Skip page header and navigation

Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol (Llawn amser) (DipAU)

Abertawe
2 Flynedd Llawn amser
44 o Bwyntiau UCAS

Nod y rhaglen Rheoli Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol yw rhoi profiad academaidd heriol sy’n datblygu eich sgiliau deallusol mewn perthynas â materion cyfoes ym maes Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol.  Bydd y rhaglen yn meithrin eich sgiliau diwydiant proffesiynol a gwella eich cyflogadwyedd ym maes Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol.

Mae hyn yn cynnwys dysgu am gysyniadau twristiaeth fyd-eang fel maes theori academaidd ac astudiaeth gymhwysol sy’n ymwneud â busnes a rheolaeth. Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o weithrediadau, o strategaethau teithio a thwristiaeth, o gyrchfannau a digwyddiadau, ac yn cael cyfleoedd mewn nifer o yrfaoedd ym maes Rheoli Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
ITO6
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
44 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r rhaglen yn defnyddio’r cyfleoedd dysgu arloesol a chreadigol i alluogi myfyrwyr i gael profiad rheolaidd i fyfyrwyr tu ôl i’r llen o fewn y diwydiant. Mae hyn yn cynnwys ymweliadau astudio maes lleol a rhyngwladol i ddod â’r dysgu’n fyw.
02
Mae gan yr Ysgol Twristiaeth a Lletygarwch dros 35 mlynedd o brofiad o ddarparu rhaglenni proffesiynol o’r radd flaenaf mewn Hamdden a Thwristiaeth yn ffocysu ar hyrwyddo rhagoriaeth o ran gwasanaeth gwesteion a grymuso o’r cychwyn cyntaf.
03
Mae gan y rhaglen enw rhagorol yn y diwydiant twristiaeth byd-eang sy’n arwain at gyfleoedd rheolaidd i fyfyrwyr rwydweithio ac ymgysylltu ag arweinwyr y diwydiant i gefnogi datblygiad eu gyrfa.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Nod y rhaglen hon yw gwella talentau proffesiynol a sgiliau diwydiant myfyrwyr er mwyn iddyn nhw fod yn fwy tebygol o gael eu cyflogi yn y Diwydiant Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol. Mae’n datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o reoli yn ogystal â’u gallu i weithio gyda chreadigrwydd ac arloesedd, a thrwy hynny gyfrannu’n effeithiol at y Sector Teithio a Thwristiaeth byd eang. Y nod yw datblygu myfyrwyr sy’n addas i’r diben ac sydd â safonau gwasanaeth gwesteion blaengar sy’n bodloni anghenion sefydliadau twristiaeth a theithio mwyaf blaenllaw’r byd

Gorfodol

Rheoli Sefydliadau Twristiaeth, Hamdden a Digwyddiadau

(20 credydau)

Lletygarwch a Rheoli Gwasanaethau Gwesteion

(20 credydau)

Marchnata Arbenigol a'r Cyfryngau Cymdeithasol

(20 credydau)

Sgiliau Academaidd, Digidol a Diwydiant

(20 credydau)

Datblygiad Proffesiynol a Lleoliad Gweithredol

(20 credydau)

Y Diwydiant Twristiaeth, Digwyddiadau a Hamdden

(20 Credyd)

Gorfodol

Gweithrediadau Teithio Rhyngwladol

(20 credydau)

Prosiect Digwyddiadau Byw

(20 credydau)

Rheoli Gweithrediadau ar gyfer Twristiaeth, Hamdden a Digwyddiadau

(20 credydau)

Lleoliad Proffesiynol a Phrosiect Menter ar gyfer Twristiaeth, Digwyddiadau a Hamdden

(20 credydau)

Twristiaeth Fyd-eang a Digwyddiadau Cynaliadwy

(20 Credyd)

Dulliau Ymchwil ac Astudiaethau Maes

(20 Credyd)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 88 o bwyntiau UCAS (BA) | 44 o bwyntiau UCAS (DipAU)

    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol ac ymrwymedig sy’n dangos ymrwymiad cryf i Deithio a Thwristiaeth Rhyngwladol yn ogystal â’r rheiny sydd â phrofiad gwaith sylweddol a pherthnasol. I asesu addasrwydd myfyriwr posibl gallwn drefnu cyfweliadau i chi drafod eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiadau bywyd gyda ni.

