Skip page header and navigation

Theori ac Ymchwil Cwnsela Uwch (Llawn amser) (MA)

Abertawe
18 Mis Llawn amser

Trwy gyfuno cyflwyniadau ar-lein ac addysgu ar y campws, mae’r MA Theori ac Ymchwil Cwnsela Uwch yn gymhwyster di-ymarfer unigryw ar gyfer unigolion sydd eisoes â chymhwyster ymarfer neu rai sydd eisiau cwblhau gradd Meistr sy’n seiliedig a’r theori.

Bydd yr MA mewn Theori ac Ymchwil Cwnsela Uwch yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i chi o rôl ymchwil a theori wrth ddeall a gwella iechyd meddwl ac wrth gefnogi ffyniant dynol. Mae’r rhaglen yn rhoi ffocws cryf ar ddatblygu ystod o sgiliau ymchwil annibynnol ac ar feithrin ymwybyddiaeth feirniadol o faterion moesegol perthnasol ym maes cwnsela.

Dysgu o bell – Darpariaeth ar-lein yn bennaf, hefyd gyda darpariaeth ar y campws ar ddyddiau Sadwrn (un sesiwn y modwl) y gall myfyrwyr ymuno â nhw wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
18 Mis Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae hon yn rhaglen MA unigryw ym maes cwnsela sydd ddim yn seiliedig ar ymarfer.
02
Mae staff sy'n addysgu ar y modiwl hwn yn ymarferwyr cwnsela gweithredol ac yn weithgar ym myd ymchwil.
03
Ffocws proffesiynol cryf gyda Chynllunio Datblygiad Personol a mentora drwy gydol y rhaglen.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs MA hwn wedi’i ddylunio er mwyn datblygu eich gwybodaeth lefel uwch o theori cwnsela arloesol yn ogystal â’ch sgiliau ymchwil cymhwysol.

Trwy archwilio datblygiadau cyfoes ym maes cwnsela, dadleuon moesegol a phroffesiynol, a dulliau ymchwil uwch, mae’r cwrs hwn yn caniatáu i chi siapio’r dysgu fel ei fod yn rhoi’r budd mwyaf i chi. Mae set graidd o fodiwlau gorfodol ac yna dau fodiwl ychwanegol o’ch dewis chi.

Bydd yr MA mewn Theori ac Ymchwil Cwnsela Uwch yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i chi o rôl ymchwil a theori wrth ddeall a gwella iechyd meddwl ac wrth gefnogi ffyniant dynol. Mae’r rhaglen yn rhoi ffocws cryf ar ddatblygu ystod o sgiliau ymchwil annibynnol ac ar feithrin ymwybyddiaeth feirniadol o faterion moesegol perthnasol ym maes cwnsela.

Cwnselwyr achrededig a staff ymchwil gweithredol sy’n addysgu’r rhaglen, ac mae ganddynt arbenigedd mewn cwnsela, ymddygiad dynol, a dulliau ymchwil uwch ym maes cwnsela a seicoleg.

Gorfodol

Dulliau Ymchwil Uwch mewn Cwnsela

(30 credydau)

Damcaniaeth Cwnsela Cyfoes

(30 credydau)

Traethawd Hir Ymchwil Gymhwysol

(60 credydau)

Dewisol

Newid Ymddygiad yn ei Gyd-destun

(30 credydau)

Ffyniant a Gwytnwch Dynol

(30 credydau)

Sgiliau Ymchwil Proffesiynol

(30 credydau)

Heriau Moesegol a Phroffesiynol

(30 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon yn agored i unigolion sydd â chefndir mewn cwnsela. Fel arfer, y gofyniad ar gyfer mynediad yw gradd anrhydedd 2.1, ond efallai y byddwn yn ystyried gradd anrhydedd 2.2 dda (gyda thraethawd hir ymchwil cryf).  Er y gallwn ystyried ceisiadau gan y rhai sydd â chefndir mewn maes sy’n perthyn yn agos, oherwydd natur y rhaglen byddai’n dibynnu ar asesiad o sgiliau ysgrifennu academaidd a gwneud gwaith ymchwil seicolegol.

  • Bydd y modiwlau’n cael eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol fformatau asesu. Nid oes arholiadau, ac mae pob fformat yn canolbwyntio ar elfen ysgrifenedig neu lafar. Bydd pob elfen ysgrifenedig yn arddangos gwahanol arddulliau o ysgrifennu academaidd ac maen nhw wedi’u cynllunio i annog meddwl yn feirniadol a hunan-fyfyrio. Mae’r sgiliau sy’n cael eu harddangos yn y gwahanol fformatau asesu yn uniongyrchol berthnasol i ystod eang o broffesiynau ymchwil cymhwysol a thu hwnt.

    • Adolygiad Systematig
    • Papur Briffio
    • Cyflwyniad Proffesiynol
    • Asesiad Sgiliau Ymarferol
    • Traethawd Myfyriol
    • Portffolio o gymwyseddau
    • Cynnig ymchwil
    • Papurau ymchwil
  • Efallai cewch gyfle i fynychu cynhadledd neu ddigwyddiad allanol perthnasol, ac efallai y bydd disgwyl i chi gyfrannu at y costau hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Nid yw’r rhaglen hon wedi’i seilio ar arfer na sgiliau. Cafodd ei llunio ar gyfer y rheiny sy’n gwnselwyr cymwys yn barod er mwyn cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol ac ymchwil, neu ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa academaidd yn y maes.

Mwy o gyrsiau Seicoleg a Chwnsela

Chwiliwch am gyrsiau