Skip page header and navigation

Seicoleg a Throseddeg (Llawn-amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd
96 Bwyntiau UCAS

Mae ein rhaglen BSc Seicoleg a Throseddeg yn berffaith i fyfyrwyr sy’n dymuno archwilio dau bwnc cyffrous a phwysig.  Drwy astudio’r cwrs hwn, cewch ddealltwriaeth fanwl o ymddygiad dynol a’r meddwl dynol, tra byddwch hefyd yn dysgu am achosion, canlyniadau, ac atal troseddu. 

Mae’r radd Seicoleg a Throseddeg wedi’i llunio i roi i chi’r gorau o’r ddau fyd.  Mae Seicoleg yn eich helpu i ddeall pam mae pobl yn meddwl ac yn ymddwyn yn y ffordd y maent.  Byddwch yn archwilio pynciau megis datblygiad dynol, personoliaeth, a phatrymau ymddygiad. Tra bydd Troseddeg yn canolbwyntio ar droseddu.  Byddwch yn astudio achosion troseddu, system cyfiawnder troseddol, ac ymddygiad troseddol.  Mae’r cyfuniad hwn yn eich paratoi am ystod o gyfleoedd gyrfa mewn meysydd megis seicoleg fforensig, cyfiawnder troseddol, a rhagor. 

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain.  Mae hyn yn golygu bod ein rhaglen yn bodloni safonau uchel ac y caiff ei chydnabod gan arbenigwyr yn y maes.  Byddwch yn astudio meysydd seicoleg creiddiol sy’n hanfodol ar gyfer achredu gan y Gymdeithas.  Mae’r meysydd hyn yn cynnwys astudio’r ymennydd, emosiynau, a sut rydym yn dysgu ac yn cofio. 

Mewn troseddeg, byddwch yn edrych ar pam mae pobl yn troseddu a sut mae cymdeithas yn ymateb i droseddau.  Mae hyn yn cynnwys astudio ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymddygiad gwyrdröedig, ac effaith troseddu ar gymunedau.  Byddwch hefyd yn dysgu am ddamcaniaeth droseddegol, sy’n helpu i esbonio troseddu o wahanol safbwyntiau. 

Mae ein rhaglen yn cynnig safbwynt rhyngwladol, gan ganiatáu i chi weld sut mae troseddu a chyfiawnder yn gweithio mewn gwledydd gwahanol.  Mae hyn yn bwysig oherwydd bod troseddu’n fater byd-eang, ac mae ei ddeall yn gofyn am edrych tu hwnt i un wlad.  Byddwch hefyd yn archwilio cyd-destunau cyfreithiol a chyd-destunau troseddol, sy’n hollbwysig i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio ym myd y gyfraith neu gyfiawnder. 

Mae astudio seicoleg a throseddeg gyda’i gilydd yn agor llawer o ddrysau.  Gallech weithio ym maes polisi cymdeithasol, gan helpu i lunio’r deddfau a’r rheolau sy’n effeithio ar fywydau pobl.  Gallech ddod yn gwnselydd, gan ddefnyddio eich gwybodaeth am gymhelliad dynol ac ymddygiad i helpu pobl eraill.  Neu, gallech weithio ym maes atal troseddu, gan ddatblygu ffyrdd newydd o gadw cymunedau’n ddiogel. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
PSC1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd
Gofynion mynediad:
96 Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Achrededig:
The British Psychological Society

Pam dewis y cwrs hon?

01
Bydd y radd hon yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i chi o ymddygiad troseddol, datblygiad dynol, gwahaniaethau unigol, gwybyddiaeth a phrosesau cymdeithasol
02
Bydd y modiwlau troseddeg yn archwilio pam fod ymddygiad troseddol yn digwydd, sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithredu, a sut y gallwn ni geisio atal troseddu
03
Trwy gydol eich gradd byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr ym meysydd seicoleg a throseddeg, gan gyfuno arbenigedd o Ddisgyblaethau Academaidd Seicoleg a Chwnsela a'r Academi Golau Glas

Beth fyddwch yn dysgu?

