Theori ac Ymchwil Cwnsela Uwch (Rhan amser) (MA)
Trwy gyfuno cyflwyniadau ar-lein ac addysgu ar y campws, mae’r MA Theori ac Ymchwil Cwnsela Uwch yn gymhwyster di-ymarfer unigryw ar gyfer unigolion sydd eisoes â chymhwyster ymarfer neu rai sydd eisiau cwblhau gradd Meistr sy’n seiliedig a’r theori.
Bydd yr MA mewn Theori ac Ymchwil Cwnsela Uwch yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i chi o rôl ymchwil a theori wrth ddeall a gwella iechyd meddwl ac wrth gefnogi ffyniant dynol. Mae’r rhaglen yn rhoi ffocws cryf ar ddatblygu ystod o sgiliau ymchwil annibynnol ac ar feithrin ymwybyddiaeth feirniadol o faterion moesegol perthnasol ym maes cwnsela.
Dysgu o bell – Darpariaeth ar-lein yn bennaf, hefyd gyda darpariaeth ar y campws ar ddyddiau Sadwrn (un sesiwn y modwl) y gall myfyrwyr ymuno â nhw wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs MA hwn wedi’i ddylunio er mwyn datblygu eich gwybodaeth lefel uwch o theori cwnsela arloesol yn ogystal â’ch sgiliau ymchwil cymhwysol.
Trwy archwilio datblygiadau cyfoes ym maes cwnsela, dadleuon moesegol a phroffesiynol, a dulliau ymchwil uwch, mae’r cwrs hwn yn caniatáu i chi siapio’r dysgu fel ei fod yn rhoi’r budd mwyaf i chi. Mae set graidd o fodiwlau gorfodol ac yna dau fodiwl ychwanegol o’ch dewis chi.
Bydd yr MA mewn Theori ac Ymchwil Cwnsela Uwch yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i chi o rôl ymchwil a theori wrth ddeall a gwella iechyd meddwl ac wrth gefnogi ffyniant dynol. Mae’r rhaglen yn rhoi ffocws cryf ar ddatblygu ystod o sgiliau ymchwil annibynnol ac ar feithrin ymwybyddiaeth feirniadol o faterion moesegol perthnasol ym maes cwnsela.
Cwnselwyr achrededig a staff ymchwil gweithredol sy’n addysgu’r rhaglen, ac mae ganddynt arbenigedd mewn cwnsela, ymddygiad dynol, a dulliau ymchwil uwch ym maes cwnsela a seicoleg.
Gorfodol
(30 credydau)
(60 credydau)
(30 credydau)
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon yn agored i unigolion sydd â chefndir mewn cwnsela. Fel arfer, y gofyniad ar gyfer mynediad yw gradd anrhydedd 2.1, ond efallai y byddwn yn ystyried gradd anrhydedd 2.2 dda (gyda thraethawd hir ymchwil cryf). Er y gallwn ystyried ceisiadau gan y rhai sydd â chefndir mewn maes sy’n perthyn yn agos, oherwydd natur y rhaglen byddai’n dibynnu ar asesiad o sgiliau ysgrifennu academaidd a gwneud gwaith ymchwil seicolegol.
-
Bydd y modiwlau’n cael eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol fformatau asesu. Nid oes arholiadau, ac mae pob fformat yn canolbwyntio ar elfen ysgrifenedig neu lafar. Bydd pob elfen ysgrifenedig yn arddangos gwahanol arddulliau o ysgrifennu academaidd ac maen nhw wedi’u cynllunio i annog meddwl yn feirniadol a hunan-fyfyrio. Mae’r sgiliau sy’n cael eu harddangos yn y gwahanol fformatau asesu yn uniongyrchol berthnasol i ystod eang o broffesiynau ymchwil cymhwysol a thu hwnt.
- Adolygiad Systematig
- Papur Briffio
- Cyflwyniad Proffesiynol
- Asesiad Sgiliau Ymarferol
- Traethawd Myfyriol
- Portffolio o gymwyseddau
- Cynnig ymchwil
- Papurau ymchwil
-
Efallai cewch gyfle i fynychu cynhadledd neu ddigwyddiad allanol perthnasol, ac efallai y bydd disgwyl i chi gyfrannu at y costau hyn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Nid yw’r rhaglen hon wedi’i seilio ar arfer na sgiliau. Cafodd ei llunio ar gyfer y rheiny sy’n gwnselwyr cymwys yn barod er mwyn cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol ac ymchwil, neu ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa academaidd yn y maes.