Mae’r rhaglen MSc unigryw hon wedi ei hanelu at ddatblygu gwybodaeth fanwl o seicoleg gymwys, gan gynnwys yr heriau moesol, moesegol a phroffesiynol a welwyd wrth ddefnyddio seicoleg gydag amrywiaeth o faterion cymdeithasol lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Bydd modylau arbenigol ym meysydd seicoleg iechyd a seicoleg gymdeithasol yn archwilio sut y gallwn ddeall materion y byd go iawn megis hyrwyddo iechyd, ymddygiad amgylcheddol a rhagfarn a gwahaniaethu. Bydd y ffocws cymhwysol yn annog myfyrwyr i ystyried yn feirniadol sut y gallwn ni ymyrryd i wella iechyd unigolion, sefydliadau a chymdeithas a gweithrediad cymdeithasol.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu amrywiaeth o sgiliau ymchwil a sgiliau proffesiynol y gellir eu defnyddio mewn ystod eang o arbenigeddau oddi mewn a thu hwnt i Seicoleg. Bydd hefyd yn datblygu eich gallu i adfyfyrio’n feirniadol ar eich heriau proffesiynol eich hun a’ch anghenion datblygu ar gyfer gweithio ym maes seicoleg gymhwysol.
Dysgu o bell – Darpariaeth ar-lein yn bennaf, hefyd gyda darpariaeth ar y campws ar ddyddiau Sadwrn (un sesiwn y modwl) y gall myfyrwyr ymuno â nhw wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn archwilio sut y gellir defnyddio seicoleg mewn amrywiaeth o faterion cyffrous a chyfoes yn y byd go iawn. Mae Rhan Un o’r MSc yn cynnwys modylau a addysgir, gan arwain wedyn i brosiect ymchwil annibynnol Rhan Dau ar gyfer Traethawd Seicoleg Gymhwysol, pan fydd myfyrwyr yn cynnal prosiect ymchwil manwl o dan oruchwyliaeth aelod o’r staff sydd ag arbenigedd yn y maes hwnnw
Mae modylau arbenigol mewn meysydd sy’n gysylltiedig ag iechyd a seicoleg gymdeithasol, a addysgir gan staff sy’n weithgar ym maes ymchwil ac sydd ag arbenigedd mewn seicoleg gymhwysol, yn esbonio sut y gallwn ni ddeall materion llosg megis hyrwyddo iechyd, ymddygiad amgylcheddol a rhagfarn a gwahaniaethu. Bydd y ffocws cymhwysol yn eich annog i ystyried yn feirniadol sut y gallwn ni ymyrryd i wella iechyd unigolion, sefydliadau a chymdeithas a gweithrediad cymdeithasol.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu amrywiaeth o sgiliau ymchwil, a sgiliau proffesiynol y gellir eu defnyddio mewn ystod eang o arbenigeddau oddi mewn a thu hwnt i Seicoleg. Cewch eich herio i ddod yn feddylwyr beirniadol, gan ddatblygu’r set sgiliau a’r wybodaeth i allu deall sut i ddylanwadu ar bolisi, gwaith gyda grwpiau cymunedol, ac ymgysylltu ag unigolion. Ffocws cryf ar ddatblygu ystod o sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu i’ch galluogi i ymgysylltu’n hyderus â gweithwyr proffesiynol, cydweithwyr a’r boblogaeth yn gyffredinol mewn meysydd sy’n ymwneud â defnyddio seicoleg ym mywyd pob dydd. Cewch chi gymorth trwy’r rhaglen gan broses Cynllunio Datblygiad Personol a mentora strwythuredig.
Gorfodol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(60 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon yn agored i unigolion sydd â chefndir mewn Seicoleg. Y maen prawf yw gradd anrhydedd 2.1, neu radd anrhydedd 2.2 (gan gynnwys traethawd ymchwil hir). Er efallai y byddwn yn ystyried ceisiadau gan y rhai sydd â chefndir mewn maes cysylltiedig iawn, oherwydd natur y rhaglen hon byddai hyn yn dibynnu ar asesiad o sgiliau ysgrifennu academaidd a sgiliau ymchwil seicolegol.
-
Mae’r asesiadau yn y rhaglen hon wedi eu llunio’n benodol i’ch galluogi i ddangos amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth sy’n uniongyrchol berthnasol i ystod eang o yrfaoedd seicolegol a thu hwnt. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cyflwyniadau proffesiynol
- Portffolio o gymwyseddau ymchwil
- Adolygiadau systematig o lenyddiaeth
- Asesiadau o sgiliau ymarferol
- Adroddiadau adfyfyriol
- Cynigion ymchwil
- Papurau ymchwil (traethawd hir Rhan II)
-
Efallai y cewch gynnig cyfle i fynd i gynhadledd neu ddigwyddiad allanol ac os felly mae’n bosibl y bydd disgwyl i chi gyfrannu at y costau.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae graddedigion o’r rhaglen hon wedi mynd yn eu blaen i weithio yn y GIG, sicrhau arian PhD, a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau academaidd. Nid yw’r rhaglen hon yn arwain at gymhwyster BPS cyfnod I i’r rhai sy’n ceisio sicrhau statws siartredig ond mae’n llwyfan ardderchog i’r rhai sy’n ystyried yr opsiwn hwn i’r dyfodol.