Mae’r rhaglen Tystysgrif i Raddedigion mewn Sgiliau Cwnsela yn rhaglen ran- amser 60 credyd ar y campws sy’n cael ei chyflwyno dros flwyddyn academaidd (dau semester) ac wedi’i lleoli ar Gampws Glannau SA1 Abertawe.
Byddwch yn dysgu am y dull dyneiddiol ac amodau craidd therapi sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, trwy brofiad sy’n datblygu ac yn ymarfer y sgiliau sy’n ganolog i ddatblygu perthynas gynorthwyol.
Byddwn yn cymryd amser i ddeall ansawdd a phwysigrwydd y berthynas therapiwtig ac yn ystyried contractio, cydfuddiannu, parch, ymreolaeth, cytgord, chwilfrydedd, meithrin ymddiriedaeth ac ymgyfarwyddo empathig.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Rhan amser): £2,500 y flwyddyn
Tramor (Rhan amser): £6750 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen Tystysgrif i Raddedigion mewn Sgiliau Cwnsela yn cynnwys dau fodiwl 30 credyd
ar Lefel 6 ac yn cyfuno theori, ymarfer myfyriol, a datblygu sgiliau.
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymwyseddau sylfaenol i chi
ddefnyddio sgiliau cwnsela sylfaenol, yn foesegol ac yn ddiogel mewn amrywiaeth o gyd-destunau
a rolau. Byddwch yn cael eich cyflwyno i hanes a tharddiad therapi, sail ei werthoedd, a’i gysyniadau craidd. Byddwn yn defnyddio theori ddyneiddiol a syniadau sylfaenol o’r dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’r rhaglen yn eich galluogi i ddatblygu hyder, atgyrchedd a’r gallu i fyfyrio, ymwybyddiaeth feirniadol, a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer mynd i’r afael â’r cyd-destun cymdeithasol, moesegol a gwleidyddol ehangach y mae cwnsela a seicotherapi yn rhan ohono.
Mae’r rhaglen Tystysgrif i Raddedigion mewn Sgiliau Cwnsela yn parhau i fod yn rhaglen
boblogaidd a llwyddiannus iawn. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae ein cwrs wedi gweld
cyfraddau cadw a phasio rhagorol, gyda dros 90% o fyfyrwyr yn graddio gyda naill ai
Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Mae’r rhaglen hon wedi’i datblygu fel ‘cwrs pontio’ i’r rhaglen MA mewn Arfer Seicotherapiwtig, a’r nod yw cyfuno’r hyfforddiant sgiliau angenrheidiol â dealltwriaeth ddamcaniaethol er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr yn cyrraedd y gofynion mynediad angenrheidiol i wneud cais am le ar y cwrs
Gorfodol
(30 credydau)
(30 credyd )
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Bydd angen i chi allu dangos y gallu i weithio ar lefel 6 a meddu ar y
rhinweddau personol a rhyngbersonol sydd eu hangen er mwyn mynd i’r afael â gofynion emosiynol ac academaidd y rhaglen hon.
Mae’r math hwn o hyfforddiant yn gofyn am aeddfedrwydd emosiynol,
hunanfyfyrdod, a chryfder seicolegol.Bydd angen uwchlwytho dau eirda gyda’ch cais.
Mae lleoedd ar y cwrs yn gyfyngedig ac yn cael eu cynnig yn amodol ar
gyfweliad. -
Byddwch yn dysgu trwy brofiad ymarferol, ymarfer sgiliau, ymarfer myfyriol personol ac addysgu ffurfiol.
Mae gweithgareddau dysgu yn cynnwys gweithio mewn grwpiau o dri, mewn grwpiau mwy o ran maint a gweithgareddau unigol dan arweiniad myfyrwyr.
Bydd disgwyl i chi fynychu pob session addysgu ac mae’n ofynnol eich bod yn bresennol yn o leiaf 80% o’r sesiynau.
Does dim angen therapi personol na mynd ar leoliad fel rhan o’r cwrs hwn. -
Does dim angen i chi gael gwiriad gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, therapi personol na mynd ar leoliad fel rhan o’r cwrs hwn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen hon yn berthnasol i chi os ydych yn ystyried gyrfa mewn cwnsela a seicotherapi neu’n dymuno gwella eich sgiliau DPP, eich sgiliau
rhyngbersonol, sgiliau cyfathrebu a’ch sgiliau wrth gynnig cymorth yn ich gweithle, er enghraifft, nyrsio, gwaith cymdeithasol, gwaith ieuenctid ac addysgu.