Skip page header and navigation

Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol) gyda Chymraeg (Ôl-raddedig)

Abertawe
1 flwyddyn Llawn Amser

Datblygwyd y rhaglen hon yn sgil ymgynghoriad sydd wedi nodi galw am raglen hyfforddi athrawon ôl-16 sy’n cefnogi camau i ddatblygu a gwella sgiliau iaith Gymraeg i’w defnyddio ar lawr dosbarth.

Bydd y rhaglen yn defnyddio’r modylau, y strategaeth addysgu ac asesu yn ogystal â’r gweithgarwch lleoliad er mwyn ymgorffori datblygiad sgiliau iaith Gymraeg a’u trwytho trwy’r rhaglen. Darparu amgylchedd cyson a chefnogol lle gall hyfforddeion adeiladu eu hyder gyda defnyddio’r Gymraeg wrth addysgu.

Sylwer nad yw’r rhaglen hon yn rhoi Statws Athro Cymwysedig. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn Llawn Amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cynigia’r cwrs hwn i’r rhai sydd â gradd mewn pwnc nad yw wedi’i ddysgu’n eang ar gyrsiau TAR megis seicoleg, y gyfraith, y cyfryngau, nyrsio gyfle i sicrhau cymhwyster addysgu proffesiynol sydd ei angen i addysgu eu harbenigedd pwnc.
02
Cymhwyster hyblyg a throsglwyddadwy, cydnabyddir y dyfarniad hwn ar draws y sector ôl-orfodol.
03
Cynigiwn feintiau dosbarth bach i helpu i hwyluso trafodaeth mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol lle mae dod i’ch adnabod yn fyfyriwr yn ganolog i bopeth a wnawn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cynigia’r cwrs hwn gyfle unigryw i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder o ran defnyddio’r Gymraeg wrth addysgu yn rhan o’r rhaglen, sef sgil allweddol ar gyfer y sector ôl-orfodol yng Nghymru heddiw.

Mae astudio ar gyfer cymhwyster ôl-raddedig neu broffesiynol yn fuddsoddiad yn eich gyrfa. Rydyn ni’n anelu at roi’r dulliau i chi allu trawsnewid eich bywyd a rhoi i chi addysg sy’n eich gwneud chi’n hyderus a chymwys i gofleidio eich dewis lwybr gyrfa.

Lefel 6

Gwahaniaethu, ADY ac Arfer Cynhwysol

(10 credyd)

Sgiliau Digidol ar gyfer Dysgu ac Addysgu Arloesol

(20 credyd)

Cefnogi a Hyrwyddo Ymgysylltu gan Ddysgwyr

(10 credyd)

Pecyn Cymorth yr Ymarferydd Addysgu 1

(20 credyd)

Lefel 7

Yr Ymarferydd Proffesiynol Ôl-16

(20 credyd)

Pecyn Cymorth yr Ymarferydd Addysgu 1

(20 credyd)

Ymchwil Gweithredol mewn Addysg

(20 credyd)

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

    • Yn achos y Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen bod ymgeiswyr radd israddedig ar radd 2.2 neu uwch.
    • Yn achos Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen cymhwyster lefel tri perthnasol ynghyd ag addysgu a/neu brofiad hyfforddi.
    • Nid yw’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PCET) yn ddyfarniad y dylid cofrestru arno a gall myfyrwyr drosglwyddo i hyn o’r Dystysgrif Raddedig Broffesiynol (PCET) mewn rhan dau os byddant yn bodloni’r meini prawf.
  • Mae asesiad y rhaglen wedi’i adeiladu ar egwyddorion ymarfer adfyfyriol ac yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau megis portffolios, adfyfyrdodau ysgrifenedig, adroddiadau, blogiau, arsylwadau ffurfiol ymarfer proffesiynol a phosteri.

  • Mae gwiriadau manwl DBS yn orfodol yn rhan o ofynion mynediad y rhaglenni, a’r ymgeiswyr sy’n gyfrifol am gostau ychwanegol hyn.

    Gall teithio i’r lleoliad profiad addysgu proffesiynol greu costau i’r myfyriwr a gallant amrywio yn dibynnu ar ble mae’r lleoliad. Pan drefnir lleoliadau ar ran y myfyriwr, gwneir pob ymdrech i fodloni gofynion unigol (gan gynnwys dewisiadau lleoliad) ond ni ellir gwarantu hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion o’r rhaglen yn gyflogadwy dros ben mewn amrywiaeth o sectorau addysgu a hyfforddi ar draws amrywiaeth fawr o broffesiynau.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau