Skip page header and navigation

Iechyd Meddwl (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
64 o Bwyntiau UCAS

Mae’r radd BSc Iechyd Meddwl yn cynnig profiad dysgu cyfunol unigryw sydd wedi’i deilwra i ffitio bywydau gweithwyr iechyd meddwl cyfredol a’r rheini sy’n newydd i’r maes.  Mae’r radd hon yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n dymuno dyfnhau ei ddealltwriaeth o iechyd meddwl a llesiant neu ddechrau gyrfa mewn iechyd meddwl. 

Mae’r cwrs wedi’i lunio gan gadw hyblygrwydd yn y cof, a chaiff ei gyflwyno drwy gymysgedd o sesiynau gyda’r nos ac ar y penwythnos, ar y campws ac ar-lein.  Mae hyn yn caniatáu i chi gydbwyso eich astudiaethau ag ymrwymiadau eraill.  Byddwch yn archwilio sut i ddynodi a deall materion iechyd meddwl a dysgu ffyrdd o ymateb yn greadigol i heriau iechyd meddwl. 

Mae ein rhaglen yn darparu sylfaen drylwyr yn y ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd meddwl, yn cynnwys ffactorau seicolegol, ffactorau biolegol, ffactorau cymdeithasol, ffactorau diwylliannol, a ffactorau amgylcheddol.  Byddwch yn astudio ffactorau cymdeithasol iechyd meddwl, gan ddeall sut mae anghydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn chwarae rolau mewn afiechyd meddwl.  Mae’r cwricwlwm wedi’i strwythuro i wella eich gwybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â gwasanaethau iechyd meddwl y trydydd sector. 

Gydol eich astudiaethau, byddwch yn ennill sgiliau arfer iechyd meddwl sy’n hollbwysig ar gyfer gwneud gwahaniaethau cadarnhaol mewn iechyd meddwl.  Mae’r rhaglen yn cynnwys ffocws cadarn ar waith mewn grwpiau bach a modwl sy’n cynnig oriau lleoliad gwaith, gan sicrhau eich bod yn datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol.  Mae pwyslais hefyd ar arfer moesegol mewn iechyd meddwl, gan eich helpu i symud drwy gymhlethdodau’r maes ag uniondeb. 

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi’ch paratoi’n dda i ddilyn amryw o yrfaoedd mewn iechyd meddwl, ac â dealltwriaeth gynhwysfawr o iechyd meddwl a chymunedau a’r gallu i hyrwyddo a chynnal iechyd meddwl mewn lleoliadau amrywiol.  Cefnogir eich datblygiad proffesiynol mewn iechyd meddwl gydol y rhaglen, gan sicrhau eich bod yn barod i gael effaith ystyrlon ar iechyd unigolion a chymunedau. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Cyfunol (ar y campws)
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
7HL3
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
64 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Labordai Seicoleg newydd sy’n annog sgiliau meddwl beirniadol, datrys problemau ac ymchwilio.
02
Gwella’r ddealltwriaeth o’r cyswllt rhwng cysyniadau damcaniaethol a chymwysiadau ymarferol.
03
Cynorthwyo ac arwain myfyrwyr ar bob lefel trwy ddarlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach a gweithdai.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ein hathroniaeth yw darparu amgylchedd dysgu cefnogol a diddorol sy’n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â sgiliau ymarferol.  Ein nod yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth gynhwysfawr o iechyd meddwl, gan feithrin datblygiad proffesiynol a thwf personol.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn ennill gwybodaeth sylfaenol mewn iechyd meddwl a llesiant.  Byddwch yn archwilio cysyniadau allweddol mewn seicoleg, bioleg, a chymdeithaseg, ac yn dysgu am y ffactorau amrywiol sy’n dylanwadu ar iechyd meddwl.  Mae’r flwyddyn hon hefyd yn cynnwys cyflwyniad i arfer moesegol a sgiliau ymchwil. 

