Skip page header and navigation

Addysg Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg (Rhan amser) (ProfDoc)

Llambed
6 Blynedd Rhan amser

Mae’r Rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol yn cynnig cyfle i weithwyr proffesiynol Iaith Saesneg ennill cymhwyster ymchwil ar lefel doethuriaeth sy’n gysylltiedig â’u maes gwaith neu arbenigedd proffesiynol.

Mae doethuriaeth broffesiynol gyfwerth â PhD trwy ymchwil mwy traddodiadol o ran y cyfraniad gwreiddiol i wybodaeth y mae disgwyl i ymgeisydd ei wneud mewn maes penodol, ond mae’n cynnwys rhan a addysgir yn ogystal â’r ymchwil estynedig y bydd pob myfyriwr yn ei wneud. 

Mae myfyrwyr y rhaglen hon yn cwblhau chwe modiwl sy’n cwmpasu meysydd addysg, llenyddiaeth ac ieithyddiaeth Saesneg, cyn cychwyn ar brosiect ymchwil sy’n ymwneud â’u diddordebau a’u profiad proffesiynol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
6 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfle i gamu ymlaen yn eich gyrfa trwy radd doethuriaeth sy’n gysylltiedig â’ch profiad proffesiynol.
02
Y posibilrwydd o gynnal ymrwymiadau proffesiynol
03
3. Modiwlau a addysgir sy'n cwmpasu meysydd allweddol Addysg Iaith Saesneg

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn ystod y rhan o’r rhaglen a addysgir (Rhan 1, Blwyddyn 1), mae myfyriwr yn astudio chwe modiwl sy’n cwmpasu addysg, llenyddiaeth ac ieithyddiaeth Saesneg. 

Mae pob modiwl yn werth 30 credyd (cyfanswm o 180 credyd) ac yn cael ei asesu drwy aseiniadau gwaith cwrs.

Cyfnod o ymchwil uwch dan oruchwyliaeth (Blynyddoedd 2 a 3) yn arwain at gyflwyno portffolio ymchwil, gan gynnwys traethawd ymchwil hir o 60,000 o eiriau, ar ddiwedd Blwyddyn 3 yw Rhan 2 y rhaglen (gwerth 360 credyd). 

Materion Allweddol mewn Ieithyddiaeth

(30 credydau)

Addysg Athrawon Iaith Saesneg

(30 credydau)

Damcaniaethau Cyfredol ym maes Caffael Ail Iaith

(30 credydau)

Amrywiad a Newid Iaith

(30 credydau)

Adeiladu Bydoedd Bach: Y Stori fer yn Saesneg

(30 credydau)

Portffolio Ymchwil: Addysg Iaith Saesneg

(360 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer mae gofyn bod gan ymgeiswyr o leiaf radd anrhydedd ail ddosbarth uwch neu radd Meistr sy’n berthnasol i’r rhaglen arfaethedig a ddyfernir gan Brifysgol neu sefydliad addysg uwch cydnabyddedig arall yn y DU, neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol (CNAA) er mwyn astudio ar gyfer gradd Doethuriaeth Broffesiynol. 

    Mae o leiaf tair blynedd o brofiad gwaith diweddar a pherthnasol yn ddymunol. Bydd pob cais yn cael ei asesu yn ôl ei rinweddau ei hun.

    Gofynion Iaith Saesneg ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol: 

    Sgôr IELTS cyffredinol cyfwerth â 6.0 neu’n uwch gyda sgôr o 5.5 neu’n uwch ym mhob rhan o’r prawf. 

  • Caiff pob modiwl ei asesu drwy amrywiaeth o aseiniadau gwaith cwrs a all gynnwys traethodau, cyflwyniadau, dadansoddiad ac ymarferion testunol, adolygiadau o lyfrau, astudiaethau achos ac aseiniadau eraill.

  • Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr
    Fel sefydliad, rydym yn ceisio gwella profiad y myfyriwr yn barhaus ac o ganlyniad, efallai y bydd costau ychwanegol i’r myfyriwr ar weithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, bydd y costau hyn yn cael eu cadw mor isel â phosibl a bydd y gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol. 

    Teithiau maes a chostau lleoliadau gwaith
    Gall teithiau maes dewisol gael eu cynnig i fyfyrwyr.  Bydd myfyrwyr yn cael gwybod am y costau ar gyfer y teithiau yn y DU ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.  Bydd myfyrwyr sy’n mynd ar leoliadau gwaith yn gorfod talu costau teithio, costau byw a chost llety o bosib.  

    Costau ymchwil
    Rhaid i’r myfyriwr ysgwyddo’r costau sy’n gysylltiedig â’r traethawd ymchwil yn Rhan 2 o’r rhaglen. Mae gan y Brifysgol sawl ysgoloriaeth a chynllun bwrsariaeth i helpu i dalu costau ymchwil.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae ystod eang o gyfleoedd gyrfa i raddedigion y rhaglen hon, gan gynnwys

    • Dysgu mewn sefydliad Addysg Uwch
    • Dysgu Saesneg fel ail iaith
    • Saesneg at ddibenion academaidd
    • Y cyfryngau a chyfathrebu, newyddiaduraeth
    • Cyhoeddi 

    Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn rhoi cymorth arbenigol i wella cyfleoedd gyrfa a chyflogaeth myfyrwyr yn ystod y cwrs ac ar ôl graddio.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau