 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae Partneriaeth unigryw’r Brifysgol â digwyddiad Ironman Wales yn Ninbych y Pysgod yn rhoi cyfleoedd gwirfoddoli a dihafal i fyfyrwyr yn y digwyddiad ac i gyflawni prosiectau ac ymchwil ym maes digwyddiadau.
02
Y cyfle i ennill profiad ymarferol o reoli digwyddiadau trwy weithio ar brosiectau digwyddiadau o’r cychwyn.
03
Cynigia’r cwrs gyfleoedd heb eu hail am deithiau maes arbenigol, ymweliadau y tu ôl i’r llenni a rhyngweithio â gweithwyr proffesiynol digwyddiadau.
04
Mae gan yr Ysgol Twristiaeth a Lletygarwch dros 35 mlynedd o brofiad o ddarparu rhaglenni proffesiynol o’r radd flaenaf mewn Hamdden a Thwristiaeth yn ffocysu ar hyrwyddo rhagoriaeth o ran gwasanaeth gwesteion a grymuso o’r cychwyn cyntaf.
05
Y cyfle i gyflawni lleoliadau rheoli digwyddiadau arbenigol yn y DU neu’n rhyngwladol gan gynnwys profiadau gweithredol cyffrous gyda chwmni sgïo Aspen
06
Sgiliau cyflogadwyedd yn rhan annatod o bob modwl.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Nod y rhaglen hon yw gwella talentau proffesiynol a sgiliau diwydiant myfyrwyr er mwyn iddyn nhw fod yn fwy tebygol o gael eu cyflogi yn y Diwydiant Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol. Nod y Dip AU yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o reoli yn ogystal â’u gallu i weithio gyda chreadigrwydd ac arloesedd, a thrwy hynny gyfrannu’n effeithiol at y Sector Digwyddiadau. Bydd yn datblygu myfyrwyr sy’n gymwys ac yn barod i ddechrau gweithio, sydd â safonau blaengar o ran digwyddiadau a gwasanaeth gwesteion ac sy’n gallu diwallu anghenion sefydliadau digwyddiadau blaenllaw. 

Rheoli Sefydliadau Twristiaeth, Hamdden a Digwyddiadau

(20 credydau)

Lletygarwch a Rheoli Gwasanaethau Gwesteion

(20 credydau)

Marchnata Arbenigol a'r Cyfryngau Cymdeithasol

(20 credydau)

Sgiliau Academaidd, Digidol a Diwydiant

(20 credydau)

Y Diwydiant Twristiaeth, Digwyddiadau a Hamdden

(20 Credyd)

Profiad Digwyddiadau a Gwyliau (Lleoliad)

(20 Credyd)

Twristiaeth Fyd-eang Gynaliadwy

(20 credydau)

Gweithrediadau Teithio Rhyngwladol

(20 credydau)

Rheoli Gweithrediadau ar gyfer Twristiaeth, Hamdden a Digwyddiadau

(20 credydau)

Prosiect Digwyddiadau Byw

(20 credydau)

Lleoliad Proffesiynol a Phrosiect Menter ar gyfer Twristiaeth, Digwyddiadau a Hamdden

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil ac Astudiaethau Maes

(20 Credyd)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 88 o Bwyntiau UCAS (BA) | 44 o Bwyntiau UCAS (TystDip) | 36 o Bwyntiau UCAS (TystAU)

    Derbynnir cymwysterau cyfwerth eraill a bydd y panel derbyn yn ystyried pob cais yn unigol.  Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth ystod lawn eich sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.

    Mae croeso i ymgeiswyr sydd wedi astudio busnes gynt wneud cais, fel cam nesaf naturiol ymlaen. Bydd y rheini sydd wedi astudio pynciau eraill yn trosglwyddo’n dda. Gall y rheini sydd â phrofiad gwaith, ond heb fawr ddim cymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen. Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, UE a chyrff rhyngwladol.

    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  •  Caiff y rhaglen ei hasesu trwy gyfuniad strwythuredig o asesiadau ymarferol, digwyddiadau, lleoliadau, astudiaethau achos, archwiliadau, ymarferion hyfforddi, adroddiadau rheoli, cyflwyniadau, traethodau, adolygiadau digwyddiadau, DVD/fideos, flogiau/blogiau, astudiaethau dichonoldeb, prosiectau, cyflwyniadau cynnig a’r cyfle i gynllunio, trefnu ac asesu teithiau digwyddiadau a phrofiadau.

    Ble bynnag y bo modd, llunnir asesiadau i ddatblygu sgiliau proffesiynol yn ogystal â datblygu meddwl beirniadol, arweinyddiaeth, rheolaeth digwyddiadau, gwasanaeth gwesteion a gwaith tîm wrth baratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y digwyddiadau. NI fydd arholiadau ar y cwrs hwn.

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sy’n angenrheidiol i fyfyrwyr ymgymryd â’u modylau.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yn cael costau ychwanegol yn gysylltiedig â theithiau maes.  O flwyddyn i flwyddyn mae’r costau hyn yn amrywio o £25 ar lefel 4, i £500 ar lefel 5 a hyd at £1,000 ar lefel 6, fodd bynnag mae’r rhain i gyd â chymhorthdal.

  • Mae bwrsarïau datblygu gyrfa hyd at £1,000 ar gael i fyfyrwyr i gefnogi lleoliadau, interniaethau a gwirfoddoli mewn digwyddiadau. Efallai y bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am y Prosiect Darganfod er cefnogi Symudedd Rhyngwladol i gefnogi Profiadau Lleoliadau Rhyngwladol byr.

    Ewch i’n hadran Scholarships and Bursaries i ddysgu rhagor.

    • Rheolwr Digwyddiadau
    • Cyfarwyddwr Digwyddiadau
    • Rheolwr Gwyliau
    • Diogelwch Digwyddiadau
    • Rheolwr Marchnata
    • Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus
    • Rheolwr Digwyddiadau a Lleoliadau Chwaraeon
    • Rheolwr Prosiectau
    • Cydlynydd Priodasau

Mwy o gyrsiau Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth

Chwiliwch am gyrsiau