Rydym yn credu mewn dull ymarferol ar gyfer dysgu, gan ganolbwyntio ar y myfyriwr. Mae ein gradd Seicoleg a Throseddeg yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiadau ymarferol i’ch paratoi am heriau o’r byd go iawn wrth ddeall a mynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad dynol. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn seicoleg a throseddeg.  Byddwch yn astudio meysydd seicoleg creiddiol megis datblygiad dynol a phersonoliaeth, tra byddwch hefyd yn archwilio achosion troseddu ac ymddygiad troseddol.  Eleni mae’r ffocws ar ddeall yr hanfodion o ran sut mae pobl yn meddwl a pham mae troseddau’n digwydd.

Materion Cysyniadol a Hanesyddol mewn Seicoleg

(20 credyd)

Sgiliau Astudio ar gyfer Seicoleg

(20 credyd)

Personoliaeth a Gwahaniaethau Unigol

(20 credyd)

Proses Gyfreithiol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Droseddeg

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil I

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn twrio’n fwy manwl i batrymau ymddygiad a damcaniaeth droseddegol.  Byddwch yn archwilio proses cyfiawnder troseddol a rhagfarn a gwahaniaethu, ac yn dysgu am fregusrwydd a troseddu a’i gydrannau amrywiol. Mae’r flwyddyn hon yn gwella eich gallu i ddadansoddi troseddu o nifer o safbwyntiau a deall effeithiau cymdeithasol gweithgarwch troseddol.

Yr Ymennydd, Bioleg a Gwybyddiaeth

(20 credyd; gorfodol)

Seicoleg Datblygiad a Gwahaniaethau Unigol

(20 credyd)

Cynhwysiant Cymdeithasol, Erledigaeth a Lles

(20 credydau)

Deall Trosedd, Cyfiawnder a Chosb

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil II

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau arbenigol a chymwysiadau ymarferol.  Mae hyn yn cynnwys seicoleg fforensig, atal troseddu, ac archwilio cyd-destunau cyfreithiol a chyd-destunau troseddol.  Mae’r flwyddyn hon wedi’i llunio i atgyfnerthu eich dysgu a’ch paratoi am lwyddiant proffesiynol. 

Trosedd a Bregusrwydd

(20 credydau)

Rhywedd, Hil, Crefydd a Throsedd

(20 credydau)

Seicoleg Fforensig a’r Meddwl Troseddol

(20 credyd)

Seicoleg Rhagfarn a Gwahaniaethu

(20 credydau)

Prosiect Empirig Seicoleg

(40 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

testimonial

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Gwneir cynigion nodweddiadol o 96 pwynt tariff.

    Rydym yn rhoi pwys mawr ar annog myfyrwyr mynediad ansafonol sydd â sgiliau bywyd perthnasol a photensial academaidd i ymuno â’n cwrs.

  • Mae’r rhaglen yn defnyddio ystod o wahanol ddulliau asesu i roi cyfle i fyfyrwyr ymestyn eu sgiliau ymarferol ac academaidd ac annog dysgu annibynnol.

    Mae’r rhain yn cynnwys dulliau asesu arloesol megis posteri academaidd, asesiadau sgiliau yn y dosbarth, cyflwyniadau grŵp ac unigol, adroddiadau ymchwil a chynigion ymchwil, yn ogystal ag asesiadau traddodiadol megis traethodau academaidd ac arholiadau.

  • Mae’n bosibl y bydd gofyn i fyfyrwyr wneud cais a sicrhau Gwiriad Manylach PCYDDS gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Mae’r ffi am hyn yn dibynnu ar y DBS; mae tua £44 ar hyn o bryd.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Students who graduate with a minimum lower second-class honours classification (2:2) are eligible for the Graduate Basis for Chartered Membership (GBC) of the British Psychological Society.

    This indicates that students have met the curriculum requirements derived from the Quality Assurance Agency’s (2019) subject benchmark statement for Psychology and is often an important prerequisite for students wishing to go on to further postgraduate study or training in psychology.

    Over the years, many of our students have progressed onto BPS stage II postgraduate training programmes (popular routes being Masters programmes in Clinical Psychology, Occupational Psychology and Health Psychology), as well as our own MSc in Applied Psychology, offered at UWTSD.

    For those not wishing to pursue a career in psychology, graduates have long been recognised as being of value to a range of organisations beyond Psychology such as HR, Advertising, Media, Research & Development, and Health and Social Care. 

Mwy o gyrsiau Seicoleg a Chwnsela

Chwiliwch am gyrsiau