Skip page header and navigation

Seicoleg (Llawn asmer) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Mae ein gradd Seicoleg yn cynnig dealltwriaeth eglur a beirniadol o sut mae seicoleg yn ein helpu i ddeall materion pwysig yn yr 21ain ganrif.  Byddwch yn ennill hyfforddiant gwyddonol a sgiliau meintiol i astudio’r meddwl ac ymddygiad tra byddwch hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy, cadarn.  Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer astudio pellach neu fynd i mewn i’r gweithlu.

Beth sy’n gwneud ein rhaglen yn wahanol yw’r cyfuniad o ddatblygu sgiliau ymarferol â gwybodaeth ddamcaniaethol.  Mae’r dull hwn yn sicrhau nid yn unig eich bod yn deall prosesau seicolegol ond eich bod hefyd yn gallu cymhwyso’r wybodaeth hon mewn sefyllfaoedd go iawn.  Byddwch yn astudio seicoleg gymdeithasol, seicoleg datblygiad, seicoleg fiolegol, a seicoleg wybyddol.  Mae’r ymdriniaeth gynhwysfawr hon yn cyd-fynd â safonau cwrs a achredwyd gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, gan sicrhau eich bod yn cael addysg o ansawdd uchel a gaiff ei chydnabod ar draws y maes. 

Yn ogystal â’r meysydd craidd hyn, byddwch yn archwilio gwahaniaethau unigol, dulliau ymchwil, a materion cysyniadol a hanesyddol.  Mae ein modylau wedi’u llunio i roi sgiliau cadarn i’r byd go iawn i chi sy’n mynd tu hwnt i hanfodion cwrs seicoleg israddedig arferol. 

Agwedd unigryw ar ein rhaglen yw’i phwyslais ar ddatblygu myfyrwyr yn wyddonwyr seicolegol sy’n llythrennog mewn gwyddoniaeth.  Mae hyn yn golygu y byddwch yn dysgu i feddwl yn feirniadol ac yn wyddonol am ddadansoddi ymddygiad dynol.  Mae ein staff seicoleg selog wedi ymrwymo i ddysgu ac addysgu agos-atoch, gan gynnig sylw personol i chi sy’n aml yn amhosibl mewn sefydliadau mwy o faint. 

Wrth i chi symud drwy’r cwrs, ac yn arbennig yn y flwyddyn olaf, cewch y rhyddid i ddewis o amrywiaeth o fodylau.  Mae hyn yn caniatáu i chi deilwra’ch gradd i gyd-fynd â’ch diddordebau penodol, boed hynny mewn seicoleg glinigol, seicoleg fforensig, neu unrhyw faes arall o fewn gyrfaoedd seicoleg traddodiadol. 

Ein nod yw darparu dealltwriaeth gadarn o brosesau seicolegol, yn cynnwys rhesymu, y cof, ac iaith.  Cewch hefyd ddealltwriaeth o brosesau niwrowyddonol a’u heffaith ar ymddygiad yn gysylltiedig ag iechyd.  Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi’ch paratoi’n dda at ystod o yrfaoedd yn y proffesiynau neu at astudio pellach. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
3UC3
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Achrededig:
The British Psychological Society

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’n datblygu ystod o sgiliau datrys problemau ac ymarferol trwy weithio ochr yn ochr â darlithwyr seicoleg yn ein labordai Seicoleg pwrpasol.
02
Mae’n ffocysu ar gymhwyso gwybodaeth a meddwl beirniadol seicolegol i ystod o faterion byd go iawn sy’n berthnasol i ystod o yrfaoedd yn y dyfodol ac opsiynau ôl-raddedig.
03
Mae’n cynorthwyo ac arwain myfyrwyr ar bob lefel trwy ddarlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach a gweithdai.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth addysgu’n canolbwyntio ar ddysgu rhyngweithiol, agos-atoch sy’n cyfuno sgiliau ymarferol â gwybodaeth ddamcaniaethol.  Ein nod yw datblygu gwyddonwyr seicolegol sy’n llythrennog mewn gwyddoniaeth sydd â sgiliau trosglwyddadwy, cadarn ar gyfer cymwysiadau yn y byd go iawn. 

Yn eich blwyddyn gyntaf , byddwch yn archwilio sylfeini seicoleg, yn cynnwys seicoleg gymdeithasol, seicoleg datblygiad, seicoleg fiolegol, a seicoleg wybyddol.  Byddwch hefyd yn ennill sgiliau hanfodol mewn dulliau ymchwil ac yn dechrau deall materion cysyniadol a hanesyddol mewn seicoleg. 

Gorfodol  
 

Dulliau Ymchwil I

(20 credyd; craidd)

Archwilio Emosiwn a Chyfathrebu

(20 credyd; gorfodol)

Materion Cysyniadol a Hanesyddol mewn Seicoleg

(20 credyd)

Sgiliau Astudio ar gyfer Seicoleg

(20 credyd)

Personoliaeth a Gwahaniaethau Unigol

(20 credyd)

Seicoleg ar Waith

(20 credyd; gorfodol)

Mae’ch ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddyfnhau eich dealltwriaeth o ddamcaniaethau seicolegol a phrosesau seicolegol.  Byddwch yn gwella eich sgiliau meintiol ac ansoddol drwy ddulliau ymchwil uwch, ac yn archwilio gwahaniaethau unigol a meysydd arbenigol megis prosesau niwrowyddonol a’u heffaith ar ymddygiad yn gysylltiedig ag iechyd. 

Gorfodol  

Dulliau Ymchwil II

(20 credyd; craidd)

Yr Ymennydd, Bioleg a Gwybyddiaeth

(20 credyd; gorfodol)

Ymchwil ar Waith

(20 credyd; gorfodol)

Seicoleg Gymdeithasol a Diwylliannol

(20 credyd; gorfodol)

Seicoleg Datblygiad a Gwahaniaethau Unigol

(20 credyd)

Seicoleg Sefydliadol

(20 credyd; gorfodol)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn teilwra’ch gradd drwy ddewis o ystod o fodylau sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau.  Mae hyn yn cynnwys astudiaethau uwch mewn meysydd megis seicoleg glinigol, seicoleg fforensig, a meysydd eraill sy’n berthnasol i yrfaoedd seicoleg traddodiadol.  Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil sylweddol, gan gymhwyso eich gwybodaeth a’ch sgiliau i heriau yn y byd go iawn.

Gorfodol  

Prosiect Empirig Seicoleg

(40 credydau)

Moeseg, Gwerthoedd, a’r Hunan Proffesiynol

(20 credyd; gorfodol)

Dewisol

Seicoleg Fforensig a’r Meddwl Troseddol

(20 credyd)

Niwrowyddoniaeth Biolegol a Gwybyddol

(20 credyd; dewisol)

Iechyd Meddwl mewn Plant a Phobl Ifanc

(20 credyd; dewisol)

Therapi Ymddygiad Gwybyddol a Therapïau Gwybyddol Newydd

(20 credyd; dewisol)

Gwybodaeth a Hunaniaeth Gymdeithasol

(20 credyd; dewisol)

Seicoleg Rhagfarn a Gwahaniaethu

(20 credyd; dewisol)

Gwybyddiaeth ar Waith

(20 credyd; dewisol)

Ecoseicoleg

(20 credyd; dewisol)

Seicoleg, Iechyd a Salwch

(20 credyd; dewisol)

Seicopatholeg ac Iechyd Meddwl

(20 credyd; dewisol)

Seicoleg Addysg a Heneiddio

(20 credyd; dewisol)

Mae pob myfyriwr yn dewis tri o’r un ar ddeg modwl dewisol (Lefel 6).

