Skip page header and navigation

TAR Cynradd gyda SAC (Llawn amser) (PGCE)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser

Bydd graddedigion y cwrs TAR Cynradd yn meddu ar yr wybodaeth, sgiliau, gwerthoedd ac anianawd i gyflawni statws athro cymwysedig (SAC) a bod yn athro cymwys, yn barod i weithio yng Nghymru a thu hwnt.

* Bydd y radd hon yn cael ei hailddilysu a’i hadolygu yn y flwyddyn academaidd 2023/24 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn parhau’n gyfredol. Pe bai unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gynnwys y cwrs o ganlyniad i’r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael eu hysbysu unwaith y bydd y newidiadau wedi’u cadarnhau.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
3CPM
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae graddedigion yn gyflogadwy iawn fel athrawon cymwysedig.
02
Llwybrau Cymraeg a Saesneg ar gael.
03
Astudio yng nghampws o’r radd flaenaf SA1 yn Abertawe.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cynnwys craidd yn cynnwys:

  • Lleoliad amgen – cyfle i brofi addysg yn ei hystyr ehangach;
  • Pontio – y broses lle bo gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol yn cwrdd; a chaiff y dull trawsffurfiol ei gyflawni;
  • Modylau gorfodol – cynnwys sy’n cael ei gyd-adeiladu a’i gyd-ddarparu (pedagogaidd a chysylltiedig â phwnc) y rhaglen;
  • Dewisol – profiad yn yr ysgol ac a gefnogir gan y Brifysgol lle gall graddedigion ddewis dilyn trywydd ymholi mwy arbenigol er mwyn dyfnhau eu gwybodaeth o’r cwricwlwm;
  • Cynhadledd partneriaeth – y cyfle i rannu arfer gorau mewn digwyddiad cynhadledd er mwyn gallu trawsnewid y bartneriaeth;
  • Statws Athro Cymwysedig – llwybr proffesiynol gorfodol sy’n arwain at ddyfarniad statws athro cymwysedig;
  • Datblygu Sgiliau’r Gymraeg – llwybr proffesiynol gorfodol i ddatblygu hyder a gallu graddedigion wrth siarad Cymraeg.

Mae’r rhaglen yn llawn amser dros 36 wythnos.

Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12-weeks wythnos yn y brifysgol a 24 wythnos mewn ysgol.

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd Israddedig

    Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd.

    Cymwysterau TGAU

    • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Saesneg – Iaith neu Cymraeg – Iaith neu safon gyfwerth.
    • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Mathemateg neu TGAU Rhifedd neu safon gyfwerth.
    • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Gwyddoniaeth neu safon gyfwerth.

    Cymwysterau Lefel A/Galwedigaethol Lefel 3

    Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig mewn pwnc cwricwlwm, rhaid iddynt brofi eu bod wedi astudio’n llwyddiannus ar lefelau uwch.

    Profiad Gwaith

    Dylech fod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac felly rydym yn gofyn am brofiad diweddar a pherthnasol o leoliad addysg uwchradd. Gall hyn fod trwy swydd neu drwy wirfoddoli mewn ysgol a ddylai fod am gyfnod o ddwy wythnos ar y lleiaf.

    Bydd magu hyder mewn ystafell ddosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais ac yn sail feirniadol well ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses dethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad.

    Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

    Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth a dylech sicrhau eu bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’.

    Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: yn dbs@pcydds.ac.uk

    Am beth ydym ni’n chwilio?

    • Safbwynt positif o addysg fel ffordd i drawsnewid bywydau
    • Cymhelliant i fod yn athro rhagorol
    • Awydd empathig i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc
    • Agweddau positif at gyfiawnder, cynhwysiant ac ecwiti cymdeithasol
    • Gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm
    • Egni, brwdfrydedd a hyblygrwydd
    • Gwydnwch a dibynadwyedd
    • Agweddau ac ymddygiad proffesiynol
    • Parodrwydd i ddysgu gydol eich oes

    Sut ydym ni’n dewis ein darpar athrawon?

    • Ansawdd y datganiad personol
    • Tystiolaeth o arbenigedd pwnc
    • Profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysgol
    • Ansawdd y cyfweliad unigol
    • Perfformiad mewn profion dethol – e.e. llythrennedd, rhifedd a chymeriad

    Fel rhan o’i hymrwymiad i ehangu mynediad, mae YDDS yn talu sylw arbennig i recriwtio darpar-athrawon o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac mae gan y brifysgol strategaeth farchnata ragweithiol ar gyfer ymgysylltu ag ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, grwpiau ag anableddau, cymunedau lleiafrifoedd ethnig a dysgwyr cyfrwng Cymru.

    Mae gan lawer o ysgolion ac adrannau colegau, yn lleol ac yn genedlaethol, gyn-athrawon dan hyfforddiant fel rhan o’u staff gyda llawer yn mynd ymlaen i greu gyrfaoedd addysgu.

  • Mae cynllun y rhaglen yn darparu’r cyfle i asesiadau gael eu cysylltu’n agos ag arfer ystafell ddosbarth a thynnu ar brofiad a geir o brofiad personol. Mae’r dull hwn yn sefydlu’r cysylltiadau rhwng dysgu deallusol a dysgu trwy brofiadau ymhellach.

    Er enghraifft, bydd rhaid i fyfyrwyr gynllunio, cynnal, gwerthuso a rhannu prosiect ymchwil agos i arfer a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar ddysgwyr. Lle bynnag y bo’n bosibl, caiff aseiniadau eu cyflwyno a’u marcio’n electronig i hwyluso adborth amserol ac effeithiol.

    Mae elfennau asesu’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, portffolio, fideo unigol a phrosiect ymchwil.

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn wynebu rhai costau ychwanegol na ellir eu hosgoi yn ogystal â chost eu hyfforddiant yn y brifysgol. Mae’r rhain fel a ganlyn:

    Costau gorfodol:

    • Teithio i ysgolion lleoliad ac i’r Brifysgol.
    • Teithio i ddarpariaeth arbenigol oddi ar y safle (gan gynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill).
    • Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau eraill ar gyfer y garfan gyfan, yn unol â’r calendr.
    • Y defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).

    Costau Angenrheidiol:

    • Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi pwnc a drefnir gan y Tiwtor Pwnc
    • Adnoddau addysgu, er enghraifft, gwerslyfrau Safon Uwch/TGAU
    • Teithio i leoliadau ‘Meysydd Dewisol’

    Dewisol:

    • Costau argraffu
    • Teithiau astudio dewisol
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion yn gyflogadwy iawn fel athrawon cymwysedig yng Nghymru a thu hwnt.

    Bydd graddedigion wedi’u paratoi gan set cryf o sgiliau meddwl beirniadol, dadansoddol a datrys problemau sy’n adlewyrchu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr y neu hystyried yn ddymunol iawn.

    Bydd graddedigion yn gweithio mewn rolau sy’n galw am sgiliau cydymffurfiaeth ddigidol, rhifedd a llythrennedd cadarn ynghyd â sgiliau cydweithio, rheoli amser a gweithio mewn amgylchedd cymhleth. Bydd natur y cynnwys ar draws y rhaglen arfaethedig - o ran darpariaeth ac asesiad - yn darparu graddedigion gyda phrofiad o gyflwyno gwaith trwy amrywiaeth o gyfryngau. Mae’r rhain yn sgiliau trosglwyddadwy iawn a ddefnyddir mewn amrywiaeth o opsiynau cyflogaeth.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau