Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (Llawn amser) (MA)
Mae’r MA Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) yn gyfle i fyfyrwyr ennill y wybodaeth a’r sgiliau y byddent eu hangen er mwyn addysgu Saesneg i ddysgwyr o wahanol oedrannau ac â gwahanol anghenion addysgol. Dyma gwrs sydd wedi’i ddylunio ar gyfer myfyrwyr cartref neu ryngwladol sy’n dymuno dechrau ar yrfa lle bydden nhw’n addysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill.
Nod y rhaglen yw hyfforddi gweithwyr addysgu iaith sy’n hunanfyfyriol ac sydd â sylfaen gadarn o sgiliau ym meysydd gwaith ymchwil, ieithyddiaeth gymhwysol, caffael ail iaith ac addysgu ieithoedd.
Mae’r rhaglen yn rhoi pwyslais ar sgiliau ymchwil cymhwysol, a bydd cyfleoedd i raddedigion llwyddiannus wneud rhagor o waith ymchwil ar lefel doethuriaeth.
Rhaid i’r holl fyfyrwyr rhyngwladol ar y rhaglen brofi eu bod yn bodloni gofynion Saesneg y Brifysgol ar gyfer astudio ar lefel Meistr: Sgôr IELTS Saesneg cyfartalog o 6.0 (neu gyfwerth), heb unrhyw sgôr yn is na 5.5 mewn darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Dysgu o bell
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
I ddechrau, bydd myfyrwyr yn astudio pedwar modiwl 30 credyd sy’n ffurfio Rhan 1 (120 credyd) y cwrs gradd. Yn Rhan 2 (60 credyd), bydd myfyrwyr yn ysgrifennu traethawd hir ymchwil o dan oruchwyliaeth academydd profiadol a gweithgar ym myd ymchwilio.
Bydd y cwrs yn para 1-2 flynedd ar gyfer myfyrwyr llawn-amser (Blwyddyn 1 i gwblhau Rhan 1, Blwyddyn 2 ar gyfer gwaith ymchwil y traethawd hir) a 3-4 mlynedd ar gyfer myfyrwyr rhan-amser (Blynyddoedd 1-2 ar gyfer Rhan 1 a Blynyddoedd 3-4 ar gyfer Rhan 2). Fodd bynnag, mae modd cwblhau’r rhaglen o fewn blwyddyn o astudio llawn-amser (12 mis, neu 3 tymor o astudio ac ymchwilio heb seibiant). Mae amserlen y llwybr carlam hwn fel a ganlyn:
Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn cwblhau pedwar modiwl 30 credyd sy’n ffurfio Rhan 1 (120 credyd) y cwrs gradd. Yn Rhan 2 (60 credyd), bydd myfyrwyr yn ysgrifennu traethawd hir ymchwil o dan oruchwyliaeth academydd profiadol a gweithgar ym myd ymchwilio.
Caiff y rhaglen ei chyflwyno dros gyfnod o dri semester (mis Hydref tan fis Medi) heb egwyl ac felly mae modd ei chwblhau o fewn blwyddyn (12 mis). Mae’r amserlen fel a ganlyn:
Gorfodol
(30 credydau)
(30 credydau)
(60 credydau)
(15 credydau)
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Bydd disgwyl i ymgeiswyr fod â gradd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail uwch), ond gan fod pob cais yn cael ei ystyried yn unigol gallwn gynnig lleoedd ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiad perthnasol. Gall ymgeiswyr sydd â gradd is neu ddim gradd o gwbl gael eu derbyn ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma i Raddedigion, a bydd cyfle iddynt symud i lefel gradd Meistr os byddan nhw’n gwneud yn dda.
-
Mae’r strategaeth asesu y rhaglen yn cynnwys asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Mae’r asesiadau ffurfiannol yw defnyddio’r ffurf ‘asesiad troellog’, sydd yn annog myfyrwyr i ailedrych ac i ailddefnyddio’r safonau sydd wedi’u cynnwys mewn modiwlau blaenorol. Yn yr un modd, disgwylir y bydd hunan-fyfyrio yn un o agweddau proffesiynol pob un o raddedigion y rhaglen hon, a bydd yn cael ei ymgorffori a’i ymarfer trwy aseiniadau penodol ym mhob modiwl.
Mae fformatau asesu nodweddiadol yn cynnwys traethodau, cyflwyniadau llafar, adolygiadau beirniadol, arddangosiadau o addysgu, ac aseiniadau ysgrifenedig byr eraill.
Mae asesiadau’r modiwlau wedi’u cynllunio i baratoi myfyrwyr ar gyfer y dasg o gyflwyno traethawd hir MA yn Rhan 2. Mae rhai modiwlau felly’n defnyddio patrwm asesu safonol sy’n cynnwys un neu ddau o draethodau hirach yn ogystal â chyflwyniad. Mewn rhai modiwlau, fodd bynnag, bydd cynnydd myfyrwyr yn cael ei asesu trwy ddefnyddio fformat y portffolio. Mae’r portffolio yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran asesu sgiliau â ffocws proffesiynol, ar y cyd ac yn unigol, o gymharu â’r fformat traethawd/cyflwyniad arferol. -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) yn faes lle mae mwy a mwy o bobl yn cael eu cyflogi. Bydd y sgiliau a ddysgwch yn ar y cwrs hwn (e.e. cynllunio gwersi, sgiliau cyflwyno, profiad yn yr ystafell ddosbarth, sgiliau ymchwilio) yn gallu cael eu trosglwyddo i ieithoedd eraill ac i ystod o sefyllfaoedd proffesiynol eraill.
O ran gyrfaoedd, gallwch ddod yn diwtor iaith mewn amrywiaeth o wahanol gyd-destunau yn y sector preifat neu gyhoeddus, yn athro cynradd/uwchradd, neu’n hyfforddwr galwedigaethol/diwydiant.