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Gwneir cynigion nodweddiadol o 112 pwynt tariff ar gyfer y rhaglen BSc Seicoleg. Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at y rhai sy’n gadael ysgol â chymwysterau Safon Uwch a’r rhai sydd wedi gadael addysg ac sydd bellach yn dymuno dychwelyd.

    Nid oes disgwyliad y bydd ymgeiswyr wedi Safon Uwch Seicoleg ac, er y byddent fel arfer wedi astudio gwyddor (gymdeithasol) ar lefel Safon Uwch, croesewir myfyrwyr â chymysgedd o bynciau ar draws y sbectrwm Safon Uwch.

    Yma yn y Drindod Dewi Sant, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar annog myfyrwyr mynediad ansafonol sydd â sgiliau bywyd perthnasol a photensial academaidd i ymuno â’n cwrs. Mae cymorth ychwanegol gyda sgiliau astudio ar gael ar gyfer unrhyw fyfyrwyr sydd angen hyfforddiant un i un. Mae natur yr asesiadau a’r adborth yn y flwyddyn gyntaf yn rhoi digon o gyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu hyder a’u harddull academaidd.

  • Mae’r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu gwahanol i roi cyfle i fyfyrwyr ymestyn eu sgiliau ymarferol ac academaidd ac annog dysgu annibynnol. Mae’r rhain yn cynnwys dulliau asesu arloesol megis posteri academaidd, asesiadau sgiliau yn y dosbarth, cyflwyniadau grŵp a chynigion ymchwil, yn ogystal ag asesiadau traddodiadol megis traethodau academaidd ac arholiadau.

    Bydd eich marciau terfynol ar gyfer eich dosbarthiad gradd yn cael eu cyfrifo o Flwyddyn Dau a Thri eich astudiaethau. Cyfrifir y dosbarthiad hwn ar sail 33% ar Lefel 5 a 67% ar Lefel 6.

  • Efallai bydd rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael, Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ffi’n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.

    Rhaid i fyfyrwyr gael 10 ddiwrnod o brofiad o leoliad ymarferol mewn lleoliad sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr brofi amrywiaeth o brosesau a systemau, ac efallai y bydd angen DBS (gweler uchod) ar gyfer hwn. Bydd y lleoliad hwn hefyd yn galw am gostau teithio a lluniaeth y bydd rhaid i’r myfyriwr eu talu.

    Mae’r Ysgol hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i’r campws er enghraifft Caerdydd, Llundain, neu dramor. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae myfyrwyr sy’n graddio ag o leiaf anrhydedd ail ddosbarth is (2:2) yn gymwys am Sail Raddedig Aelodaeth Siartredig (GBC) Cymdeithas Seicolegol Prydain. Dynoda hyn fod myfyrwyr wedi bodloni’r gofynion cwricwlwm sy’n deillio o ddatganiad meincnod pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (2007) ar gyfer Seicoleg, ac yn aml mae’n rhagofyniad pwysig ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno mynd yn eu blaenau i ddilyn astudiaeth neu hyfforddiant ôl-raddedig mewn seicoleg.

    Dros y pedair blynedd diwethaf mae nifer o’n myfyrwyr wedi mynd yn eu blaenau i raglenni hyfforddiant ôl-raddedig cam II y BPS (gyda rhaglenni Meistr mewn Seicoleg Glinigol/Annormal, Seicoleg Alwedigaethol a Seicoleg Iechyd yn llwybrau poblogaidd), yn ogystal â’n MSc ein hunain mewn Seicoleg Gymhwysol Iechyd a Chymdeithas a gynigir yn y Drindod Dewi Sant.

    Ar gyfer y rhai nad ydynt yn dymuno dilyn gyrfa mewn seicoleg, cydnabuwyd bod graddedigion y pwnc o werth i nifer o sefydliadau y tu hwnt i Seicoleg megis Adnoddau Dynol, Hysbysebu, y Cyfryngau, Ymchwil a Datblygu ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Mwy o gyrsiau Seicoleg a Chwnsela

Chwiliwch am gyrsiau