Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Prentisiaethau

Prentisiaethau



A yw'ch busnes yn “barod ar gyfer y dyfodol”?

Buddsoddwch mewn datblygu eich gweithwyr trwy Uwch Brentisiaethau a Gradd-brentisiaethau a arweinir gan y diwydiant, a thrawsnewid eich busnes.

Rydym yn deall yr heriau dyddiol i’ch busnes, ac yn  sgil hynny aethom ati i greu Rhaglen Brentisiaeth a arweinir gan y Diwydiant, mewn partneriaeth â chyflogwyr. Bydd y rhaglen hon, o’i chyfuno â phrofiad ymarferol dyddiol yn y gwaith, yn cynorthwyo myfyrwyr i ddefnyddio’r wybodaeth a enillir yn uniongyrchol yn y gweithle.  

Gallwch ddefnyddio’r prentisiaethau os ydych yn awyddus i wneud y canlynol:

  • Llenwi bylchau sgiliau yn eich busnes trwy uwchsgilio neu ailhyfforddi gweithwyr
  • Recriwtio gweithwyr talentog sydd â photensial i’ch busnes
  • Eu defnyddio i gynllunio olyniaeth sy’n canolbwyntio ar adnabod a meithrin talent i lenwi swyddi arwain a swyddi sy’n hanfodol i’r busnes yn y dyfodol. Yn wyneb prinder sgiliau mae cynllunio olyniaeth wedi dod yn fwy poblogaidd. Yn ystod cyfnodau eithriadol megis pandemig COVID-19 neu drychinebau, mae’n ddoeth ehangu’r cronfeydd hynny o olynwyr a chanolbwyntio ar gynllunio olyniaeth.
  • Darparu ysgol ddeniadol o gyfleoedd a dilyniant gyrfa i weithwyr presennol.

I wneud cais am Uwch Brentisiaethau neu Radd-brentisiaethau 

  • Cliciwch ar y botwm Cofrestru eich Diddordeb ac yna Darpar Brentis
  • Llenwch eich manylion, gan nodi pa raglen y mae gennych ddiddordeb ynddi
  • Bydd yr uned prentisiaethau’n gwirio a ydych yn gymwys ac yn rhoi cyngor ynglŷn â’r pwynt mynediad gorau, yn seiliedig ar eich cymwysterau a’ch profiad cyfredol, ac yna’n anfon dolen atoch i’r ffurflen gais.