Skip page header and navigation

MA Addysg (Cymru) (Rhan amser) (MA)

Abertawe
3 Blynedd Rhan amser (neu dwy i’r nifer sydd yn cyd-fynd ar y credydau lefel 7 priodol)

Rhaglen wirioneddol drawsnewidiol sy’n arwain y sector.

Mae’r byd addysg yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella.

Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gydweithio’n uniongyrchol ag amrywiaeth o ran ddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru-yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud ag ymchwil, a gwella eu hymarfer proffesiynol.

Mae’r cwrs yn hyblyg mewn ymateb i’ch gofynion, gan gynnig y cyfle i arbenigo mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol neu mewn Arweinyddiaeth, neu i ddewis modylau o’r ddau faes. Mae rhagor o wybodaeth am y llwybrau ar gael yn y Trosolwg o’r Cwrs isod.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Rhan amser (neu dwy i’r nifer sydd yn cyd-fynd ar y credydau lefel 7 priodol)

Pam dewis y cwrs hwn

01
Yr Athrofa: Y Ganolfan Addysg yw calon darpariaeth addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae wedi’i hadeiladu ar draddodiad hir o arloesi sy’n dyddio o 1848, ac felly, hon yw’r ganolfan hyfforddi athrawon hynaf yn y wlad.
02
Erbyn hyn, mae’r Athrofa yn croesawu mwy na 300 o athrawon dan hyfforddiant y flwyddyn, gan ymgymryd ag amrywiaeth eang o ymchwil addysgol sy’n canolbwyntio yn arbennig ar ymchwil agos at arfer.
03
Mae’r Athrofa: Y Ganolfan Addysg yn amgylchedd bywiog ac arloesol lle y gallwch ddysgu, rhwydweithio a dylanwadu ar addysg yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs yn un rhan-amser am dair blynedd. Nid oes opsiwn llawn amser.

Gall myfyrwyr gychwyn ym mlwyddyn 2 o’r rhaglen os gallant ddangos tystiolaeth eu bod wedi cwblhau 60 credyd lefel 7 yn rhan o’u cymhwyster TAR, NEU wneud cais llwyddiannus i gydnabod dysgu blaenorol (RPL) sydd gyfwerth â 60 credyd. Gweler MA Addysg (Cymru) Polisi RPL i gael manylion yn cynnwys terfynau amser. Bydd myfyrwyr yn cael cefnogaeth i gwblhau’r broses hon.

Gorfodol

Sgiliau Ymchwilio ac Ymholi Uwch

(20 credydau)

Traethawd Hir

(60 credydau)

Dewisol

Anghenion Dysgu Ychwanegol - Rhagoriaeth ar Waith

(20 credydau)

Dylunio a Gwireddu'r Cwricwlwm

(20 credydau)

Iechyd Emosiynol, Iechyd a Llesiant Meddyliol

(20 credydau)

Tegwch ac Amrywiaeth

(20 credydau)

Archwilio Addysgeg

(20 credydau)

Arfer Cynhwysol yn yr Ystafell Ddosbarth

(20 credydau)

Arwain a Rheoli ADY

(20 credydau)

Arwain a Rheoli Gweithwyr Addysg Proffesiynol

(20 credydau)

Arwain Newid Sefydliadol

(20 credydau)

Arwain o Fewn ac Ar Draws Systemau Addysg

(20 credydau)

Arwain ac Arloesi'r Cwricwlwm

(20 credydau)

Ymateb i Effeithiau Tlodi ac Anfantais mewn Addysg

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Meini prawf ar gyfer lleoedd a ariennir (noder nad yw pob un o’r meini prawf yma yn berthnasol i athrawon sydd yn gwneud cais am le a ariennir yn sgîl eu haelodaeth o’n partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon, PDPA). Am fanylion ynglŷn â’r llwybr hon, cysylltwch yn uniongyrchol ag a.brychan@pcydds.ac.uk)

    Rhaid i bob ymgeisydd fodloni gofynion mynediad academaidd y Brifysgol. I fod yn gymwys, rhaid i chi fod:

    • Yn byw yng Nghymru
    • Yn meddu ar radd neu gymhwyster cyffelyb
    • Yn ddeiliad Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu (fel athro ysgol). Rhaid cadw’r statws hwn trwy gydol y rhaglen
    • Yn gyflogedig gan ysgol a gynhelir yng Nghymru fel athro
    • Yn gyflogedig ar gytundeb 0.4 neu fwy. Gall hyn gynnwys athrawon cyflenwi sydd ar gontractau tymor hir naill ai gydag awdurdod lleol, ysgol neu asiantaeth.
    • Ym mlwyddyn 3 i flwyddyn 6 o ymarfer wedi cwblhau’r cyfnod sefydlu, ar ddechrau’r cwrs.
    • Wedi eich derbyn/cofrestru i gwblhau’r radd meistr arbennig hwn gydag un o’r saith Prifysgol sydd yn ei ddarparu
    • Â chefnogaeth eu pennaeth lle bo hynny’n bosibl
    • Os ydych eisoes wedi cyflawni Meistr arall mewn pwnc penodol, rydych yn dal yn gymwys i wneud cais am y cyllid tuag at y rhaglen hon
    • Noder: Nid yw graddau meistr eraill a gynigir gan y Brifysgol yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn

    Amodau penodol y cyllid – ADY / Llwybr Arweinyddiaeth - pob blwyddyn

    Rhaid i bawb sydd am wneud cais am gymorth gydnabod yr amodau cyllido penodol canlynol a chytuno â nhw.

    Drwy dderbyn y cynnig grant hwn, rhaid i ymarferwyr weithio fel athro neu ddarlithydd yn un o’r lleoliadau canlynol am o leiaf ddwy flynedd ar ôl cwblhau’r rhaglen.

    • Ysgol a gynhelir/uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru;
    • Sefydliad addysg bellach yn y sector addysg bellach yng Nghymru;
    • Ysgol annibynnol gofrestredig;
    • Coleg arbenigol.

    Ni ddylai ymgeiswyr sy’n cael y cyllid hwn wneud cais am ragor o gymorth cyllido astudiaethau ôl-raddedig drwy’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

    Y broses ar gyfer cael y cyllid  

    Caiff y grant ei sefydlu rhwng Llywodraeth Cymru a’r sefydliadau addysg uwch sy’n rhan o’r rhaglen. Ni fydd unigolion yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru nac i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr am gymorth.”

    Meini prawf ar gyfer myfyrwyr nad sydd yn gymwys i dderbyn cyllid:

    Mae gofyn i ymgeiswyr nad sydd yn gymwys i dderbyn lle wedi ei ariannu (h.y. y sawl NAD ydynt ym mlynyddoedd 3-6 o’u gyrfa dysgu) fod wedi cwblhau cymhwyster TAR o fewn y bum mlynedd diwethaf gan amlaf. Byddant felly yn gymwys i gael Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol ac felly yn gallu cychwyn ar flwyddyn dau o’r rhaglen. Y ffi ar gyfer y myfyrwyr yma yw £9,750.

  • Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i’w datblygu eu hunain.

  • Cyllido Cwestiynau Cyffredin:

    Mae meini prawf cymhwysedd y cyllid yn datgan bod yn rhaid imi fod ym mlwyddyn 3 i 6 o ymarfer ar ddechrau’r cwrs. Beth mae hyn yn ei olygu?

    Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ichi fod ym mlynyddoedd 3 i 6 o’ch gwaith addysgu ar ôl cwblhau eich cyfnod sefydlu fel ANG pan fydd y cwrs i fod i ddechrau (nid pan fyddwch yn cyflwyno cais)

    Oes rhaid imi fod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg?

    Oes, er mwyn bod yn gymwys am gyllid mae’n rhaid ichi fod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol. Mae’n rhaid cynnal hyn am hyd y cwrs.

    Pam mae’r cyllid ar gael i athrawon sydd ym mlynyddoedd 3 i 6 o ymarfer yn unig?

    Llywodraeth Cymru sy’n cynnig y cyllid ar gyfer y rhaglen hon, fel rhan o’r Pecyn i Athrawon Gyrfa Gynnar.

    Ar ôl cwblhau fy nghyfnod sefydlu fel ANG, treuliais gyfnod yn gweithio dramor / cymerais saib yn fy ngyrfa. Ydy hyn yn cyfrif?

    Ni chaiff amser a dreuliwyd yn gweithio fel athro y tu allan i’r DU, neu amser a gymerwyd fel saib yn eich gyrfa, ei gyfrif fel blynyddoedd yn ymarfer.

    Oes angen imi feddu ar gontract athro am isafswm cyfnod, e.e. tymor neu flwyddyn academaidd? Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghontract yn dod i ben yn ystod y rhaglen?

    Ydych, ar yr amod bod cyfanswm eich contractau yn 0.4CALl neu’n uwch, byddwch chi’n gymwys i gyflwyno cais am gyllid

    Mae gen i gyflogaeth fel athro mewn nifer o ysgolion ac mae cyfanswm fy nghontractau yn werth mwy na 0.4 CALl. Ydw i’n gymwys am gyllid?

    Gallwch, ar yr amod bod cyfanswm eich contractau yn 0.4CALl neu’n uwch, byddwch chi’n gymwys i gyflwyno cais am gyllid.

     Rwy’n athro rhan-amser a/neu’n athro cyflenwi. Ga i gyflwyno cais am gyllid?

    Cadarnheir cymhwysedd ar ddechrau’r rhaglen. Ar yr adeg honno, bydd yn rhaid i chi feddu ar gontract ar gyfer o leiaf un tymor.

    Oes rhaid imi ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl imi gwblhau’r MA mewn Addysg?

    Wrth dderbyn y cyllid hwn, mae gofyn i athrawon barhau i weithio yng Nghymru, yn y system addysg a gynhelir am isafswm o 2 flynedd ar ôl cwblhau’r rhaglen.

    Oes gofyniad o ran cyfnod preswylio cyn i’r cwrs ddechrau?

    Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid eich bod wedi bod yn preswylio yng Nghymru am 3 blynedd cyn dechrau’r cwrs ac mae’n rhaid ichi aros yng Nghymru am hyd y rhaglen.

    Hoffwn i hunan ariannu; faint yw’r ffioedd?

    £6,500

    Rydw i wedi astudio ar lefel Meistr o’r blaen. Ydw i’n gymwys am gyllid ar gyfer y rhaglen hon?

    Os ydych chi wedi astudio pwnc penodol ar raglen Meistr o’r blaen, rydych yn dal i fod yn gymwys i gyflwyno cais am gyllid (ar yr amod eich bod yn bodloni’r holl feini prawf eraill). Sylwer na fyddwch yn gymwys i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer yr MA Cenedlaethol os ydych wedi astudio MEd a ariannwyd o’r blaen.

    Roedd fy nghais am gyllid yn aflwyddiannus. Beth yw fy opsiynau?

    Os na fydd eich cais am gyllid yn llwyddiannus, gallai fod modd ichi gael lle ar y cwrs o hyd, fel myfyriwr sy’n hunan ariannu.

    Roedd fy nghais am gyllid yn aflwyddiannus. Sut ga i apelio yn erbyn y penderfyniad?Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn fodlon ar benderfyniad Panel Dyfarnu Cyllid yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) gysylltu â Chadeirydd y Panel yn y lle cyntaf.

    Pwy sy’n penderfynu ar ddyrannu cyllid?

    Wrth dderbyn eich cais, bydd y Tîm Derbyn Myfyrwyr yn y sefydliad o’ch dewis yn sicrhau eich bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Yna bydd Panel Dyfarnu Cyllid yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn asesu pob cais cymwys er mwyn pennu’r canlyniad a dyfarnu cyllid i’r rhai sy’n llwyddiannus. Mae’r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o bob prifysgol sy’n bartner, ac mae’n atebol i’r Bwrdd Rheoli Cenedlaethol (sydd ag aelodau o Lywodraeth Cymru), er mwyn sicrhau atebolrwydd a goruchwyliaeth eglur. 

    Sawl lle a ariennir sydd ar gael?

    Mae 500 o leoedd a ariennir ar draws partneriaeth yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru)

    Ydw i’n gymwys am fenthyciad myfyriwr?

    Os dyfernir cyllid Llywodraeth Cymru ichi ar gyfer yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), mae’n rhaid ichi beidio â chyflwyno cais am gymorth ariannol i ôl-raddedigion drwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) hefyd. Caiff myfyrwyr nad ydynt yn derbyn cyllid Llywodraeth Cymru gyflwyno cais i’r SLC.

  • Cynlluniwyd ar gyfer athrawon cymwysedig lle bynnag y bônt yn eu gyrfa.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau