Skip page header and navigation

Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (TAR) ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) (Rhan amser) (Ôl-raddedig)

Abertawe
1 flwyddyn Llawn Amser

Mae’r rhaglen AHO yn gyfle i ennill cymhwyster gwerthfawr iawn a fydd yn caniatáu graddedigion i addysgu mewn amrywiaeth o leoliadau addysg ôl-orfodol.

Gallwch ddewis astudio yn llawn-amser neu’n rhan-amser, ac mae ystod o ddewisiadau mynediad addas i’r rhai sydd wedi graddio yn ddiweddar, y rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth, yn ogystal â’r rhai sy’n dychwelyd at eu hastudiaethau ar ôl saib.

Gydag elfennau sy’n canolbwyntio ar arfer gorau o ran cefnogi a datblygu dysgu sy’n cael eu haddysgu ar gampws y Brifysgol, ynghyd â phrofiad ymarferol o addysgu, byddwch yn dysgu sut i wneud defnydd ymarferol o ddamcaniaethau ac i ddatblygu eich sgiliau fel darpar weithiwr addysg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn Llawn Amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cynigia’r cwrs hwn i’r rhai sydd â gradd mewn pwnc nad yw wedi’i ddysgu’n eang ar gyrsiau TAR megis seicoleg, y gyfraith, y cyfryngau, nyrsio gyfle i sicrhau cymhwyster addysgu proffesiynol sydd ei angen i addysgu eu harbenigedd pwnc.
02
Cymhwyster hyblyg a throsglwyddadwy, cydnabyddir y dyfarniad hwn ar draws y sector ôl-orfodol.
03
Cynigiwn feintiau dosbarth bach i helpu i hwyluso trafodaeth mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol lle mae dod i’ch adnabod yn fyfyriwr yn ganolog i bopeth a wnawn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cynigia’r cwrs hwn gyfle unigryw i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder o ran defnyddio’r Gymraeg wrth addysgu yn rhan o’r rhaglen, sef sgil allweddol ar gyfer y sector ôl-orfodol yng Nghymru heddiw.

Mae astudio ar gyfer cymhwyster ôl-raddedig neu broffesiynol yn fuddsoddiad yn eich gyrfa. Rydyn ni’n anelu at roi’r dulliau i chi allu trawsnewid eich bywyd a rhoi i chi addysg sy’n eich gwneud chi’n hyderus a chymwys i gofleidio eich dewis lwybr gyrfa.

Pecyn Cymorth Addysgu 1

(20 credydau)

Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arfer Cynhwysol

(10 credydau)

Rheoli Ymddygiad a Chefnogi Ymgysylltiad Dysgwyr

(10 credydau)

Arloesi Digidol ac Arfer Proffesiynol

(20 credydau)

Pecyn Cymorth Addysgu 2

(20 credydau)

Datblygiad Proffesiynol a'r Ymarferydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

(20 credydau)

Prosiect Ymchwil Gweithredu

(20 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

    • Yn achos y Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen bod ymgeiswyr radd israddedig ar radd 2.2 neu uwch.
    • Yn achos Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen cymhwyster lefel tri perthnasol ynghyd ag addysgu a/neu brofiad hyfforddi.
    • Nid yw’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PCET) yn ddyfarniad y dylid cofrestru arno a gall myfyrwyr drosglwyddo i hyn o’r Dystysgrif Raddedig Broffesiynol (PCET) mewn rhan dau os byddant yn bodloni’r meini prawf.
  • Mae asesiad y rhaglen wedi’i adeiladu ar egwyddorion ymarfer adfyfyriol ac yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau megis portffolios, adfyfyrdodau ysgrifenedig, adroddiadau, blogiau, arsylwadau ffurfiol ymarfer proffesiynol a phosteri.

  • Mae gwiriadau manwl DBS yn orfodol yn rhan o ofynion mynediad y rhaglenni, a’r ymgeiswyr sy’n gyfrifol am gostau ychwanegol hyn.

    Gall teithio i’r lleoliad profiad addysgu proffesiynol greu costau i’r myfyriwr a gallant amrywio yn dibynnu ar ble mae’r lleoliad. Pan drefnir lleoliadau ar ran y myfyriwr, gwneir pob ymdrech i fodloni gofynion unigol (gan gynnwys dewisiadau lleoliad) ond ni ellir gwarantu hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion o’r rhaglen yn gyflogadwy dros ben mewn amrywiaeth o sectorau addysgu a hyfforddi ar draws amrywiaeth fawr o broffesiynau.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau