Skip page header and navigation

Doethuriaeth mewn Addysg (Rhan amser) (EdD)

Abertawe
6 Blynedd Rhan amser

Mae’r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn ysgol neu mewn swydd gysylltiedig ag addysg, ac wedi’i hanelu’n benodol at y rheiny sy’n ymwneud ag addysg mewn ystod eang o swyddi:

  • athrawon
  • arweinwyr a rheolwyr mewn ysgolion
  • darlithwyr mewn sefydliadau AU ac AB
  • swyddogion y sectorau gwirfoddol a’r trydydd sector
  • staff awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol
  • sefydliadau hyfforddi ac ati.

Bydd y rhaglen yn rhoi i weithwyr addysg proffesiynol y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gwestiynu ymchwil, beirniadu theori, ac i gynnal ymchwil cadarn a fydd yn effeithio ar bolisi ac arfer yn eu maes gweithgarwch proffesiynol.

Mae’r rhaglen yn cynnig llwybr cyfunol, sy’n cynnwys cymysgedd o ddysgu wyneb i wyneb a dysgu o bell, ac fe’i rhennir yn ddwy ran gysylltiedig: Rhan 1, sy’n datblygu sgiliau ysgrifennu, ymchwilio a dadansoddi beirniadol myfyrwyr; a Rhan 2, sef cwblhau traethawd hir 60,000 o eiriau mewn maes diddordeb o ddewis y myfyriwr.

Mae mynychu pob sesiwn wyneb i wyneb yn orfodol, ni waeth beth yw’r llwybr dewisol (sylwer bod llawer mwy o sesiynau wyneb i wyneb ar y llwybr Llawn Amser). P’un a ydych yn astudio rhaglen Llawn Amser neu Ran Amser, cewch eich cefnogi trwy gydol y rhaglen gan dîm o ymarferwyr a staff academaidd profiadol, uchel eu parch.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
6 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Llwybr dysgu cyfunol, yn cynnwys astudiaeth grŵp ac annibynnol.
02
Lefelau uchel o gefnogaeth a her academaidd.
03
Modylau dulliau ymchwil a chyfleoedd i ymgymryd ag ymchwil ar raddfa fach cyn eich prosiect ymchwil annibynnol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant enw da hir-sefydlog am ragoriaeth ym maes dysgu proffesiynol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac ymchwil addysgol sy’n ffocysu ar addysgeg. Mae’r EdD yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn ysgol neu mewn rôl sy’n gysylltiedig ag addysg ac yn meddu ar yr awydd i gymhwyso astudiaethau academaidd i lefel uwch ac ymchwil sy’n rhoi sylw manwl i arfer.

Gellir astudio’r rhaglen yn Llawn Amser neu’n Rhan Amser.

Mae’r llwybr Llawn Amser yn gofyn i fyfyrwyr fynychu’r campws drwy gydol y flwyddyn academaidd, ac felly ni ellir ei astudio o bell. Mae mynychu sesiynau wyneb i wyneb yn orfodol ac mae’n bwysig bod myfyrwyr yn ymrwymo i fod yn rhan lawn o fywyd y brifysgol.

Mae’r llwybr Rhan Amser wedi’i gynllunio gydag addysgwyr wrth eu gwaith mewn golwg, a chefnogir y dysgu ar-lein gan ddau ddigwyddiad dysgu diwrnod wyneb i wyneb bob semester. Mae’r llwybr hwn yn boblogaidd ymysg addysgwyr wrth eu gwaith ac ymhlith ein myfyrwyr cyfredol mae athrawon, arweinwyr ysgol, darlithwyr coleg/prifysgol a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes addysg.

Yr elfen adfyfyrio ar arfer proffesiynol yw’r gwahaniaeth rhwng y ddoethuriaeth broffesiynol a dyfarniad PhD.
Mae strwythur a fformat y rhaglen wedi’i gynllunio fel bod myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd dysgu, gan gynnwys gwaith unigol, seminarau grŵp, gweithdai, darlithoedd ffurfiol a arweinir gan diwtoriaid, yn ogystal â thiwtorialau ar-lein mewn grwpiau ac yn unigol.

Mae’r llwybr Llawn Amser a Rhan Amser yn cynnwys dwy ran, Lefel 7 a addysgir ar gyfer Rhan 1 a phrosiect ymchwil seiliedig ar waith ar lefel doethurol (Lefel 8) yn Rhan 2.

Cyflwyniad i Ddulliau Ymchwil mewn Addysg

(30 credydau)

Dylunio a Rheoli Ymchwil mewn Addysg

(30 credydau)

Archwilio Materion Cyfoes mewn Addysg 2: cymhwyso sgiliau beirniadol, cyfrannu at wybodaeth: arwain gwelliant

(60 credydau)

Archwilio Materion Cyfoes mewn Addysg 1: Adolygu Polisi a Dadansoddi Beirniadol

(30 credydau)

Ysgrifennu Adolygiad Beirniadol o Lenyddiaeth mewn Addysg

(30 credydau)

Traethawd Ymchwil

(360 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Yn ddelfrydol, byddwch yn gweithio mewn lleoliad addysgol neu leoliad sy’n gysylltiedig ag addysg ac eisoes yn meddu ar radd Meistr; fodd bynnag, anogir ymgeiswyr a chanddynt beth profiad o astudio ar Lefel 7 a phrofiad sylweddol o arweinyddiaeth i wneud cais.

    Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg na’r Gymraeg yn iaith frodorol iddynt ddarparu tystiolaeth o gymhwysedd yn y Saesneg neu’r Gymraeg sy’n ddigonol ar gyfer astudiaethau ymchwil, yn unol â’r disgwyliadau a nodir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd (LlAA) adeg y cais. Bydd ceisiadau myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu prosesu fel y’i nodir ym Mholisi Derbyn PCYDDS adeg y cais.

  • Mae ystod o brosesau asesu’n berthnasol i’r modylau a addysgir gan gynnwys cyflwyniadau, blogiau, aseiniadau seiliedig ar fideo a rhai ysgrifenedig.

    Caiff Rhan 2 ei hasesu ar ffurf prosiect ymchwil seiliedig ar waith 60,000 o eiriau ac arholiad viva voce.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen wedi’i hanelu, yn bennaf, at y rheiny sydd eisoes mewn gwaith.  Fodd bynnag, fe fydd yn cyfoethogi a hyrwyddo cynnydd pellach yng ngyrfaoedd a chyfleoedd gyrfa myfyrwyr. Bydd y sgiliau dadansoddi a throsglwyddadwy cryf sy’n rhan annatod o’r rhaglen yn werthfawr i ystod o lwybrau gyrfa a meysydd galwedigaethol o fewn y cyd-destun addysgol eang.

    Gyda ffocws penodol ar ddatblygu sgiliau ymchwil, dadansoddi a gwerthuso o radd uwch, bydd yr Ed D yn rhoi i’w fyfyrwyr set gadarn o sgiliau meddwl yn feirniadol, dadansoddi a datrys problemau. Awgryma’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer y sector addysg fod galw cynyddol am y sgiliau hyn ar draws y maes cyflogaeth hwn.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau