Skip page header and navigation

Seicoleg Gymhwysol (Llawn amser) (MSc)

Abertawe
18 Mis Llawn Amser

Mae’r rhaglen MSc unigryw hon wedi ei hanelu at ddatblygu gwybodaeth fanwl o seicoleg gymwys, gan gynnwys yr heriau moesol, moesegol a phroffesiynol a welwyd wrth ddefnyddio seicoleg gydag amrywiaeth o faterion cymdeithasol lleol, cenedlaethol a byd-eang.  

Bydd modylau arbenigol ym meysydd seicoleg iechyd a seicoleg gymdeithasol yn archwilio sut y gallwn ddeall materion y byd go iawn megis hyrwyddo iechyd, ymddygiad amgylcheddol a rhagfarn a gwahaniaethu. Bydd y ffocws cymhwysol yn annog myfyrwyr i ystyried yn feirniadol sut y gallwn ni ymyrryd i wella iechyd unigolion, sefydliadau a chymdeithas a gweithrediad cymdeithasol.  

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu amrywiaeth o sgiliau ymchwil a sgiliau proffesiynol y gellir eu defnyddio mewn ystod eang o arbenigeddau oddi mewn a thu hwnt i Seicoleg. Bydd hefyd yn datblygu eich gallu i adfyfyrio’n feirniadol ar eich heriau proffesiynol eich hun a’ch anghenion datblygu ar gyfer gweithio ym maes seicoleg gymhwysol.

Dysgu o bell – Darpariaeth ar-lein yn bennaf, hefyd gyda darpariaeth ar y campws ar ddyddiau Sadwrn (un sesiwn y modwl) y gall myfyrwyr ymuno â nhw wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
18 Mis Llawn Amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Wedi’i addysgu gan staff sy’n weithgar ym maes ymchwil seicoleg cymhwysol, gyda’r cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil cyfredol
02
Mae dull dysgu cyfunol mewn seminarau ar-lein gyda’r nos a diwrnodau achlysurol ar y campws yn creu rhaglen hyblyg ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gweithio, a chynigir llwybrau llawn amser a rhan amser
03
Mae’r modwl Sgiliau Ymchwil Proffesiynol unigryw sydd wedi’i seilio ar waith grŵp yn galluogi datblygiad ac adfyfyrio ar sgiliau ymchwil ymarferol a chyflogadwyedd craidd gan gynnwys gwaith tîm a hunan-adfyfyrio.
04
Cynllunio Datblygiad Personol Cryf a mentora trwy gydol y radd i wneud yn fawr ar gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.
05
Cyfle i deilwra asesiadau a thraethawd ymchwil hir ar gyfer eich diddordebau penodol eich hun
06
Carfannau bach i sicrhau profiad dysgu personol a chefnogol gyda’r cyfle i gymysgu gyda myfyrwyr ar raglenni Meistr eraill ar gyfer rhai modylau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs hwn yn archwilio sut y gellir defnyddio seicoleg mewn amrywiaeth o faterion cyffrous a chyfoes yn y byd go iawn.  Mae Rhan Un o’r MSc yn cynnwys modylau a addysgir, gan arwain wedyn i brosiect ymchwil annibynnol Rhan Dau ar gyfer Traethawd Seicoleg Gymhwysol, pan fydd myfyrwyr yn cynnal prosiect ymchwil manwl o dan oruchwyliaeth aelod o’r staff sydd ag arbenigedd yn y maes hwnnw

Mae modylau arbenigol mewn meysydd sy’n gysylltiedig ag iechyd a seicoleg gymdeithasol, a addysgir gan staff sy’n weithgar ym maes ymchwil ac sydd ag arbenigedd mewn seicoleg gymhwysol, yn esbonio sut y gallwn ni ddeall materion llosg megis hyrwyddo iechyd, ymddygiad amgylcheddol a rhagfarn a gwahaniaethu.  Bydd y ffocws cymhwysol yn eich annog i ystyried yn feirniadol sut y gallwn ni ymyrryd i wella iechyd unigolion, sefydliadau a chymdeithas a gweithrediad cymdeithasol.  

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu amrywiaeth o sgiliau ymchwil, a sgiliau proffesiynol y gellir eu defnyddio mewn ystod eang o arbenigeddau oddi mewn a thu hwnt i Seicoleg.  Cewch eich herio i ddod yn feddylwyr beirniadol, gan ddatblygu’r set sgiliau a’r wybodaeth i allu deall sut i ddylanwadu ar bolisi, gwaith gyda grwpiau cymunedol, ac ymgysylltu ag unigolion.  Ffocws cryf ar ddatblygu ystod o sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu i’ch galluogi i ymgysylltu’n hyderus â gweithwyr proffesiynol, cydweithwyr a’r boblogaeth yn gyffredinol mewn meysydd sy’n ymwneud â defnyddio seicoleg ym mywyd pob dydd. Cewch chi gymorth trwy’r rhaglen gan broses Cynllunio Datblygiad Personol a mentora strwythuredig.

Gorfodol 

Dylunio a Dadansoddi Ymchwil Cymhwysol

(30 credydau)

Sgiliau Ymchwil Proffesiynol

(30 credydau)

Newid Ymddygiad yn ei Gyd-destun

(30 credydau)

Heriau Moesegol a Phroffesiynol

(30 credydau)

Traethawd Hir Ymchwil Gymhwysol

(60 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon yn agored i unigolion sydd â chefndir mewn Seicoleg.  Y maen prawf yw gradd anrhydedd 2.1, neu radd anrhydedd 2.2 (gan gynnwys traethawd ymchwil hir). Er efallai y byddwn yn ystyried ceisiadau gan y rhai sydd â chefndir mewn maes cysylltiedig iawn, oherwydd natur y rhaglen hon byddai hyn yn dibynnu ar asesiad o sgiliau ysgrifennu academaidd a sgiliau ymchwil seicolegol.

  • Mae’r asesiadau yn y rhaglen hon wedi eu llunio’n benodol i’ch galluogi i ddangos amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth sy’n uniongyrchol berthnasol i ystod eang o yrfaoedd seicolegol a thu hwnt.  Mae’r rhain yn cynnwys:

    • Cyflwyniadau proffesiynol
    • Portffolio o gymwyseddau ymchwil
    • Adolygiadau systematig o lenyddiaeth
    • Asesiadau o sgiliau ymarferol
    • Adroddiadau adfyfyriol
    • Cynigion ymchwil
    • Papurau ymchwil (traethawd hir Rhan II)
  • Efallai y cewch gynnig cyfle i fynd i gynhadledd neu ddigwyddiad allanol ac os felly mae’n bosibl y bydd disgwyl i chi gyfrannu at y costau.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion o’r rhaglen hon wedi mynd yn eu blaen i weithio yn y GIG, sicrhau arian PhD, a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau academaidd.  Nid yw’r rhaglen hon yn arwain at gymhwyster BPS cyfnod I i’r rhai sy’n ceisio sicrhau statws siartredig ond mae’n llwyfan ardderchog i’r rhai sy’n ystyried yr opsiwn hwn i’r dyfodol. 

Mwy o gyrsiau Seicoleg a Chwnsela

Chwiliwch am gyrsiau