  • Caiff y rhaglen ei hasesu trwy gyfuniad strwythuredig o asesiadau ymarferol, lleoliadau, astudiaethau achos, digwyddiadau, adroddiadau rheoli, cyflwyniadau, traethodau, adolygiadau teithio, DVD/fideos, blogiau teithio, astudiaethau dichonoldeb, prosiectau, cyflwyniadau cynnig a’r cyfle i gynllunio, trefnu ac asesu teithiau a phrofiadau teithio a thwristiaeth.

    Ble bynnag y bo modd, llunnir asesiadau i ddatblygu sgiliau proffesiynol yn ogystal â datblygu meddwl beirniadol, arweinyddiaeth, rheolaeth, gwasanaeth gwesteion a gwaith tîm wrth baratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant. NID yw’r rhaglen yn cynnwys arholiadau.

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sy’n angenrheidiol i fyfyrwyr ymgymryd â’u modylau.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yn cael costau ychwanegol yn gysylltiedig â theithiau maes.  O flwyddyn i flwyddyn mae’r costau hyn yn amrywio o £25 ar lefel 4, i £500 ar lefel 5 a hyd at £1,000 ar lefel 6, fodd bynnag mae’r rhain i gyd â chymhorthdal.

  • Mae bwrsarïau datblygu gyrfa hyd at £1,000 ar gael i fyfyrwyr i gefnogi lleoliadau, interniaethau a gwirfoddoli mewn digwyddiadau. Efallai y bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am y Prosiect Darganfod er cefnogi Symudedd Rhyngwladol i gefnogi Profiadau Lleoliadau Rhyngwladol byr.

    Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor.

  • Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfle i ymgymryd â lleoliadau rhyngwladol integredig yn ystod lefel 4, 5 a 6 er mwyn cael profiad arbenigol yn y diwydiant ac i ddatblygu sgiliau proffesiynol myfyrwyr.

  • Mae hyblygrwydd y rhaglen, ei ffocws ar gyfleoedd yn y diwydiant, interniaethau a chymorth lleoliad graddedigion yn grymuso myfyrwyr i lywio eu hastudiaethau tuag at eu huchelgeisiau gyrfaol eu hunain a’u hamgylchiadau personol.

    Mae’r rhyngweithio cyson gyda chyflogwyr yn ffocysu ar wasanaeth gwesteion a sgiliau cyflogadwyedd proffesiynol sy’n rhoi i fyfyrwyr y cyfle i wireddu eu potensial gyrfaol trwy eu hastudiaethau.

    Ar ôl graddio, mae myfyrwyr o’r rhaglen hon wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth sicrhau ystod o swyddi rheoli a gweithredol yn y Diwydiant Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol.

    Gall llwybrau gyrfaol y dyfodol gynnwys:

    Rheolaeth Twristiaeth – Atyniadau, Gwestai Rhyngwladol, Digwyddiadau, Confensiynau, Gwyliau, Byrddau Twristiaeth.
    Rheolaeth Teithio – Cwmnïau Hedfan, Meysydd Awyr, Gweithredwyr Teithiau, Asiantau Teithio.
    Ymhlith enghreifftiau blaenorol gyrfaoedd graddedigion mae ystod o swyddi rheoli gyda Aspen Ski Company, Awdurdod Twristiaeth Prydain, Contiki Holidays, Jumeirah Resorts Dubai, Merlin Entertainment, Necker Island yn y Caribi, PGL Activity Holidays, Planos Holidays Greece, St Brides Spa Hotel, Retreats Group, Ritz Carlton Resorts Worldwide, Rockley Watersports France & UK, Royal Caribbean Cruiselines, Tui Holidays, Croeso Cymru, Walt Disney World.

Mwy o gyrsiau Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth

Chwiliwch am gyrsiau