Skip page header and navigation

Astudiaethau Addysg (Rhan amser) (BA Anrh)

Abertawe
6 Blynedd Rhan amser
88 o Bwyntiau UCAS

Nod y rhaglen hon yw eich paratoi gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i weithio gyda dysgwyr o bob oed ac mewn amrywiaeth o leoliadau. Rydym yn ceisio datblygu ein dysgwyr i fod yn feddylwyr beirniadol annibynnol sy’n barod i ymgysylltu a gweithredu fel asiantau newid yn y DU ac yn fyd-eang.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Cyfunol (ar y campws)
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
6 Blynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae cyfle i astudio amrywiaeth o bynciau cysylltiedig ag addysg sy’n berthnasol i ystod eang o yrfaoedd gydag opsiynau llwybrau unigryw yn eich caniatáu i ddewis arbenigedd ar gyfer eich astudiaethau mewn maes sy’n gweddu i chi.
02
Meintiau dosbarthiadau llai gyda darlithwyr cefnogol a phrofiadol sy'n rhoi'r dysgwr wrth galon y rhaglen
03
Mae sesiynau wedi'u hamserlennu mewn ffordd sy'n addas i deuluoedd sy'n eich galluogi i astudio mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen yn seiliedig ar archwilio addysg o safbwyntiau hanes, athroniaeth, seicoleg a chymdeithaseg, a thrwy hynny gynnig mewnwelediadau beirniadol i chi i faterion allweddol o sut mae dysgu’n cael ei drefnu a’r ffactorau sy’n dylanwadu arno. Rydym hefyd yn archwilio materion addysgol ehangach fel cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ogystal â dysgu creadigol, dewisiadau amgen i addysg brif ffrwd ac ymgysylltu â’r gymuned.

Bydd y rhaglen yn archwilio materion fel:

  • Pam mae gennym ni’r system addysg sydd gennym ni yn y DU nawr?
  • Pa rôl mae gwleidyddiaeth yn ei chwarae mewn addysg?
  • Sut mae plant ac oedolion yn dysgu a sut alla i gefnogi hynny orau?
  • Sut olwg sydd ar systemau addysg ledled y byd?
  • Pa sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen ar bobl yn yr 21ain ganrif a pham?
Addysg: ddoe, heddiw, yfory

(20 credydau)

Datblygiad ar draws y rhychwant oes

(20 credydau)

Damcaniaeth ac Arfer Dysgu

(20 credydau)

Parchu Hawliau Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru

(20 credydau)

Mae Pawb yn Golygu Pawb

(20 credydau)

Amgylcheddau dysgu amgen

(20 credydau)

Dysgu Ymgysylltiedig â'r Gymuned

(20 credydau)

Y 3 R

(20 credydau)

Dysgwyr sy'n oedolion a dysgu

(20 credydau)

Llesiant mewn Addysg

(20 credydau)

Astudiaethau Cwricwlwm ac Asesu

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Gwneud Gwahaniaeth Gyda'n Gilydd

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Y cynnig nodweddiadol ar gyfer y rhaglen hon yw 88 pwynt UCAS.

    Mae’r rhaglen Astudiaethau Addysg a’r rhaglenni llwybr cysylltiedig wedi’u bwriadu ar gyfer ymadawyr ysgol Safon Uwch yn ogystal â’r rhai sydd wedi gadael addysg ac sydd bellach eisiau dychwelyd.

    Rydym hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar gefnogi ac annog myfyrwyr mynediad ansafonol ac rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â sgiliau a phrofiad bywyd perthnasol yn ogystal â’r potensial academaidd i lwyddo gyda ni.

    Yn ystod blwyddyn gyntaf y cwrs, rydym yn teilwra ein modiwlau a’n hasesiadau i’ch cefnogi’n weithredol wrth i chi integreiddio i astudiaeth addysg uwch ac yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Myfyrwyr i roi’r holl help sydd ei angen arnoch i wneud y gorau o’ch astudiaethau.

  • Asesir myfyrwyr mewn amryw o ffyrdd i helpu i ddatblygu sgiliau astudio annibynnol yn ogystal â gweithio mewn tîm. Nid ydym yn asesu yn defnyddio arholiadau ond yn hytrach yn defnyddio ystod amrywiol o ddulliau megis portffolios, cyflwyniadau, posteri academaidd yn ogystal ag ystod o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n seiliedig ar ymchwil.

  • Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu cost gwerslyfrau hanfodol, ac am gynhyrchu unrhyw draethodau, aseiniadau a thraethodau hir sy’n ofynnol i gyflawni’r gofynion academaidd ar gyfer pob rhaglen astudio.

    Bydd costau pellach hefyd ar gyfer y canlynol, na ellir eu prynu gan y Brifysgol:

    • Deunydd ysgrifennu
    • Llyfrau
    • Gwaith maes
    • Dillad
    • Argraffu a chopïo
    • Gwiriad DBS
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio addysg. Mae gennym boblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, ac mae gan bob un ohonynt un peth yn gyffredin, yr awydd i ddeall a gweithio ym myd addysg. Os ydych chi’n ansicr ynghylch yr union yrfa y mae gennych ddiddordeb ynddi, yna gallai’r hyblygrwydd a gynigir gan y cwrs hwn i archwilio ac ystyried ystod o gyfleoedd ei gwneud yr un iawn i chi.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau