Skip page header and navigation

Sgiliau Seicotherapiwtig: Dyneiddiol (Rhan amser) (PGCert)

Abertawe
2 Flynedd Rhan amser

Y cwrs hwn yw elfen blwyddyn gyntaf y rhaglen Meistr Ymarfer Seicotherapiwtig: Dyneiddiol (MA).

Mae’r TystOR blwyddyn hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr adeiladu eu sgiliau eu hunain a symud tuag at barodrwydd i ymarfer. Mae sylfaen y rhaglen hon yn cael ei ysbrydoli gan waith Carl Rogers a’r berthynas therapiwtig; gwaith ffocysu Eugene Gendlin, a gwaith deialogaidd a gwaith drwy brofiad traddodiad Gestalt. O hyn, mae ymagwedd Therapi sy’n Ffocysu ar Emosiwn (EFT) yn agor gwell mynediad at emosiwn dynol, fel y mae’n ymgysylltu â diddordeb agos mewn dealltwriaeth gynyddol mewn niwrowyddoniaeth a sut y mae emosiynau’n gweithredu’n wahanol i wybyddiaeth yn yr ymennydd.

Bydd y theori’n cael ei roi ar waith mewn lleoliad therapiwtig sy’n cynnwys 100 o oriau a oruchwylir yn glinigol. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag o leiaf 25 awr o therapi personol a fydd yn cefnogi a chryfhau datblygiad personol a phroffesiynol.

Caiff y rhaglen ei haddysgu mewn grwpiau bach fel bod y myfyrwyr yn cael cyfle sylweddol i arfer a datblygu eu gallu therapiwtig. Yn ogystal, caiff myfyrwyr eu haddysgu trwy ddarlithoedd a grwpiau seminar ffurfiol lle bydd cyfle i fyfyrwyr drafod gyda’i gilydd a’r tiwtoriaid, y materion amrywiol a chymhleth sy’n cael sylw yn y rhaglen.

Arfer Seicotherapiwtig: Caiff y rhaglen Ddyneiddiol (MA) ei achredu gan y Gymdeithas Cwnsela Genedlaethol (NCS) ac, yn amodol ar y Telerau ac Amodau, yn llwybr i gofrestr genedlaethol o gwnselwyr a achredir gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol (PSA).

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfrannu at iechyd a lles eraill.
02
Datblygu hunan hyder a dealltwriaeth o'r hyn yw bod yn ddynol.
03
Cyfrannu at wybodaeth yn y maes trwy draethawd hir ymchwil.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Y cwrs hwn yw rhan gyntaf y rhaglen Meistr Ymarfer Seicotherapiwtig: Dyneiddiol (MA) a osodwyd ar Lefel 7. Bydd y myfyrwyr yn ennill gwybodaeth ddamcaniaethol, ac yn datblygu sgiliau personol a phroffesiynol wrth iddynt symud ymlaen trwy’r rhaglen, gan roi sylfaen gadarn iddynt symud ymlaen i’r DipOR a’r MA. Mae’r TystOR hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd heb unrhyw brofiad ymarfer clinigol.

Mae’r rhaglen hon yn defnyddio ystafelloedd dosbarth mawr yn ogystal ag ystafelloedd cwnsela bach i sicrhau darpariaeth foesegol a chyfrinachol ar gyfer ymarfer. Gellir recordio sesiynau at ddibenion hyfforddi.

Gorfodol

Fframio Arfer Therapiwtig

(30 credydau)

Therapi a Chyd-destun

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd israddedig Anrhydedd dda mewn pwnc sy’n gweddu’r Dyniaethau neu Wyddorau Cymdeithasol.

    Cwrs sgiliau rhagarweiniol: bydd angen cynhyrchu tystiolaeth o’r hyn a astudiwyd ac ar ba lefel yn y cyfweliad.

    Cynigir lleoedd ar y cwrs yn amodol ar gyfweliad. Bydd y rhai sy’n gwneud cais i’r cwrs yn cael cyfle i ddod i siarad gyda’r darlithwyr fel y gallwch asesu p’un a yw’r cwrs yn eich gweddu chi a gallwn ninnau wneud yr asesiad hwnnw hefyd.

  • Mae gan y rhaglen hon ystod o strategaethau, gan gynnwys cyflwyniadau, asesiad ysgrifenedig a recordiadau ymarfer sgiliau.

    • Mae’n rhaid i fyfyrwyr ymgymryd ag o leiaf dau ddeg pump awr o therapi personol gydag ymarferydd cymwys addas.
    • Goruchwyliaeth glinigol Os na chaiff hyn ei ddarparu gan y lleoliad, fe fydd yn golygu cost ychwanegol.
    • Yswiriant Indemniad ac Atebolrwydd Proffesiynol
    • Tystysgrif DBS cyfredol, manwl
    • Aelodaeth Broffesiynol o’r Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Genedlaethol (neu gyfwerth).
    • Mae potensial y gellir cynnig penwythnos preswyl yn rhan o’r cwrs hwn.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus yn galluogi i fyfyrwyr weithio fel therapyddion cymwys. Mae llwybrau nodweddiadol wedi cynnwys gwaith o fewn

    • Gofal Cymdeithasol
    • Y Gwasanaeth Carchardai
    • Gwasanaethau Brys
    • Sefydliadau elusengar a gwaith â thâl yn y sector gwirfoddol
    • Gofal Cynradd
    • Rolau addysgol
    • Hyfforddwyr
    • Darlithwyr
    • Ymchwilwyr Cymdeithasol

Mwy o gyrsiau Seicoleg a Chwnsela

Chwiliwch am gyrsiau