Skip page header and navigation

Sgiliau Seicotherapiwtig: Dyneiddiol (Rhan amser) (PGDip)

Abertawe
2 Flynedd Rhan amser

Mae sylfaen y rhaglen hon yn cael ei ysbrydoli gan waith Carl Rogers a’r berthynas therapiwtig; gwaith ffocysu Eugene Gendlin, a gwaith deialogaidd a gwaith drwy brofiad traddodiad Gestalt. O hyn, mae ymagwedd Therapi sy’n Ffocysu ar Emosiwn (EFT) yn agor gwell mynediad at emosiwn dynol, fel y mae’n ymgysylltu â diddordeb agos mewn dealltwriaeth gynyddol mewn niwrowyddoniaeth a sut y mae emosiynau’n gweithredu’n wahanol i wybyddiaeth yn yr ymennydd.

Bydd y theori’n cael ei roi ar waith mewn lleoliad therapiwtig sy’n cynnwys 100 o oriau a oruchwylir yn glinigol. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag o leiaf 25 awr o therapi personol a fydd yn cefnogi a chryfhau datblygiad personol a phroffesiynol.

Caiff y rhaglen ei haddysgu mewn grwpiau bach fel bod y myfyrwyr yn cael cyfle sylweddol i arfer a datblygu eu gallu therapiwtig. Yn ogystal, caiff myfyrwyr eu haddysgu trwy ddarlithoedd a grwpiau seminar ffurfiol lle bydd cyfle i fyfyrwyr drafod gyda’i gilydd a’r tiwtoriaid, y materion amrywiol a chymhleth sy’n cael sylw yn y rhaglen.

Arfer Seicotherapiwtig: Caiff y rhaglen Ddyneiddiol (MA) ei achredu gan y Gymdeithas Cwnsela Genedlaethol (NCS) ac, yn amodol ar y Telerau ac Amodau, yn llwybr i gofrestr genedlaethol o gwnselwyr a achredir gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol (PSA).

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfrannu at iechyd a lles eraill.
02
Datblygu hunan hyder a dealltwriaeth o'r hyn yw bod yn ddynol.
03
Cyfrannu at wybodaeth yn y maes trwy draethawd hir ymchwil.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Arfer Seicotherapiwtig: Mae’r rhaglen Ddyneiddiol (MA) yn rhaglen lefel 7 tair blynedd, fodd bynnag, mae disgwyl y bydd yna ddatblygiad cynyddol o ran gwybodaeth ddamcaniaethol, datblygiad personol a phroffesiynol a gallu o ran arfer wrth i’r myfyriwr ddatblygu trwy’r rhaglen. Mae’r modylau wedi’u llunio i gefnogi datblygiad y gallu hwn. Mae’r MA yn addas i fyfyrwyr nad oes ganddynt brofiad o arfer glinigol.

Bydd y strwythur yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael hyfforddiant trylwyr ac y byddant yn gallu gweithio gydag ystod o anhwylderau meddwl ac yn meddu ar sgiliau a gwybodaeth i fod yn seicotherapyddion cymwys.

Mae’r rhaglen hon yn defnyddio ystafelloedd dosbarth mawr yn ogystal ag ystafelloedd cwnsela bach i sicrhau darpariaeth foesegol a chyfrinachol ar gyfer ymarfer. Gellir recordio sesiynau at ddibenion hyfforddi.

Rhaid i fyfyrwyr weithio o fewn asiantaethau lleol i gael eu 100 awr o arfer a oruchwylir yn glinigol. Gall hyn gynnwys gwaith o fewn sefydliadau symptomau penodol fel y rheiny sy’n cynnig adsefydlu cyffuriau ac alcohol; cwnsela profedigaeth a materion merched. Yn ogystal, mae ein myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau yn y GIG, sefydliadau addysgol ac yn y gwasanaethau cymdeithasol.

Gorfodol

Fframio Arfer Therapiwtig

(30 credydau)

Therapi a Chyd-destun

(30 credydau)

Arfer Proffesiynol a Medrau Therapydd

(30 credydau)

Dulliau Ymchwil ac Arfer

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd israddedig Anrhydedd dda mewn pwnc sy’n gweddu’r Dyniaethau neu Wyddorau Cymdeithasol.

    Cwrs sgiliau rhagarweiniol: bydd angen cynhyrchu tystiolaeth o’r hyn a astudiwyd ac ar ba lefel yn y cyfweliad.

    Cynigir lleoedd ar y cwrs yn amodol ar gyfweliad. Bydd y rhai sy’n gwneud cais i’r cwrs yn cael cyfle i ddod i siarad gyda’r darlithwyr fel y gallwch asesu p’un a yw’r cwrs yn eich gweddu chi a gallwn ninnau wneud yr asesiad hwnnw hefyd.

  • Mae gan y rhaglen hon ystod o strategaethau, gan gynnwys cyflwyniadau, asesiad ysgrifenedig a recordiadau ymarfer sgiliau.

    • Mae’n rhaid i fyfyrwyr ymgymryd ag o leiaf dau ddeg pump awr o therapi personol gydag ymarferydd cymwys addas.
    • Goruchwyliaeth glinigol Os na chaiff hyn ei ddarparu gan y lleoliad, fe fydd yn golygu cost ychwanegol.
    • Yswiriant Indemniad ac Atebolrwydd Proffesiynol
    • Tystysgrif DBS cyfredol, manwl
    • Professional Membership of the National Counselling Society (or equivalent).
    • There is a residential weekend with this course.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus yn galluogi i fyfyrwyr weithio fel therapyddion cymwys. Mae llwybrau nodweddiadol wedi cynnwys gwaith o fewn

    • Gofal Cymdeithasol
    • Y Gwasanaeth Carchardai
    • Gwasanaethau Brys
    • Sefydliadau elusengar a gwaith â thâl yn y sector gwirfoddol
    • Gofal Cynradd
    • Rolau addysgol
    • Hyfforddwyr
    • Darlithwyr
    • Ymchwilwyr Cymdeithasol

Mwy o gyrsiau Seicoleg a Chwnsela

Chwiliwch am gyrsiau