Gorfodol

Iechyd Meddwl a Datblygiad Plant

(20 credydau)

Cyflwyniad i Ddulliau Ymchwil

(20 credydau)

Cyflwyniad i Iechyd Meddwl

(20 credydau)

Straen, Ymdopi a Gwydnwch

(20 credydau)

Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Iechyd Meddwl

(20 credydau)

Sgiliau Astudio ar gyfer Seicoleg

(20 credyd)

Mae’r ail flwyddyn yn twrio’n fwy manwl i ddamcaniaethau ac arferion iechyd meddwl. Byddwch yn astudio ffactorau cymdeithasol iechyd meddwl, yn cynnwys anghydraddoldeb a chaethiwed, a sut mae’r rhain yn effeithio ar ganlyniadau iechyd meddwl. Caiff sgiliau ymarferol eu mireinio drwy waith grŵp a modylau sydd â ffocws ar ddulliau damcaniaethol ar gyfer cwnsela, gan wella eich gallu i ymateb yn greadigol i heriau iechyd meddwl. 

Gorfodol

Modelau a Dulliau Trin

(20 credydau)

Diwylliant a Chymuned

(20 credydau)

Sgiliau Ymchwil Cymhwysol

(20 credydau)

Caethiwed, Camddefnyddio Sylweddau a Dibyniaethau Seicolegol

(20 credydau)

Sgiliau a Dulliau Cwnsela

(40 credydau)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn atgyfnerthu eich dysgu gydag astudiaethau uwch mewn arfer iechyd meddwl.  Mae hyn yn cynnwys archwiliad manwl o wasanaethau iechyd meddwl cyhoeddus, preifat ac yn y trydydd sector, a datblygiad gwasanaethau arbenigol ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio.  Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil sylweddol, gan gymhwyso arfer ar sail tystiolaeth i senarios yn y byd go iawn. 

Gorfodol

Addysg Iechyd Meddwl

(20 credydau)

Iechyd meddwl a Phoblogaeth sy'n Heneiddio

(20 credydau)

Prosiect Ymchwil Annibynnol

(40 credydau)

Prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith

(20 credydau)

Dadleuon Cyfredol ym maes Iechyd Meddwl

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer gwneir cynigion o 64 pwynt tariff UCAS ar gyfer y rhaglen BSc Iechyd Meddwl.

    Mae’r BSc Iechyd Meddwl yn addas ar gyfer ystod eang o fyfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr â chymwysterau Safon Uwch a Mynediad sy’n dymuno ymuno â’r sector, a hefyd gyn weithwyr a gweithwyr cyfredol a fyddai naill ai’n dymuno ffurfioli eu profiad yn gymhwyster neu symud ymlaen yn eu dewis faes.  

    Mae’n bosibl na fydd angen pwyntiau UCAS ar fyfyrwyr â phrofiad, ond rhaid dangos profiad a chymwyseddau perthnasol i ymgymryd â chymhwyster ar lefel addysg uwch.

  • Lluniwyd asesiadau’r rhaglen i alluogi myfyrwyr i ddangos ystod o sgiliau a gwybodaeth, gan gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder academaidd.  Bydd asesiadau enghreifftiol yn cynnwys cyflwyniadau, taflenni hybu iechyd, llenyddiaeth sy’n codi ymwybyddiaeth, traethodau traddodiadol, portffolios a phrosiectau ymchwil cymhwysol.

    Mae’n amlwg mai nod y gweithdrefnau asesu yw cefnogi ac asesu cynnydd y myfyrwyr. 

  • Efallai bydd rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael, Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ffi’n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.

    Mae’r Ysgol hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i’r campws.  Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd perthnasol a gwybodaeth bwnc-benodol ar gyfer ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth a gyrfa ym maes eang darparu gwasanaeth gofal iechyd.

    Yn sgil y ffaith mai’r GIG yw’r cyflogwr mwyaf yng Nghymru a’r sylw a roddir i Iechyd Meddwl ar Agenda Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog, gall y rhaglen hon helpu nid yn unig i ddatblygu casgliad cryf o sgiliau cyflogadwyedd a all helpu unigolion i ymuno ag ystod o broffesiynau yn gysylltiedig ag iechyd meddwl, ond hefyd ddarparu cyfle deniadol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y meysydd proffesiynol hyn.

Mwy o gyrsiau Seicoleg a Chwnsela

Chwiliwch am gyrsiau